Apêl i ganfod cadair farddol gan ffoadur Belgaidd
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect sy'n cofnodi hanes pobl a ddaeth i ogledd Cymru ar ôl ffoi o Wlad Belg ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn apelio am gymorth i ddod o hyd i gadair eisteddfodol goll.
Cafodd y gadair ei cherfio gan Emile De Vynck ar gyfer eisteddfod yn 1920 ar Ystâd Coed Coch yn Nolwen, ger Betws-yn-rhos yn Sir Conwy.
Nod yr ŵyl oedd codi arian dros yr hen Ysbyty Bae Colwyn a Gorllewin Sir Ddinbych fel rhan o'r ymdrech genedlaethol ar ôl y rhyfel.
Cafodd y gadair goll ei gwneud o goed derw o'r ystâd a'i naddu mewn gweithdy ym Mhentrefelin, ger Cricieth.
Roedd De Vynck, ei wraig a'u merch chwe mis oed ymhlith 13 o ffoaduriaid Belgaidd a gafodd lloches yn Llys Owen, dolen allanol, yng Nghricieth - cyn-gartref David Lloyd George, oedd yn Ganghellor ar y pryd.
Yn ôl Toni Vitti, o'r prosiect Belgian Refugees in Rhyl, Margaret ac Olwen Lloyd George - gwraig a merch Lloyd George - "oedd yn gyfrifol am les y Belgiaid yn Llys Owen".
Ychwanegodd: "Hyd yn oed pan roedd yn Brif Weinidog roedd yn dod adref ar gyfer y Nadolig ac yn ymweld â nhw."
Cafodd y saer o Wlad Belg sawl gomisiwn gan Lloyd George, ac fe arweiniodd hynny at ragor o waith gan foneddigion a thirfeddianwyr yr ardal, medd Mr Vitti.
Symudodd i Bentrefelin a sefydlu gweithdy ar Ystâd Hendregadredd yn 1915.
Treuliodd gyfnod wedi hynny gyda byddin ei famwlad ond erbyn 1919 roedd yn ôl ym Mhentrefelin ac yn hysbysebu mewn papur lleol am saer a phrentisiaid.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cafodd cadair Ystâd Coed Coch ei hennill gan Mr J Bellis o'r Rhyl, ac mae Toni Vitti'n ceisio darganfod beth sydd wedi digwydd iddi.
Y gred yw bod Emile De Vynck wedi cerfio pedair cadair farddol, gan gynnwys un sydd ym meddiant Amgueddfa Cymru, dolen allanol.
Mae cadair arall - ar gyfer Eisteddfod Môn yng Nghemaes yn 1923, dolen allanol - yng Nghanolfan Dreftadaeth Cemaes.
Apeliodd y prosiect am gymorth fis Medi y llynedd i ddod o hyd i'r bedwaredd gadair, a gafodd ei chreu ar gyfer Eisteddfod Gadeiriol Bethel a Phenmorfa yn 1922.
Roedd y gadair honno yn y capel am gyfnod ond does gan y prosiect ddim gwybodaeth ynghylch ble mae erbyn hyn nawr bod yr adeilad dan berchnogaeth breifat.
Mae'r gadair hon - fel un Cemaes - yn cynnwys delwedd o fenyw mewn gwisg draddodiadol Gymreig.
"Mae'r cyfuniad yma o gelfyddyd Felgaidd a diwylliant Cymreig yn hyfryd ac yn gweddu'n arbennig," meddai Toni Vitti.
Credir i Emile De Vynck a'i deulu ddychwelyd i Wlad Belg ddiwedd 1924, yn fuan wedi i'r gweithdy ym Mhentrefelin fynd ar dân.
Yn ôl adroddiadau papur newydd y cyfnod, cafodd yr adeilad a phopeth tu mewn ei ddifrodi wedi i lusern olew ollwng.
Roedd y tân hefyd wedi llosgi gwifrau telegraff ar y brif ffordd gan dorri cysylltiadau ffôn ardal De Sir Caernarfon.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2019
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2019