Archesgob yn ymddiheuro am sylw 'annerbyniol' Esgob Tyddewi
- Cyhoeddwyd
Dywed Archesgob Caergaint ei fod yn cywilyddio am y sylwadau a wnaed gan Esgob Tyddewi am y Blaid Geidwadol.
Mae Justin Welby wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymddiheuro am y sylwadau a wnaed ar y cyfryngau cymdeithasol gan Joanna Penberthy.
Mewn un neges ar ei chyfrif Twitter dywedodd: "Peidiwch byth ag ymddiried mewn Ceidwadwr."
Ers hynny mae'r esgob wedi ymddiheuro ac wedi dileu ei chyfrif, ond mae un AS wedi galw arni i ymddiswyddo.
'Cwbl annerbyniol'
Mewn llythyr at Simon Hart AS, dywed Mr Welby bod yr iaith a ddefnyddiwyd yn iaith "gwbl annerbyniol" gan arweinydd eglwys.
"Mae'n wir flin gen i," ychwanegodd.
"Rwy'n cydymdeimlo'n fawr gan fy mod yn gwybod beth yw derbyn sylwadau o'r fath (gan bobl o bob barn wleidyddol).
"Mae'n annioddefol ac rwy'n benderfynol o weithio gyda'm chwiorydd a'm brodyr i ddod o hyd i ffyrdd gwell i fynegi anghytundeb."
Mae Archesgob Caerefrog hefyd wedi siarad â'r Ysgrifennydd Gwladol am sylwadau Dr Penberthy.
Roedd Mr Hart wedi ysgrifennu'n wreiddiol at Mr Welby gan ddweud er bod hawl gan bob dinesydd, gan gynnwys offeiriaid, gyfathrebu â gwleidyddion, bod sylwadau Dr Penberthy yn "mynd yn bellach na'r disgwyl".
Ychwanegodd: "Mae'n siomedig nad yw Dr Penberthy yn gwerthfawrogi neu'n parchu bod gan nifer o gefnogwyr pybyr yr Eglwys yng Nghymru farn wleidyddol wahanol iddi hi.
"Dydyn nhw ddim yn hoff o gael eu sarhau ar-lein am hynny."
Fe wnaeth Mr Hart dynnu sylw at y ffaith bod dinas Tyddewi wedi'i lleoli yn etholaeth Geidwadol Preseli Penfro, ac fe gyfeiriodd at neges arall lle bu'r Esgob Penberthy yn feirniadol o bobl a oedd yn pleidleisio i'r Ceidwadwyr.
Yn y neges honno dywedodd: "Mae'n drist bod cymaint yn parhau i bleidleisio i'r Ceidwadwyr. Rwyf wedi fy siomi ymhob un ohonoch."
Mae AS Ceidwadol Gorllewin Dorset, Chris Loder, wedi galw ar yr esgob i ymddiswyddo.
Fe wnaeth Llywodraeth y DU ysgrifennu at Lambeth Palace gan fod yr Eglwys yng Nghymru, na sydd bellach ag Archesgob, yn rhan o'r Cymundeb Anglicanaidd.
Esgob Bangor, Andrew John, sy'n delio â materion yr Eglwys yng Nghymru ac mae ef wedi ymddiheuro i Lywodraeth y DU.
Dywedodd: "Mae'n flin gen i am yr iaith annhymerus a ddefnyddiodd a'r niwed y mae wedi achosi.
"Rwyf wedi siarad â'r esgob ac yn credu bod ei hymddiheuriad yn ddidwyll a'i bod am wella y ffordd o weithredu ei gweinidogaeth yn gyhoeddus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2017