Ystyried dau safle yng Nghymru ar gyfer adweithydd niwclear

  • Cyhoeddwyd
ValeroFfynhonnell y llun, Geograph/Dylan Moore
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle sydd dan ystyriaeth yn Sir Benfro ar dir ger Purfa Olew Valero a Gorsaf Bŵer Penfro

Mae dau safle yng Nghymru yn cael eu hystyried ar gyfer adeiladu adweithydd niwclear arbrofol cyntaf y DU.

Mae rhestr o 15 safle posib ledled y DU wedi cael ei gyhoeddi gan yr Awdurdod Ynni Atomig, ac ymysg y rheiny mae safleoedd ym Mhenfro ac Aberthaw, Bro Morgannwg.

Yn y pendraw, y bwriad ydy adeiladu adweithydd Tokamak (Spherical Tokamak for Energy Production) ar y safle erbyn 2040.

Fe fyddai adweithydd o'r fath yn rhan o gynlluniau Llywodraeth y DU i gynhyrchu pŵer cynaliadwy, carbon isel.

Y gobaith ydy y byddai modd cynhyrchu symiau anferth o ynni gan ddefnyddio ychydig iawn o danwydd.

Bydd asesiadau mwy manwl yn cael eu gwneud o'r holl safleoedd y flwyddyn nesaf, gyda disgwyl i'r penderfyniad terfynol gael ei wneud yn nes at ddiwedd 2022.

'Arwain chwyldro ynni gwyrdd'

Mae'r safle sydd dan ystyriaeth yn Sir Benfro ar dir ger Purfa Olew Valero a Gorsaf Bŵer Penfro.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, yr aelod cabinet dros yr economi ar Gyngor Sir Penfro, ei fod yn "falch iawn o gael y cyfle hwn i helpu i arwain chwyldro ynni gwyrdd y DU".

"Mae Sir Benfro mewn sefyllfa dda i gynnal safle ynni gwyrdd sy'n arwain y byd ac mae'r cyhoeddiad hwn yn hwb anhygoel i'n sir - a bydd yn gweithio i gyrraedd targedau allyriadau di-garbon net y DU," meddai.

"Bydd gan y safle arfaethedig, sy'n gyfagos i'r safleoedd ynni presennol ar Lan y De i ddyfrffordd y Ddau Gleddau, y potensial i fod o fudd i'r rhanbarth hwn a darparu miloedd o swyddi medrus iawn, gan ddenu buddsoddiad i'n heconomi ranbarthol a'r gadwyn gyflenwi leol."