Pryderon am fethu'r dyddiad cau i aros yn y DU

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
FfinFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Rhaid cyflwyno ceisiadau am statws preswylydd sefydlog erbyn y 30ain o Fehefin

Mae yna bryderon y gallai llawer o ddinasyddion Ewropeaidd sy'n byw yng Nghymru fethu'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i aros yn y DU yn dilyn Brexit.

Rhaid cyflwyno ceisiadau am statws preswylydd sefydlog erbyn y 30ain o Fehefin.

Mae ymgyrchwyr yn poeni na fydd pobl sydd wedi byw yng Nghymru ers amser maith, gan gynnwys aelodau o'r gymuned Eidalaidd-Gymreig, yn sylweddoli bod angen iddynt wneud cais.

Dywed Llywodraeth y DU y bydd "hyblygrwydd yn cael ei ddangos" os oes "sail resymol" dros gais hwyr.

Cynlluniwyd y cynllun preswylio'n sefydlog i roi'r hawl i ddinasyddion yr UE - a ddaeth i'r DU yn rhan o ryddid symudiad yr UE - aros a chael mynediad at rai gwasanaethau cyhoeddus.

Effeithir hefyd ar bobl o Norwy, Liechtenstein, Gwlad yr Iâ a'r Swistir.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn sgil Brexit 'gallai'r sefyllfa fod yn waeth na sefyllfa Windrush', medd elusen sy'n cefnogi dinasyddion yr UE yn y DU

Rhoddir statws preswylydd sefydlog i bobl a all brofi eu bod wedi bod yn y DU yn barhaus am bum mlynedd neu fwy.

Gall y rhai sydd wedi byw yn y DU am gyfnodau byrrach o amser fod yn gymwys i gael statws preswylydd cyn-sefydlog, y gellir ei uwchraddio i statws preswylydd sefydlog unwaith y bydd yr ymgeisydd wedi cyrraedd y garreg filltir o bum mlynedd.

'Gall fod yn waeth na Windrush'

Mae Settled UK yn elusen sy'n cefnogi dinasyddion yr UE yn y DU.

Dywedodd y prif weithredwr, Kate Smart: "Nid wyf am godi bwganod ond mewn gwirionedd gallai fod yn waeth na sefyllfa Windrush.

"Gallwn weld eisoes bod yna achosion er enghraifft lle mae teuluoedd wedi gwneud ceisiadau'n llwyddiannus ar gyfer y rhieni ond sydd heb wneud cais ar gyfer y plant.

"Rydyn ni'n poeni bod yna bobl allan yna nad ydyn nhw wedi clywed am hyn eto.

"Rydyn ni'n gwybod er enghraifft yng Nghymru bod yna lawer o Eidalwyr yn byw yn y cymoedd sydd wedi bod yma ers amser maith.

"Ni ddylai pobl sydd wedi bod yma ers amser maith fod yn dibynnu ar y dogfennau sydd ganddyn nhw."

Dywedodd Ms Smart fod pryderon na fydd mewnfudwyr o ddwyrain Ewrop sydd wedi dod i Gymru "yn fwy diweddar" ac a allai fod yn gweithio ar ffermydd mewn ardaloedd gwledig yn ymwybodol o'r dyddiad cau.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae 92,700 o geisiadau wedi'u gwneud yng Nghymru o dan y cynllun, dolen allanol.

Er bod yna amcangyfrif y gallai fod 95,000 o bobl gymwys yng Nghymru, ddydd Mawrth dywedodd Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, wrth y Senedd nad oedd modd gwybod "maint yr her sy'n parhau".

Llywodraeth y DU "sy'n gwybod yn union faint o ddinasyddion yr UE sy'n gymwys i wneud cais".

Sefydlwyd yr Awdurdod Monitro Annibynnol fel rhan o'r cytundeb ymadael yn dilyn Brexit.

Wedi'i leoli yn Abertawe, ei rôl yw amddiffyn hawliau dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU.

Dywedodd ei phrif weithredwr Kate Chamberlain fod "nifer o faterion" wedi codi ynghylch y cynllun preswylio'n sefydlog, gan gynnwys natur ddigidol y broses ymgeisio a hyd yr amser ar gyfer prosesu ceisiadau.

Fodd bynnag "bydd yr her yn dod ar ôl y dyddiad cau," esboniodd, gan ychwanegu y bydd hi'n "bwysig iawn" delio â cheisiadau hwyr "gyda synnwyr cyffredin, gyda chydymdeimlad".

Yn ystod y misoedd diwethaf mae Llywodraeth y DU wedi wynebu galwadau i ymestyn y dyddiad cau oherwydd bod y pandemig wedi ei gwneud yn anodd i rai pobl gael eu pasbort wedi'i adnewyddu er mwyn gwneud cais.

Fodd bynnag, ddydd Llun, dywedodd gweinidog y Swyddfa Gartref, Chris Philp, wrth ASau bod y cynllun wedi bod ar agor ers mis Mawrth 2019.

Pan ofynnwyd iddo sut y byddai'r llywodraeth yn trin ceisiadau hwyr, dywedodd: "Os bydd rhywun yn gwneud cais yn hwyr a bod sail resymol iddynt fod wedi gwneud hynny - er enghraifft, efallai eu bod wedi bod yn sâl - yna bydd hyblygrwydd yn cael ei ddangos."

Profiad Ewa Hughes

Yn wreiddiol o Wlad Pwyl, symudodd Ewa Hughes i Gymru yn 2003.

Mae hi'n byw ym Mhentrefoelas yng Nghonwy gyda'i gŵr a'i dau o blant.

Ar ôl cyflwyno ei chais yn llwyddiannus mae Ewa wedi cael statws preswylydd sefydlog.

Disgrifiad o’r llun,

Wedi cyfnod pryderus mae Ewa Hughes wedi cael statws preswylydd sefydlog

"Roeddwn yn poeni cymaint," meddai, "roeddwn yn dweud wrth fy ngŵr, 'alla'i ddim cysgu', ond yn y diwedd fe wnaethon ni e.

"Nid yw'n anodd iawn - rhaid i chi gael eich pasbort, ei sganio a dilyn y cwestiynau, a dwy awr ar bymtheg yn ddiweddarach daeth y statws yn bositif."

Dywedodd gŵr Ewa, Rhydian, y byddai wedi bod yn ddefnyddiol cael mwy o wybodaeth i wneud y broses yn "llai o straen".

"Roedd yna adegau pan fyddwn i a fy ngwraig yn siarad a byddai hi'n dweud 'beth os ydyn nhw'n dod i gael fi a mynd â fi yn ôl i Wlad Pwyl?'"

Y stori i'w chlywed yn llawn ar Politics Wales, BBC 1, 10.00 fore Sul 13 Mehefin ac yna ar iPlayer.