Bocs Set Rownd a Rownd ar S4C Clic: Ble maen nhw nawr?
- Cyhoeddwyd
Mae'r gyfres boblogaidd Rownd a Rownd wedi bod ar ein sgrin am dros 25 mlynedd
Gan fod pawb yn mwynhau ychydig o nostaljia, mae S4C yn ychwanegu'r cyfresi cyntaf fel Bocs Set ar wefan Clic, dolen allanol, er mwyn i chi gael ail-fyw eich ieuenctid (neu efallai eu gwylio am y tro cyntaf, chi ffans presennol Rownd a Rownd).
Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda'r actorion fu'n portreadu Ari, Awel a Roger - rhai o brif gymeriadau'r bennod gyntaf un nôl yn 1995.
Dyfrig Evans - Ari
Cyn chwarae Ari Stiffs, roedd gan Dyfrig Evans ychydig o brofiad actio eisoes. Ers gadael y gyfres, mae wedi cael gyrfa lwyddiannus yn actio a chanu, ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.
"O'n i'n Ysgol Dyffryn Nantlle yn 15 oed. O'n i wedi gneud dipyn o bethau cynt; ffilm C'mon Midffîld, a sioe yn Theatr Gwynedd o'r enw The Druid's Rest - honna o'dd y swydd iawn gynta' ges i gyflog amdani. O'n i'n gwybod mai dyna o'n i isho'i 'neud - canu neu bod yn actor - o'n i isho perfformio.
"Oedd y cymeriad Ari Stiffs yn gymeriad diniwed. Yn y gyfres gynta', oedd o'n cael ei fwlio, felly o'dd o'n victim rili. Fel Dyfrig, dwi'n cofio meddwl... o'dd pawb arall yn cael bod yn cŵl ac o'n i'n gorfod chwarae'r victim! Do'n i'm yn cael gneud fy ngwallt yn cŵl 'na'm byd! Ond ifanc a di-brofiad ydi hwnna.
"O'dd o'n gymeriad anodd i'w chwarae, achos do'dd o'm yn gneud dim byd! Jyst y boi drws nesa' - mae hwnna, i actor, yn anoddach i'w chwarae. Dwi wedi chwarae baddies wedyn, fel yn Craith - mae hynny'n lot o hwyl achos fod yna fwy o scope."
Mab yr ymgymerwr angladdau lleol oedd Ari, oedd yn egluro ei lysenw braidd yn anffodus; Ari Stiffs...
"Nes i'm gwerthfawrogi'r in joke ar y pryd - o'dd o'r boi mwya' unsexy yn y gyfres!
"Ddes i'n agos iawn at Ifan Huw Dafydd [oedd yn chwarae ei dad, Bryn], a dwi dal mewn cyswllt efo fo. O'n i'n ffan mawr ohono fo yn Pobol y Cwm. O'dd o'n arwr i mi a nes i ddysgu lot, o ran crefft actio a theledu. Ac o'dd o'n deud pethau fel taswn i'n fab go iawn iddo fo weithiau - 'paid â ddeud o fel'na!'. O'dd o'n actor ffeind iawn.
"O'n i ar Rownd a Rownd am bedair cyfres lawn, a wedyn nes i ddechrau canolbwyntio ar fy mand Topper - felly o'n i'n cael fy sgwennu allan yn ara' bach.
"Dwi'n meddwl eu bod nhw 'di sgwennu'r sgript a'r cymeriad rownd be' o'n i'n gallu ei 'neud. Ddaethon nhw fewn â bod Ari wedi trio dechrau band, ac yn y diwedd aeth Ari i'r coleg yn Glasgow i astudio cerdd
"Do'n i'm isho chwarae'r cymeriad am byth, a 'sa fo 'di gallu bod mor hawdd i 'neud. Mae 'na brydiau pan dwi wedi bod allan o waith, a dwi'n meddwl 'y peth gwaetha' nes i oedd gadael hwnna'. Ond o'n i isho canolbwyntio ar fy nghyfansoddi, ac isho mynd ar daith efo Topper - a doeddet ti methu ffitio hwnna i mewn i'r amserlen ffilmio.
"O'dd gen i bwysau gan y label recordio am mod i methu comittio i 'neud gigs a theithio - 'naethon ni deithio efo Catatonia, a Super Furry Animals. O'ddan ni'n cael y cyfleoedd yma, felly nes i benderfynu canolbwyntio ar hwnna am 'chydig bach.
"Es i hefyd 'mlaen wedyn i actio mewn pethau fel Meibion Glandŵr, Talcen Caled, Tipyn o Stâd, Emyn Roc a Rôl. Cymeriad eitha' call oedd Ari, doedd o'm yn cael y scenarios digri - ac o'n i wastad isho g'neud comedi hefyd. Ar ôl g'neud Rownd a Rownd ges i fwy o brofiadau yn gwneud sioeau clybiau, ac actio mewn pethau efo bach o hiwmor ynddo fo, felly dwi'n meddwl fod mwy o Dyfrig yn dod allan yn y cymeriadau yna, nac yn Ari.
"Yn y blynyddoedd diwetha', dwi wedi bod yn gwneud lot o waith trosleisio a chartŵns. Dwi ynghanol sgwennu albym ar y funud, ac yn gweithio ar y cyd efo'r cwmni Mewn Cymeriad, yn datblygu sgript ac yn gobeithio mynd ar daith efo fo o amgylch cestyll Cymru."
Mae atgofion Dyfrig o'i gyfnod ar Rownd a Rownd yn rhai melys, ac yn brofiad a roddodd sylfaen dda iddo o ran ei yrfa, meddai.
"O'dd o'n broffesiynol, cystal ag unrhyw gynhyrchiad proffesiynol dwi wedi ei 'neud wedyn. O'dd pawb top notch. Mae o'n swnio'n cheesy, ond o'dd o fel teulu - mae'n siŵr ei fod o dal yn - o'ddan ni i gyd yn ffrindiau, ac yn bownsio oddi ar ein gilydd.
"O'dd o'n brofiad cynta' unigryw i unrhyw grŵp ifanc i fod yn rhan o rywbeth mor fawr, sy'n dal i fynd heddiw. Dwi mor browd o fod yn rhan ohono fo.
"'Swn i wrth fy modd yn mynd nôl i Rownd a Rownd am ychydig o benodau - Ari yn dod nôl i'w gynefin. Dwi'n meddwl 'sa fo'n syniad da cael hen gymeriadau yn ôl!"
Sian Arfon - Awel
Sian Arfon oedd yn portreadu'r cymeriad Awel. Er ei bod wedi mwynhau'r profiad yn fawr, meddai, trodd Sian ei chefn ar y byd actio ac mae hi bellach yn gweithio ym maes meddygaeth.
"O'n i'n chweched dosbarth Ysgol Syr Hugh Owen, ac yn mynd i ysgol ddrama Glanaethwy a 'nath Cefin Roberts sôn yn un o'r gwersi bod nhw'n g'neud auditions i gael pobl i actio mewn peilot ar gyfer rhaglen deledu newydd Cymraeg.
"Do'n i erioed isho bod yn actores broffesiynol; doedd o 'rioed yn rhywbeth o'n i 'di bwriadu'i 'neud. O'n i jyst yn mynd i ysgol ddrama am bleser, ac o'n i wrth fy modd yn mynd. Nes i jyst mynd i'r auditions am hwyl ac mi ges i'r rhan!
"O'dd yr holl brofiad jyst yn lyfli - nes i rili fwynhau o.
"O'dd yr actorion hŷn yn lyfli. O'ddan nhw'n helpu os oedden ni isho help ond fel arall o'ddan nhw jyst yn bod y glên, a gwneud i ni chwerthin. Ar y set, o'dd pawb yn cymysgu efo'i gilydd, a phawb yn siarad efo'i gilydd a phawb yn gefnogol iawn.
"Dwi'n meddwl fod Awel bach mwy cegog na fi a 'chydig bach mwy parod i ffraeo.
"Dwi'n cofio pan ro's i gelpan i Bethan Ellis Owen. Dwi'n cofio hynny achos o'n i erioed wedi taro neb o'r blaen - ac o'n i'n gorfod rhoi slap go iawn iddi! 'Nai'm anghofio hwnna! A 'nath Bethan wedyn - Lowri Mai - daflu milkshake drosta i gyd. O'dd hynny'n brofiad diddorol!
"O'n i arno fo am gyfres a hanner. O'n i'n gwybod mod i'n gadael y gyfres, achos o'n i'n mynd i'r brifysgol go iawn, so o'dd 'na ran ohona i oedd yn gobeithio am rywbeth dramatig, ond na, a'th Awel jyst i'r brifysgol! Ddes i nôl ar gyfer special Dolig y flwyddyn wedyn.
"Dyna oedd diwedd y gyrfa actio. Do'dd gen i ddim bwriad i actio - ges i gynnig rhywbeth wedyn, ond nes i droi o lawr. O'n i wir wrth fy modd yn actio, canu, dawnsio, perfformio, ond o'n i 'rioed wedi rhoi fy mryd ar fod yn actores broffesiynol.
"O'dd o jyst yn brofiad bendigedig a ddaeth o i ben, a dyna ni - phrofiad lyfli i edrych yn ôl arno fo wedyn."
Wedi astudio Niwrowyddoniaeth yn y brifysgol, ymchwilio i Glefyd Parkinson yn Awstralia a gwneud gwaith gwirfoddol yn Nhwrci, mae Sian bellach yn feddyg teulu yn ardal Bangor.
Mae hi'n edrych ymlaen at gael dangos prawf o'i gyrfa actio byrhoedlog i'w phlant.
"Mae'n nhw'r oed perffaith i'w weld o. Maen nhw'n gwybod amdano fo, ac mae gen i'r gyfres gynta' ar fideo, ond 'sgen i ddim byd i'w chwarae fo arno fo! Felly dydi mhlant i erioed wedi ngweld i ar Rownd a Rownd, felly fydd hyn yn fendigedig!"
Arwel Wyn Roberts - Roger
Arwel Wyn Roberts oedd yn chwarae rhan Roger - mab y siop a'r loveable rogue oedd bob amser mewn trwbl. Bellach mae Arwel yn ddyn camera ac yn byw gyda'i deulu yn ardal Castell-nedd.
"O'n i ar y pryd yn gwneud cwrs BTEC mewn celfyddydau perfformio ym Mangor ac yn aelod o Glanaethwy. O'n i wedi cael fy newis ar gyfer gwneud rhaglen peilot ar gyfer S4C, yn chwarae'r un cymeriad, efo Meic Povey yn chwarae fy nhad i.
"Yr un pryd, fues i'n ddigon ffodus i ennill y gyfres gynta' o Tip-top, efo Ray Gravell, Caryl Parry Jones a Dewi Pws ar y panel. O'dd Dewi wedi rhoi ei rif ffôn i mi a dweud 'os tisho cyngor, ffonia fi'. Enillodd cwmni Nant y tendr ar gyfer y peilot, a chychwyn ffilmio, a phwy oedd yn chwarae nhad i ond Dewi Pws!
"Loveable rogue oedd Roger. Y middle man - doedd o byth yn delio cyffuriau yn uniongyrchol - ac roedd o'n receiving stolen goods. Mae Cai, y mab, wedi dechrau chwarae efo'r cloc 'larwm 'ma 'sgen i. Gwobr oedd hwnna pan oedd Rownd a Rownd yn dathlu deg mlwyddiant. Ges i Best Baddie. 'Swn i'n licio meddwl mod i - Arwel - ddim yn berson fel'na!
"Jest cyn i fi adael y tro cynta, naethon ni agor y lle pŵl, a Roger oedd yn rhedeg y siop yna. Pwy ddaeth i'w agor o oedd John Parrott! Wedyn o'dd gen i un olygfa lle nes i ddinistrio'r siop i gyd, achos o'n i methu ffeindio'r arian oedd y bobl cyffuriau ar ei ôl. O'n i'n cael storylines eitha' diddorol."
Ar ôl pedair blynedd ar y gyfres, bu'n rhaid i Arwel ffarwelio â Roger, gan ei fod bellach yn aelod o fand Mega.
"O'dd Roger yn cael ei bortreadu fel person 'drwg', a doedd o'm yn dda i image Mega, achos yr un gynulleidfa oedd yn cael eu targedu.
"Nes i orfod mynd yn ôl am rhyw 10 pennod i orffen stori Roger. O'dd Rownd a Rownd yn trio bod yn amserol a chyfoes i'r amser, a dwi'n cofio o'dd 'na boster Mega yn y siop pŵl, ac yn glyfar o'dd 'na sticer dros fy ngwyneb i!
"Yn y bennod ola', o'dd hi'n nos calan 2000, ac o'dd 'na arian wedi cael ei guddio mewn carafán. Diwedd y bennod oedd bod nhw'n agor drws y garafán ac yno oedd Roger yn farw - wedi cael sioc drydan - out with a bang!
"O'n i'n Mega am bron i dair blynedd, sef bywyd boyband bryd hynny. Nes i wir fwynhau. Mynd o gwmpas Cymru yn canu yn Gymraeg - pa ffordd well o hybu'r iaith? Dwi'r oed rŵan lle dwi'n cael mamau yn dod fyny ata i oedd yn ffans!"
Mae Arwel yn parhau i fod yn y byd teledu, ond bellach yr ochr arall i'r sgrin, fel dyn camera ar gynyrchiadau mawr fel Songs of Praise.
"Y broses ffilmio ar Rownd a Rownd wnaeth helpu fi i 'neud be' dwi'n ei 'neud rŵan. Mae'r ochr actio a pherfformio wedi'n helpu fi o ran yr ochr dechnegol. Dwi'n gwybod lle dylai rywun sefyll, a sut i oleuo rhywun, achos dwi wedi cael fy ngoleuo fy hun.
"O'dd o'n gyfnod euraidd. Efo nghyfnod cynta' i ar Rownd a Rownd, nes i fedru prynu car.
"O'dd 'na lot o hwyl i'w gael ar set, ac o'dd hi'n gyfnod rili grêt; cychwyn rhywbeth newydd a chael rhywbeth yn y gogledd hefyd."
Hefyd o ddiddordeb: