AS yn 'siomedig' fod ymchwiliad yfed alcohol heb orffen
- Cyhoeddwyd
Mae'n siomedig bod yr ymchwiliadau i Aelodau'r Senedd yn yfed alcohol yn ystod gwaharddiad ledled Cymru wedi parhau "mor hir", yn ôl cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd.
Ymddiswyddodd Paul Davies o'i rôl ym mis Ionawr ar ôl iddi ddod i'r amlwg ei fod ef a thri aelod arall wedi yfed alcohol yn y Senedd.
Ychydig ddyddiau ynghynt daeth gwaharddiad ar werthu, cyflenwi a yfed mewn safle trwyddedig i rym yng Nghymru.
Dywedodd Mr Davies ei fod yn gobeithio y bydd ymchwiliadau Cyngor Caerdydd a chomisiynydd safonau'r Senedd yn "dod i ben cyn gynted ag sydd yn bosib".
Mae'r pedwar ASau wedi mynnu drwyddi draw na wnaethant dorri rheolau Covid-19.
Ymchwilio i'r gweithwyr arlwyo
Fe wnaeth ymchwiliad gan Gomisiwn y Senedd ddarganfod fod pum unigolyn - Mr Davies, yr AS Ceidwadol Darren Millar, cy yn-AS Ceidwadol Nick Ramsay, yr AS Llafur Alun Davies, a phrif staff y grŵp Ceidwadol ar y pryd - wedi bod yn yfed alcohol yn yr ystafell de drwyddedig ar 8 Rhagfyr.
Bedwar diwrnod yn gynharach roedd gwaharddiad ar weini alcohol mewn tafarndai a safleoedd trwyddedig ledled Cymru wedi'i gyflwyno, gan arwain yr ymchwiliad i benderfynu fe allai'r digwyddiad fod yn "achos posibl o dorri rheoliadau" Covid-19.
Cyfeiriodd swyddogion y Senedd y mater at gorff gwarchod safonau'r Senedd a Chyngor Caerdydd.
Y cwmni arlwyo Charlton House sydd â'r drwydded alcohol ar gyfer yr ystafelloedd te yn y Senedd ym Mae Caerdydd, gan arwain swyddogion y cyngor i ymchwilio i'r gweithiwr arlwyo wnaeth weini'r aelodau.
Nid yw ymchwiliadau'r cyngor na'r comisiynydd safonau wedi'u cyhoeddi eto.
Mae BBC Cymru ar ddeall y bydd angen i adroddiad y comisiynydd safonau gael ei gymeradwyo gan bwyllgor safonau'r Senedd ond nid yw'r pwyllgor wedi'i sefydlu eto yn dilyn yr etholiad ym mis Mai.
Mae disgwyl y bydd cadeirydd y pwyllgor yn cael ei enwebu ddydd Mawrth.
'Tynnu sylw oddi wrth y materion pwysig'
Yn siarad am y tro cyntaf yn gyhoeddus am y digwyddiad, fe ddywedodd Paul Davies ei fod wedi bod "yn anodd iawn, wrth gwrs, yn bersonol".
Wrth siarad ar raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru fore Sul, ychwanegodd Mr Davies: "Fe ymddiswyddes i oherwydd o'n i dan y chwyddwydr.
"Roedd y stori'n tynnu sylw oddi wrth y materion pwysig ar y pryd fel perfformiad Llywodraeth Cymru ar ei rhaglen frechu, fel roedden nhw'n mynd i'r afael â coronafeirws, ac fe ymddiswyddes i er mwyn y grŵp Ceidwadol, er mwyn fy mhlaid, ac er mwyn fy nheulu i ac hefyd oherwydd y cyhoeddusrwydd negyddol.
"Ond dwi yn hyderus bod fi ddim wedi torri'r rheolau ond byddech chi ddim yn disgwyl, wrth gwrs, i fi 'neud unrhyw sylwadau arall ar y mater yma nawr o ystyried bod yr ymchwiliadau yna mewn i'r digwyddiadau yn parhau.
"Yr unig beth arall bydden i yn dweud, wrth gwrs, yw dwi yn siomedig bod yr ymchwiliadau wedi mynd ymlaen mor hir a gobeithio nawr bydd yr ymchwiliadau yna'n dod i ben mor gynted ag sydd yn bosib."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2021