Daniel Morgan: 'Llygredd sefydliadol' yn Heddlu'r Met

  • Cyhoeddwyd
Daniel MorganFfynhonnell y llun, Llun Teulu

Mae panel wedi cyhuddo Heddlu'r Met o "fath o lygredd sefydliadol" am guddio a gwadu eu methiannau dros lofruddiaeth yr ymchwilydd preifat Daniel Morgan, sydd heb ei datrys.

Amcan cyntaf yr heddlu oedd "amddiffyn ei hun" am fethu â chydnabod ei methiannau ers llofruddiaeth Mr Morgan, meddai cadeirydd y panel y Farwnes Nuala O'Loan.

Dywedodd yn yr adroddiad bod ymddiheuriad yn ddyledus i deulu Mr Morgan a'r cyhoedd.

Cafodd Mr Morgan, o Lanfrechfa ger Cwmbrân, ei lofruddio gyda bwyell mewn maes parcio tafarn yn ne-ddwyrain Llundain yn 1987.

Er gwaethaf pum ymholiad gan yr heddlu a chwest, ni ddaethpwyd â neb o flaen eu gwell dros farwolaeth y tad i ddau.

Mae Heddlu'r Met yn Llundain yn cyfaddef bod llygredd wedi rhwystro'r ymchwiliad llofruddiaeth gwreiddiol.

'Ymddygiad llygredig'

Daeth y panel i'r casgliad fod teulu Mr Morgan "wedi dioddef yn ddifrifol" o ganlyniad i'r methiant i sicrhau cyfiawnder.

Mae'n feirniadol o'r "sicrwydd direswm" a gafodd ei roi iddynt, y wybodaeth anghywir a gafodd ei roi i'r cyhoedd, a'r methiant "i gydnabod cymhwysedd proffesiynol, ymddygiad llygredig unigolion, a methiannau rheolaethol a sefydliadol".

"Fe wnaeth Heddlu'r Met fethu dro ar ôl tro i edrych ar eu methiannau mewn ffordd newydd, trylwyr a beirniadol," meddai'r adroddiad.

"Mae cuddio neu wadu methiannau ar gyfer delwedd gyhoeddus y sefydliad yn anonestrwydd ar ran y sefydliad er mwyn cael enw da ac mae'n fath o lygredd sefydliadol."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Nuala O'Loan, Silvia Casale a Samuel Pollock oedd yn rhan o'r panel

Mewn datganiad trwy eu cyfreithiwr, dywedodd teulu Mr Morgan: "Rydym yn croesawu'r gydnabyddiaeth ein bod ni - a'r cyhoedd yn gyffredinol - wedi cael ein methu dros y degawdau gan ddiwylliant o lygredd a chuddio o fewn Heddlu'r Met - llygredd sefydliadol sydd wedi treiddio i gyfundrefnau olynol yn Heddlu'r Met a thu hwnt hyd heddiw."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, wrth Dŷ'r Cyffredin bod yr adroddiad yn "ddychrynllyd iawn" a datgelodd "litani o gamgymeriadau" gan yr heddlu.

Ychwanegodd bod ymddygiad yr heddlu "wedi niweidio'r siawns o erlyn yn llwyddiannus".

Ymddiheuriad

Dywedodd Heddlu'r Met mewn datganiad eu bod yn "edifar yn ofnadwy nad oes unrhyw un wedi eu cael yn euog o lofruddiaeth Daniel" ond eu bod "byth wedi rhoi'r gorau i geisio cael cyfiawnder".

"Rydyn ni'n derbyn bod llygredd yn ffactor fawr ym methiant yr ymchwiliad yn 1987. Fe wnaeth hyn ychwanegu at y poen i deulu Daniel ac rydyn ni'n ymddiheuro am hyn."

Pynciau cysylltiedig