Miloedd yn cefnogi enw Cymraeg yn unig ar Yr Wyddfa

  • Cyhoeddwyd
Copa'r WyddfaFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dros 5,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am ddefnyddio enw Cymraeg yn unig ar fynydd uchaf Cymru.

Fe ohiriodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri benderfyniad ar beidio defnyddio'r enw Saesneg Snowdon ar Yr Wyddfa ym mis Ebrill, gan sefydlu gweithgor i ystyried ei bolisi ar enwau llefydd yng Nghymru.

Fe fyddai newid polisi hefyd yn golygu defnyddio Eryri yn unig, a gollwng yr enw Saesneg Snowdonia, wrth gyfeirio at yr ardal.

Dywed swyddogion y parc bod dros 5,300 o bobl wedi arwyddo'r ddeiseb, gan gynnwys unigolion o bedwar ban byd.

Ymosodiadau 'cyson' ar y Gymraeg

Wrth godi'r mater yn y gwanwyn, dywedodd John Pughe Roberts, cynghorydd Corris a Mawddwy, y byddai defnyddio'r Gymraeg yn unig "yn gyfle go iawn i wneud datganiad ar yr angen i warchod enwau llefydd Cymraeg cynhenid".

Mae ymdrechion wedi bod yn y gorffennol i ollwng yr enwau Saesneg. Yn 2003, fe ddywedodd y grŵp ymgyrchu Cymuned mai yn Oes Fictoria y bathwyd yr enw Snowdonia i farchnata'r ardal i ymwelwyr.

"Mae ymosodiadau ar y Gymraeg yn rhywbeth cyson," medd Elfed Wyn ap Elfyn o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. "Mae hynny i'w weld pan mae enwau tai ac enwau gwahanol rannau o Gymru'n cael eu newid o'r Gymraeg.

"Dwi a llawer eraill yn meddwl y byddai defnyddio enwau Eryri a'r Wyddfa yn unig yn gam positif at amlygu pwysigrwydd y Gymraeg."

Yn eu cyfarfod ym mis Ebrill, penderfynodd aelodau'r awdurdod i ohirio trafodaeth ar y mater gan fod gweithgor eisoes wedi ei benodi i ystyried eu polisi enwau lleoedd a sefydlu canllawiau ynghylch eu defnydd o fewn y parc.

Fe fyddai sefydlu canllawiau, medd swyddogion, yn helpu "gwarchod a safoni'r defnydd o enwau llefydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri".

Ychwanegodd llefarydd y byddai canllawiau hefyd "yn codi ymwybyddiaeth ymhlith cynulleidfaoedd gwahanol, lleol a rhyngwladol, o bwysigrwydd enwau llefydd yn Eryri, a ffynhonnell sy'n cryfhau cysylltiadau gyda'r amgylchedd, hanes a threftadaeth yr ardal".

'Egni'r Gymraeg yn nodwedd arbennig'

Dywedodd cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol, y Cynghorydd Wyn Ellis Jones bod yr awdurdod "yn ymroddi i warchod a hybu'r defnydd o enwau lleoedd cynhenid o ddydd i ddydd ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".

"Un o amcanion y Gweithgor Gorchwyl a Gorffen fydd nodi sut mae mesur llwyddiant defnyddio'r enwau lleoedd yma.

"Mae egni'r Gymraeg yn un o nodweddion arbennig Eryri ac rydym yn angerddol ynghylch parchu a gwarchod ein cymunedau, iaith a diwylliant."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bedd yw ystyr 'Yr Wyddfa' ac mae hefyd wedi cael ei 'nabod fel Carnedd y Cawr yn sgil chwedl mai yna y claddwyd Rhita Gawr.

Credir taw'r gair Lladin 'oriri', sy'n golygu 'i godi', yw tarddiad yr enw Eryri, yn groes i'r gred ei fod yn tarddu o'r gair eryr. Mae'r cofnod cyntaf o'r enw'n dyddio i'r nawfed ganrif.

Mae Snowdon a Snowdonia'n ffurfiau Saesneg mwy diweddar ac yn deillio o'r term Sacsonaidd "twyn eira".

Mae sawl cynsail o ran defnyddio enwau brodorol yn unig, gan gynnwys Uluru ar gyfer un o atyniadau amlycaf Awstralia oedd yn arfer cael ei alw'n Ayers Rock.

Ond petai Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri'n dilyn yr un trywydd, ni fyddai'r penderfyniad yn atal cyrff eraill ac unigolion rhag defnyddio'r enwau Saesneg.

Mae'r ddeiseb yn datgan bod defnyddio'r enwau Cymraeg yn unig "yn dangos pwysigrwydd y Gymraeg i bobl Cymru ac yn newid y ffordd y mae pobl yn gweld yr iaith, gan ei gwneud yn fwy gweledol i bobl sy'n dod yma ar wyliau ac i bobl sy'n byw yma nawr".