'Mor falch o ennill Medal Gee er mwyn y plant'
- Cyhoeddwyd
"Wel dwi wedi cael sioc fy mod i yn un o'r rhai sy'n cael Medal Gee eleni ond mae'n fraint aruthrol - nid dim ond i fi ond i blant a phobl ifanc eglwys Noddfa," medd Janet Evans o Lanbedr Pont Steffan.
Mae'r fedal yn cael ei rhoi i berson sydd dros 75 oed ac sy'n dal i fynychu'r Ysgol Sul - mae hynny yn cynnwys bod yn athro ar ddosbarth plant, yn aelod o ddosbarth oedolion neu fynychu seiat neu gyfarfod astudiaethau Beiblaidd.
Mae Cyngor yr Ysgolion Sul yn atgoffa bod angen i'r ceisiadau fod mewn erbyn diwedd Mehefin.
"Dwi'n mwynhau yn fawr bod yn athrawes yr Ysgol Sul - mwynhau bod yng nghwmni plant a phobl ifanc ac mae'n fy nghadw i'n ifanc iawn," ychwanega Janet Evans.
"Be sy'n bwysig yw bod rhywun yn symud gyda'r oes - rwy' i wedi bod yn cynnal y dosbarthiadau ar zoom yn ystod y cyfnodau clo ac mae'n rhaid bod yn hyblyg.
"Y broblem gyda nifer o eglwysi yw bod nhw'n cadw at yr un drefn a ddim yn barod i newid. Ro'n i'n cynnal ysgol Sul ar ddydd Sul ond yna roedd plant yn dechrau mynd i chwaraeon ar ddydd Sul ac felly roedd yn rhaid newid.
"Ni nawr yn cynnal hi ar nos Iau ac os oes un o'r plant yn gorfod mynd i ymarfer golff neu redeg ni'n newid 'to - dyw hynny ddim yn broblem. Ry'n ni'n lwcus bod gennym ni yma yn eglwys Noddfa Ysgol Sul lewyrchus iawn."
Ond poeni mae Cyfarwyddwr Cyngor yr Ysgolion Sul, Aled Davies, am y dyfodol.
Wrth siarad â Cymru Fyw nos Sul dywedodd bod 18 mis o fod heb Ysgol Sul yn sgil Covid yn siŵr o gael effaith.
"Mi fydd y cyfnod nesaf yma yn her gwirioneddol," meddai, "bydd yn rhaid recriwtio plant eto ac mae nifer o athrawon sydd wedi bod yn dysgu am flynyddoedd maith wedi dweud y byddan nhw'n rhoi'r gorau iddi."
'Pryder am y dyfodol'
Mewn erthygl yn rhifyn yr wythnos hon o Cennad, dolen allanol dywed Aled Davies "nad oes gan dros 95% o blant Cymru unrhyw gysylltiad â'r ffydd Gristnogol. Ar ben hyn, mae effaith pandemig Covid-19 ar waith plant ac ieuenctid mewn ysgolion Sul, clybiau plant a gwasanaethau teulu wedi dwysáu'r sefyllfa hyd yn oed yn fwy fyth.
"Yr hyn a glywir yn gyson dro ar ôl tro yw mai anodd fu cynnal y bwrlwm a phrofiad Ysgol Sul / Clwb Plant arferol dros y cyfnod hwn.
"Do, gwelwyd colli bod mewn festri yn rhannu gemau a chrefft, actio wrth ddweud stori a gosod ambell her. Mewn gwirionedd, daeth y model hwn i stop yn llwyr am gryn gyfnod, ac erbyn hyn mae yna bryder ynghylch y dyfodol a'r broses o ailddechrau.
"Mae sawl arweinydd ysgol Sul eisoes wedi dweud na fyddan nhw'n ailddechrau'r ysgol Sul, gan eu bod yn teimlo bod gwasanaethu am 60 mlynedd a throsodd yn ddigon ynddo'i hun - ond does neb arall yn barod i gydio yn yr awenau.
"Teg yw dweud nad y pandemig sy'n bennaf cyfrifol am ddiflaniad cynifer o'n hysgolion Sul, ond y ffaith fod dwy genhedlaeth - os nad tair - ar goll o lawer o'n heglwysi bellach.
"Diolch am yr eglwysi sydd wedi llwyddo i gadw'r cenedlaethau hynny, gan wneud y gwaith o gyrraedd allan at bob oed yn gymaint haws. Ond, yn anffodus, eithriadau yw'r eglwysi hynny," meddai.
Ychwanega Mr Davies mai problem arall "yw'r sefyllfaoedd hynny lle mae uned yr ysgol Sul yn bodoli fel endid hollol ar wahân i fywyd yr eglwys. Mae'n rhaid i eglwys gael strategaeth ar gyfer plant a sicrhau eu bod yn rhan o bethau.
"A oes gennym gynllun a strategaeth ar gyfer cyflwyno'r newyddion da am Iesu i genhedlaeth newydd o blant?
"A yw hwn yn rhywbeth sy'n cael ei drafod gan yr eglwys gyfan neu'n cael ei adael i griw o rieni sy'n awyddus i gael rhyw fath o ddarpariaeth ar gyfer eu plant?
"Oes yna awydd i gydweithio yn lleol ac ar draws ffiniau enwadol er mwyn cynnig y ddarpariaeth orau bosib? Yn sicr mae rhain yn gwestiynau mae'n rhaid eu hwynebu wrth i'r Ysgol Sul wynebu cyfnod hynod o anodd," ychwanega Mr Davies.
Fel arfer mae Medalau Gee yn cael eu cyflwyno mewn un digwyddiad yn y de ac un arall yn y gogledd gydag un perthynas i Thomas Gee o Ganada yn dod i Gymru bob blwyddyn ar eu cyfer.
Ond eleni fe fyddant yn cael eu cyflwyno mewn nifer o ddigwyddiadau lleol.
"Fel arfer mae ryw 30 yn cael eu cyflwyno - mae'n siŵr bydd niferoedd yr enwebiadau yn is oherwydd y pandemig ond mae'n bwysig fod pob cyfraniad yn cael ei gydnabod," ychwanega Aled Davies.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2011