'Cystadleuaeth Canwr y Byd yn bwysicach eleni'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BBC Cardiff Singer of the World winner 2019 Andrei Kymach lifts trophyFfynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o’r llun,

Andrei Kymach o Ukrain oedd yr enillydd yn 2019

Mae'n ddiwrnod cyntaf wythnos cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd - ond eleni wrth i'r gystadleuaeth gael ei chynnal am yr 20fed tro fydd yna ddim cynulleidfa yn Neuadd Dewi Sant oherwydd cyfyngiadau Covid.

Dywed cyfarwyddwr artistig y gystadleuaeth bod y digwyddiad eleni yn bwysicach nag erioed wedi i gantorion wynebu blwyddyn mor anodd yn sgil y pandemig.

Bydd yr 16 canwr yn cystadlu am goron BBC Canwr y Byd Caerdydd, yn ogystal â Gwobr y Gân a bydd modd mwynhau y gystadleuaeth ar deledu, ar-lein ac ar radio.

Daw'r cantorion eleni o 15 gwlad gan gynnwys: Cymru, Awstria; Tsieina; Denmarc; Lloegr; Georgia; Gwlad yr Iâ; Mongolia; Gweriniaeth Corea; Rwsia; De Affrica; UDA; Venezuela; ac am y tro cyntaf, Madagascar a Gweriniaeth Kosovo.

Ffynhonnell y llun, Sarah Gilford
Disgrifiad o’r llun,

Y soprano 29 oed sy'n cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth

Sarah Gilford, soprano 29 oed, sy'n cynrychioli Cymru a dywed ei bod yn falch o gael dymuniadau da ar y we wrth iddi hunan-ynysu am gyfnod yng Nghaerdydd.

Yn ystod y diwrnodau diwethaf mae hi a'r cantorion eraill wedi bod yn cael cynghorion drwy sesiynau zoom.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan BBC Cymru Wales ar y cyd ag Opera Cenedlaethol Cymru ac mae'n cael ei chefnogi gan Gyngor Caerdydd.

Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr, Cynnwys a Gwasanaethau BBC Cymru Wales: "Mae gallu cynhyrchu BBC Canwr y Byd Caerdydd 2021, yn yr amgylchiadau presennol ac ar ôl y flwyddyn fwyaf cymhleth ar draws y sector celfyddydau perfformio, yn enghraifft bwerus o gydweithio a gobaith.

"Rydyn ni'n falch iawn o ddarlledu'r gystadleuaeth i gartrefi pobl o Gaerdydd, ac rydyn ni'n falch mai prifddinas Cymru fydd canolbwynt cyffrous ac ysbrydoledig i bobl sy'n hoffi cerddoriaeth glasurol ledled y wlad."

Ar hyd y blynyddoedd mae'r gystadleuaeth wedi hybu gyrfaoedd nifer o gantorion gan gynnwys cantorion byd-enwog fel Bryn Terfel, Karita Mattila, Elīna Garanča, Anja Harteros, Dmitri Hvorostovsky, a Jamie Barton.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob dwy flynedd a'r enillydd yn 2019 oedd Andrei Kymach o Ukrain.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd cantorion o 15 gwlad yn cystadlu

Dywedodd David Jackson, Cyfarwyddwr Artistig BBC Canwr y Byd Caerdydd: "Mae BBC Canwr y Byd Caerdydd wedi bod yn ffordd bwysig o lansio cantorion o safon fyd-eang ar ddechrau eu gyrfaoedd, ac ar ôl un o'r blynyddoedd anoddaf i'r holl berfformwyr, mae hon yn gystadleuaeth bwysicach nag erioed.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd cystadleuaeth eleni'n rhoi gobaith i'r holl gantorion ifanc - y rhai sy'n cystadlu a'r rhai a allai fod yn gwylio gartref - wrth i ni ddangos ein cefnogaeth i artistiaid sy'n dod i'r brig, cyflwyno digwyddiad y mae gwir angen amdani ar gyfer eu talent eithriadol ac ymgolli am ychydig ddyddiau yn y gwaith o greu cerddoriaeth fyw o'r radd flaenaf."

'Codi ysbryd'

Dywedodd Jan Younghusband, Pennaeth Comisiynu Teledu BBC Music: "Drwy gydol y pandemig, mae'r BBC wedi ymrwymo i godi ysbryd cynulleidfaoedd gartref, cyflwyno perfformiadau a chelfyddydau o'r radd flaenaf, gan ddarlledu'n syth i bob sgrin a radio.

"Mae BBC Canwr y Byd Caerdydd yn argoeli i fod yn uchafbwynt yn hyn o beth, gan dynnu sylw at leisiau gwych perfformwyr ifanc eithriadol dalentog, a rhoi llwyfan i'w gyrfaoedd ar yr un pryd."

Pynciau cysylltiedig