Teyrnged teulu i ferch a fu farw yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dynes a fu farw mewn gwrthdrawiad ffordd yn Sir Benfro ddydd Sul wedi rhoi teyrnged iddi.
Roedd Ella Smith yn 21 oed ac yn byw yn ardal Camros.
Bu farw mewn gwrthdrawiad rhwng tri char ar y B4341 rhwng Hwlffordd ac Aberllydan nos Sul.
Mae'r heddlu'n parhau i apelio am dystion i'r digwyddiad.
Mewn datganiad, dywedodd y teulu: "Mae colli ein annwyl Ella wedi ein dinistrio. Roedd hi'n ferch, chwaer ac wyres hoffus a gofalgar.
"Roedd hi'n ferch brydferth y bydd pawb ohonom yn ei cholli'n arw.
"Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth yn ystod yr adeg erchyll hon. Mae wedi golygu cymaint i'r teulu cyfan wrth i ni alaru am ein Ella."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021