'Roeddwn yn farw am 15 munud': atgofion yn sgil anffawd Christian Eriksen
- Cyhoeddwyd
O fewn munudau i gyrraedd ei waith un diwrnod fe gwympodd Aled Williams i'r llawr wedi iddo gael ataliad ar y galon.
Un o'r cyntaf i'w helpu oedd ei gydweithiwr Emyr Evans, fu'n rhoi CPR iddo am 10 munud tan i'r parafeddygon gyrraedd.
Mae'r hyn ddigwyddodd i Christian Eriksen yn ystod gêm Euro 2020 dros y penwythnos wedi dod â'r cyfan yn ôl i'r ddau gefnogwr pêl-droed. Yma maen nhw'n sôn am eu profiad a pha mor hanfodol ydi cael cymorth yn syth bin.
Stori Aled Williams
Roeddwn i'n dathlu fel pawb arall pan sgoriodd Kieffer Moore i ddod â Chymru yn gyfartal yn erbyn y Swistir yn eu gêm agoriadol yn Euro 2020 y Sadwrn diwethaf.
Cafodd dipyn ei wneud o'r ffaith bod Moore, y cyn achubwr bywyd, wedi achub Cymru gyda'r gôl hwyr yn Baku.
Ond cafodd hynny ei roi mewn perspectif rhyw awr neu ddwy yn ddiweddarach yn ystod y gêm rhwng Denmarc a'r Ffindir.
Doeddwn i ddim wedi bod yn gwylio'r gêm honno ond mi wnes i droi'r teledu ymlaen i weld be' oedd y sgôr ddiweddaraf, ac fe suddodd fy nghalon pan welais y golygfeydd.
Christian Eriksen
Roedd clywed y newyddion am Christian Eriksen yn mynd â fi yn ôl i ddau ddigwyddiad personol.
Bu farw fy nhad yn frawychus o sydyn ac yntau ond yn 51 mlwydd wedi iddo ddioddef trawiad ar y galon.
Er bod 18 mlynedd wedi pasio mae'r atgofion poenus o'r diwrnod hwnnw yn glir o hyd.
Ychydig yn llai clir yw fy atgofion o ddydd Mawrth, 4ydd o Orffennaf, 2017.
Roeddwn i lawr i weithio'r shifft hwyr fel Newyddiadurwr y We i Adran Chwaraeon BBC Cymru, gan gyrraedd Bryn Meirion ym Mangor ychydig cyn dau o'r gloch y prynhawn.
O fewn ychydig funudau yr oeddwn, o be' dwi'n ddallt, wedi disgyn i'r llawr yn ddisymwth gan achosi cryn bryder i fy nghydweithwyr a chyfeillion.
CPR gan gyd-weithiwr
Yn ffodus roedd Emyr Evans, peiriannydd sain, yn gweithio'n agos i ble disgynnais ac fe sylweddolodd yn syth ddifrifoldeb y sefyllfa.
Gyda chymorth eraill, fe aeth ati yn syth i weinyddu CPR tan y cyrhaeddodd y parafeddygon, lle bu'n rhaid defnyddio'r defib ddwywaith i'm ail adfer. O be' dwi'n ddallt roeddwn yn farw am 15 munud.
I'r diwrnod hwn does gennai ddim cof o gwbl o'r digwyddiad - ac i mi mae hynny'n rhywbeth sydd yn siwtio fi.
Roedd elfen o anghrediniaeth pan gefais wybod pam fy mod yn yr ysbyty a'r hyn oedd wedi digwydd i mi a fy mod wedi gorfod cael dwy stent wedi eu gosod.
I'r diwrnod hwn does gennai ddim cof o gwbl o'r digwyddiad - ac i mi mae hynny'n rhywbeth sydd yn siwtio fi.
Ond i'r rhai sydd yn agos i mi - fy mhartner Emma, fy mam a fy chwaer ynghyd â gweddill y teulu - mae'r atgofion o'r diwrnod hwnnw a'r oriau a'r dyddiau arteithiol yn disgwyl yn yr Uned Gofal Dwys yn rhai na allen nhw fyth anghofio.
Mae'r un yn wir am fy nghydweithwyr oedd yn bresennol ym Mangor y p'nawn hwnnw.
Yn rhinwedd eu swyddi maen nhw'n gorfod ymdrin gyda newyddion anodd ar adegau, ond prin fyddai unrhyw beth wedi eu paratoi ar gyfer digwyddiad mor frawychus o'r fath.
Galla i ddychmygu bod yr ofn, yr emosiwn ac anghrediniaeth y diwrnod hwnnw'r un fath â'r hyn brofodd chwaraewyr, swyddogion a chefnogwyr yn y stadiwm yn Copenhagen wedi i Eriksen ddisgyn.
Ymateb chwim
Ond hyd yn oed wrth ddisgwyl am newyddion am gyflwr Eriksen, yr hyn oedd yn cynnig cysur i mi oedd yr amser a gymerwyd i ymateb i'r digwyddiad.
O'r dyfarnwr Anthony Taylor yn chwibanu i alw ar y timau meddygol i ddod ymlaen i'r maes, i'r timau hynny yn sylweddoli bod rhywbeth mawr o'i le ac yn gweinyddu CPR mor sydyn, roedd amser yn hanfodol.
Fel yn fy achos i, ble sylweddolodd Ems yn syth fy mod mewn trafferth, ni wastraffwyd unrhyw amser yn trin Eriksen ac i mi dyna pam ei fod yn dal efo ni.
Ond ar ochr arall y geiniog mae'r hyn ddigwyddodd y Sadwrn diwethaf yn fy atgoffa o stori drist pêl-droediwr arall, Abdelhak Nouri.
Dim ond ychydig ddyddiau wedi i mi gael fy nharo'n wael, fe ddioddefodd chwaraewr 20 mlwydd oed Ajax drawiad ar y galon yn ystod gêm gyfeillgar.
Araf iawn oedd yr ymateb wedi i'r Iseldirwr ifanc ddisgyn i'r llawr ac er iddo oroesi, dioddefodd niwed i'r ymennydd sydd wedi newid ei fywyd am byth.
Yn ddiweddarach cydnabyddodd Ajax y bu'r ymateb meddygol yn "annigonol" ond dyw hynny yn fawr o gysur i ŵr ifanc welodd nid yn unig yrfa ddisglair yn dod i ben ond unrhyw siawns o fywyd normal yn cael ei chwalu.
Mae'r holl ddigwyddiadau yn tanlinellu pa mor bwysig yw bod defibs ar gael mewn cymaint o leoliadau cyhoeddus sydd yn bosib a bod 'na fwy o gyfleoedd i ddysgu CPR.
Dwi'n ffodus iawn fy mod yma i allu sôn am fy mhrofiad i - a mawr yw fy niolch i'r rhai hynny achubodd fi. Achubwyr bywyd yn wir.
Stori Emyr Evans
Os dwi'n gwylio drama teledu neu raglen lle mae rhywun yn marw neu maen nhw'n cael CPR, yna mae'n 'trigro' rhywbeth yn fy mrên a dwi'n meddwl am Aled. Ond tydi o ddim yn hitio fi fel gwnaeth hwn. Roedd be' ddigwyddodd i Christien Eriksen yn real, ti'n gwybod bod rhaglen deledu ddim yn real.
Tasa nhw wedi torri i ffwrdd o'r lluniau yn syth ella fyddai o heb gael effaith, ond gan fod y camera wedi aros arno fo am gymaint o amser ac mae gen ti'r paramedics yn gwneud y CPR a'r chwaraewyr yn mynd o'i gwmpas o, taswn i heb weld nhw'n trio achub ei fywyd o ella fyddwn i heb effeithio arnaf i gymaint - ond roedd o'n rili anodd. Roedd rhaid i fi tecstio Aled i holi os oedd o'n ok.
Cofio'r digwyddiad i gyd
Ddaeth â fo i gyd yn ôl a dwi'n cofio'r digwyddiad efo Aled i gyd. Alla i ddim dweud beth wnes i ddoe, ond dwi'n cofio bob dim o'r diwrnod bedair blynedd yn ôl.
Ro'n i yn y gwaith ac yn eistedd yn y 'cwt' yn y stafell newyddion yn golygu rhaglen radio efo'r drws wedi cau ac felly ddim yn ymwybodol i ddechrau be' oedd wedi digwydd tu allan.
Ro'n i wedi gwneud cwrs cymorth cyntaf am ddeuddydd flwyddyn cynt. Roedd o'n brilliant - a dwi mor ddiolchgar o fedru gwneud y cwrs, roedd o'n hollol crucial.
Pan waeddodd cydweithiwr arna i a dweud bod o ar lawr ro'n i'n meddwl syth i ffwrdd ella'i fod o wedi disgyn, hitio ei ben yn erbyn y wal a chael concussion, ond pan nes i weld o ar lawr ro'n i'n gwybod dim dyna oedd o.
Os ti'n disgyn ar lawr ti dal yn edrych fel chdi dy hun, ond doedd Aled ddim yn edrych fel Aled.
Ro'n i'n gweithio arno fo am 10 munud. Mae munud yn amser hir, ond mae 10 munud yn ofnadwy.
Nes i 'neud y tests - checio pulse o dan ei ên, pulse ar ei fraich, wedyn nes i roi fy nghlust ar ei chest a doedd dim anadl a dim curiad yn ei galon - felly rhaid oedd gwneud CPR.
Achos doeddwn i ddim wedi ei weld o'n disgyn, be' oedd yn mynd trwy fy meddwl i hyd yn oed pan ro'n i'n gwneud y chest compressions oedd "Be' os dwi wedi cael hwn yn wrong? Ella'i fod o wedi torri ei goes, neu wedi torri ei fraich."
Dwi'n cofio rhywun o Radio Cymru yn rhedeg i lawr a wnaeth hi weld fi - ac roedd hi'n gobsmacked, a nes i edrych yn ôl arni hi yn gobsmacked fel taswn i'n dweud "dwi methu coelio bod hyn yn digwydd".
Ro'n i'n gweithio arno fo am 10 munud. Mae munud yn amser hir, ond mae 10 munud yn ofnadwy. Roedd bob drws yn agored felly roeddet ti'n clywed y seiren yn dod o ganol Bangor, ond roedden nhw'n gorfod dod i fyny'r allt i Fryn Meirion ac er eu bod nhw ar y ffordd roedd o'n teimlo'n amser mor hir.
Pan wnaethon nhw gyrraedd ro'n i mor relieved o'u gweld nhw a nes hi stopio 'neud y CPR ond dyma nhw'n dweud "na, caria ymlaen", tra eu bod nhw'n cael pethau yn barod.
Dim pwls
Gafodd Aled y defib gan y paramedig. Gath o ddwy sioc dwi'n meddwl - wnaethon nhw roi un a dyma nhw'n dweud "dim byd", ac wedyn rhoi un arall dwi'n meddwl a dyma nhw'n dweud "still nothing".
Wedyn dyma'r ddynes yn sgrechian "neb gyffwrdd hwn" ac roedd ganddi syrinj hefo rhywbeth piws neu binc, a dyma hi'n rhoi'r stwff yn ei fraich - adrenalin shot oedd o dwi'n meddwl - a dyma fo fel bod o'n deffro'n syth a dyma gael rhyw fath o pulse.
Roedd o'n amazing wnaethon nhw ddweud "we've got something - we haven't got him, but we've got something". Dyma nhw'n ei gael o ar stretcher a mynd â fo allan yn syth.
Roedd Christian Eriksen yn effro pan aethon nhw o'r stadiwm ac mae hynny'n rhywbeth mor neis i weld. Nes i helpu wheelio Aled allan a doedd o ddim fel yna. Doedd o ddim efo ni.
Ti'n gweld lot o bobl yn dweud pa mor bwysig ydi cael defibrillators mewn pentrefi, ac yndi mae defibrillators yn bwysig ond dwi'n meddwl bod hi fwy pwysig bod pobl yn gwybod be' i wneud.
Mae 'na beryg bod pobl yn meddwl bod dim angen hyfforddi gan feddwl "wel, mae yna defib yn y cwpwrdd, fyddwn ni'n ok" - ond mae'n hanfodol bod pobl yn deall be' i wneud cyn rhoi'r defib ymlaen.
Mae be' ddigwyddodd i Aled yn gallu digwydd yn unrhyw le - all o ddigwydd yn y gwaith, neu yng nghanol y wlad neu ar ochr mynydd.
Doedd yna ddim defib yn y gwaith pan ddigwyddodd hyn i Aled - mae yna un rŵan - a dwi'n meddwl weithia' os fyddai un wedi bod yno, fyddwn i wedi cael amser i fynd lawr grisiau i'w nôl, ffafian i gael o allan a sortio'r gwifrau a chael crys Aled i ffwrdd?
O fewn 40 eiliad ro'n i'n gwneud CPR ar Aled, ac mae pob eiliad yn bwysig. Ti'n gweld o be' ddigwyddodd i Eriksen, pan mae rhywbeth fel yma'n digwydd mae'r ychydig eiliadau cyntaf mor bwysig i gario 'mlaen i bwmpio'r galon.
Hefyd o ddiddordeb: