Cynllun adsefydlu: £632,000 i gyn Aelodau o'r Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae 20 Aelod o'r Senedd adawodd yn dilyn etholiad mis Mai wedi cael cyfanswm o £632,000 o dan gynllun adsefydlu.
Y swm unigol mwyaf oedd £50,963, a dalwyd i'r cyn Brif Weinidog Carwyn Jones, aelod cynulliad/Senedd ers 1999.
Talwyd £40,420 i aelod arall ers 1999, y Ceidwadwr David Melding, tra derbyniodd cyn arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood £40,074.
Cafodd y ddau aelod o Blaid Diddymu'r Cynulliad, Mark Reckless a Gareth Bennett ychydig dros £32 mil yr un.
Mae'r symiau a dalwyd yn dibynnu ar hyd eu gwasanaeth a'u swyddi - gweinidog, Llywydd neu ddirprwy lywydd, cwnsler cyffredinol, cadeirydd pwyllgor neu arweinydd grŵp gwleidyddol.
Cafodd BBC Cymru y ffigurau gan ddefnyddio'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Sut mae'r cynllun yn gweithio?
Y Bwrdd Taliadau Annibynnol, dolen allanol yw'r corff sy'n gyfrifol am bennu cyflogau, pensiynau a lwfansau Aelodau o'r Senedd a'u staff.
Mae'r grant adsefydlu i aelodau nad oeddent yn ymgeiswyr yn yr etholiad 50% yn llai nag ar gyfer ymgeiswyr a fethodd â chael eu hailethol.
O ganlyniad, er enghraifft, derbyniodd Kirsty Williams, aelod ers 1999 ond na cheisiodd cael ei hailethol, lai nag aelodau un tymor fel Mark Reckless a Caroline Jones.
Bu Kirsty Williams yn weinidog addysg Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf, a bu'n cynrychioli Brycheiniog a Sir Faesyfed ers 1999.
Hi oedd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru rhwng 2008 a 2016, ac arweinydd benywaidd cyntaf unrhyw un o'r pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru. Ei grant adsefydlu oedd £29,807.
Llafur
Ni cheisiodd y dirprwy lywydd Ann Jones, aelod Llafur dros Ddyffryn Clwyd ers 1999, gael ei hailethol.
Cyfanswm ei grant adsefydlu oedd £31,255.
Talwyd grant o £50,963 i Carwyn Jones, a oedd wedi cynrychioli Pen-y-bont ar Ogwr ers dechrau datganoli ym 1999, ac wedi bod yn weinidog hirhoedlog gan gynnwys naw mlynedd fel prif weinidog.
Ceidwadwyr
Etholwyd Angela Burns, a benderfynodd gamu i lawr o Senedd Cymru yn yr etholiad, yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn 2007.
Derbyniodd daliad o £34,319.
Cynrychiolodd Suzy Davies Orllewin De Cymru ers 2011 ond roedd yn bumed ar restr y Ceidwadwyr yn y rhanbarth yn etholiad 2021 ac felly nid oedd ganddi obaith o ennill sedd trwy'r llwybr hwnnw.
Yna tynnodd yn ôl fel ymgeisydd ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr. Cafodd grant o £37,259.
Ni cheisiodd David Melding gael ei ailethol, cynrychiolodd Ganol De Cymru ers creu'r cynulliad ym 1999, a gwasanaethodd am bum mlynedd fel dirprwy lywydd.
Derbyniodd £40,420.
Plaid Cymru
Methodd Helen Mary Jones ag ennill Llanelli yn yr etholiad, a chan iddi gael ei dewis yn ail ar restr Plaid Cymru yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ni ddychwelodd i'r Senedd.
Yn aelod cynulliad rhwng 1999 a 2011, dychwelodd i Fae Caerdydd yn 2018 yn dilyn ymddiswyddiad Simon Thomas.
Cafodd grant o £14,710.
Cynrychiolodd Dai Lloyd Orllewin De Cymru rhwng 1999 a 2011 cyn colli ei sedd, ond cafodd ei ailethol yn 2016.
Mae wedi colli ei sedd y tro hwn ar ôl ymgeisio yn sedd Gorllewin Abertawe yn unig, yn hytrach na defnyddio rhwyd ddiogelwch y rhestr ranbarthol hefyd. Cafodd grant o £31,622.
Wedi'i hethol gyntaf yn 2007, ni cheisiodd Bethan Sayed gael ei hailethol. Ei grant oedd £20,347.
Wedi'i hethol gyntaf yn 2003 i gynrychioli Canol De Cymru, enillodd Leanne Wood sedd y Rhondda yn 2016.
Roedd hi'n arweinydd Plaid Cymru rhwng mis Mawrth 2012 a mis Medi 2018. Cyfanswm ei grant adsefydlu oedd £40,074.
Grantiau eraill
• Caroline Jones, aelod annibynnol (UKIP yn flaenorol) - £32,786 ar ôl colli sedd
• Mandy Jones, Plaid Diwygio'r Deyrnas Unedig (UKIP yn flaenorol) - £16,912 ar ôl methu â chael ei hailethol
• David Rowlands (cynt o UKIP) Plaid Diwygio'r Deyrnas Unedig - £31,622 ar ôl colli sedd
• Gareth Bennett, annibynnol (UKIP gynt) - £32,742
• Mark Reckess, Plaid Diddymu'r Cynulliad (UKIP gynt) - £32,679 ar ôl colli sedd
• Michelle Brown, annibynnol (cyn AS UKIP) - £28,187 ar ôl colli sedd
• Dafydd Elis-Thomas, annibynnol (cyn AS Plaid Cymru) - £27,399 ar ôl sefyll i lawr
• Nick Ramsay, annibynnol (cyn-Geidwadwr) - £37,259 ar ôl colli sedd
• Neil McEvoy, plaid Propel (cynt o Blaid Cymru) - £28,187 ar ôl methu â chael ei ailethol
• Neil Hamilton o UKIP - £33,187 ar ôl colli sedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2021
- Cyhoeddwyd8 Mai 2021
- Cyhoeddwyd10 Medi 2020