Coil atal-genhedlu: 'Angen cymryd poen menywod o ddifri'
- Cyhoeddwyd
Mae yna alwadau i wella'r ddarpariaeth o boen laddwyr i fenywod sy'n cael triniaethau gynecolegol fel y coil atal-genhedlu yng Nghymru.
Yr wythnos hon siaradodd y newyddiadurwyr Caitlin Moran a Naga Munchetty am eu profiadau o gael y coil atal-genhedlu wedi'i ffitio.
Arweiniodd eu sylwadau at filoedd o fenywod eraill yn rhannu eu profiadau ar gyfryngau cymdeithasol o gael coil atal-genhedlu yn ogystal â thriniaethau gynecolegol eraill.
Yn ôl arbenigwyr meddygol, ni ddylai cael coil atal-genhedlu wedi'i ffitio fod yn boenus.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "darpariaeth briodol o gyngor a chefnogaeth am boen, a meddyginiaeth neu ddulliau eraill o leddfu poen, yn rhan o unrhyw gyswllt clinigol".
'Y poen mwya' fi byth 'di cael'
Roedd profiad Ffion Rees Storey, 29 o Bontypridd o gael y coil pum mlynedd yn ôl yn un "trawmatig", meddai.
"Fi'n vividly cofio'r procedure, y coil yn mynd mewn, a'r bit fi'n cofio mwyaf yw'r cervix yn agor. O'dd y poen yn intense. O'dd e'n y poen mwya' fi byth 'di cael.
"O'n i'n sgrechian a gweiddi, 'You've gone too far, you've gone too far', ac o'n i'n dal llaw y nyrs."
Cyn cael y driniaeth, dywedodd Ffion nad oedd neb wedi'i rhybuddio y gallai'r driniaeth fod yn boenus.
"'Naethon nhw ddim rili dweud lot am y poen, 'naethon nhw ddweud falle bydd e'n anghyfforddus, ond dim byd am boen intense neu am gymryd paracetamol o flaen llaw.
"Ges i reaction rili physical i'r poen, ges i panic attack pan o'n i'n gorwedd yna... Nes i ddod lan o'r gwely ac o'dd e'n soaked mewn chwys... O'dd rhaid i fi eistedd ar y gwely am amser hir ar ôl."
Ar ôl cael y driniaeth dywedodd Ffion fod hi'n teimlo "embaras" am y ffordd ymatebodd ei chorff i'r poen.
"O'n i'n teimlo'n rili wael amdano fe ar ôl... O'n i'n embarrassed o'r reaction o'n i wedi cael, o'n i'n teimlo fel o'n i'n bod yn over the top, ond o'n i byth yn expecto'r poen."
Mae Ffion yn credu bod angen rhybuddio menywod o'r poen gall y driniaeth achosi a sicrhau bod poen laddwyr ar gael.
"Fi'n credu bod y coil yn contraceptive effeithiol, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael profiad rili da, ond mae am sut ni'n edrych ar iechyd a phoen menywod.
"Mae definitely angen cynnig pain relief."
Mae arbenigwyr meddygol yn dweud ni ddylai unrhyw un ddiystyru dewis coil atal-genhedlu fel dull atal-genhedlu effeithiol a dylai poen laddwyr fod "yn rhan o'r drafodaeth".
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae darpariaeth briodol o gyngor a chefnogaeth am boen, a meddyginiaeth neu ddulliau eraill o leddfu poen, yn rhan o unrhyw gyswllt clinigol."
Ychwanegon dylai'r cyngor yma gael ei drafod gyda'r clinigwr sy'n darparu'r gofal i'r claf.
'Angen cymryd poen menywod o ddifri'
Mae dros 11,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn galw am boen laddwyr gwell i fenywod sy'n cael coil atal-genhedlu yng Nghymru.
Fel Ffion, cafodd Eiri Angharad, sy'n byw yng Nghaerdydd, brofiad tebyg pan gafodd hi'r coil wedi'i ffitio.
"'Naethon nhw 'neud e ac wedyn jyst gadael fi fynd wedyn... O'n i'n teimlo'n faint iawn ac o'dd popeth yn ddu, o'n i methu gweld, a 'naethon nhw jyst gadael fi allan o'r stafell ac o'n i jyst 'di cerdded adre' wedyn. O'n i'n llythrennol ar fy mhedwar yn trio cyrraedd adref."
Teimlodd Eiri y dylai'r meddygon wedi ei rhybuddio am lefel y poen mae'r driniaeth yn gallu achosi.
"Doedd dim rhybudd bod e'n mynd i frifo, doedd dim sôn galle fe frifo, na bod angen cymryd pain killers na dim byd fel 'na," meddai.
Penderfynodd Eiri rannu ei phrofiad ar gyfryngau cymdeithasol ar ôl i Naga Munchetty rhannu ei phrofiad hi.
Roedd gweld gymaint o bobl yn rhannu eu profiadau yn "rhyddhad" i Eiri.
"O'dd e'n dilysu be' o'n i wedi mynd trwyddo ac o'n i'n gwybod mae actually dim fi o'dd methu diodde'r poen ond actually bod y lefel poen yma yn lefel annerbyniol o boen.
"'Swn i yn dweud bo' hyn wedi amlygu i bawb bod poen menywod ddim yn cael ei gymryd o ddifri.
"Mae'r profiadau yma'n amlwg yn digwydd yn rheolaidd os nad yn ddyddiol yn y gwasanaeth iechyd, lle mae menywod yn cael eu rhoi mewn poen annioddefol, a ddim yn cael cynnig poen laddwyr, felly dwi'n credu bo' hwn yn gyfle nawr i sylweddoli bod eisiau gwneud rhywbeth, bod angen cymryd poen menywod o ddifri."
Mae Dr Sara Bodey yn gweithio fel meddyg teulu yng Nghoedpoeth ger Wrecsam.
Dywedodd nad yw'r rhan fwyaf o fenywod y mae hi'n trin yn profi poen wrth gael coil atal-genhedlu wedi'i ffitio.
"Bydden i eisiau gwybod os mae pobl yn ei chael hi'n anodd a byswn ni'n annog menywod i gael y sgwrs yna gyda'u doctor."
Ychwanegodd Dr Bodey fod rheoli poen yn "bwnc cymhleth a does dim dull penodol" oherwydd y ffactorau gwahanol sy'n effeithio ar brofiadau menywod gwahanol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2019