Prifysgol Aberystwyth i gynnig eu graddau nyrsio cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y brifysgol yn cynnig dau gwrs newydd o Fedi 2022 ymlaen

Bydd modd i fyfyrwyr gael gradd nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth am y tro cyntaf yn hanes y sefydliad y flwyddyn nesaf.

Bydd y cwrs yn dechrau ym Medi 2022 gan roi cyfle i fyfyrwyr astudio hanner y rhaglen yn Gymraeg.

Cafodd cytundeb ei ddyfarnu gan y corff Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) fel bod modd i'r brifysgol gynnig dau gwrs nyrsio tan ddiwedd 2030.

Bydd modd cyflwyno ceisiadau ar gyfer y cyrsiau o'r hydref ymlaen.

Ar hyn o bryd mae pump o brifysgolion Cymru'n cynnig graddau nyrsio - Caerdydd, De Cymru, Abertawe, Bangor a Phrifysgol Glyndŵr, Wrecsam.

Bydd Aberystwyth yn cynnig cyrsiau BSc Nyrsio Oedolion a BSc Nyrsio Iechyd Meddwl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Gan groesawu'r "newyddion cyffrous", dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure, bod cefnogaeth y byrddau iechyd a Chyngor Ceredigion wedi bod yn allweddol.

"Bydd modd elwa drwy recriwtio a chadw nyrsys yn lleol, ynghyd â'r potensial i ysbrydoli mathau newydd o ddarparu gofal iechyd a fydd o fudd i bawb," dywedodd.

"Bydd ein cynlluniau hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig i wella gwasanaethau iechyd meddwl a'r ddarpariaeth Gymraeg yn lleol a thu hwnt."

Dywedodd bod y brifysgol yn anelu at ehangu ei rôl o ran addysgu'r sector gofal iechyd yn y blynyddoedd nesaf.

"O ystyried profiadau pawb yn ystod y pandemig, nid oes amser pwysicach, efallai, i flaenoriaethu buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o bobl ifanc talentog a fydd yn gyfrifol am les pob un ohonom."

Dywedodd cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Dr Chris Jones, y bydd camau "i ehangu cyfleoedd hyfforddiant yn ein cymunedau yn rhoi'r hyn y mae angen ar ein myfyrwyr i ateb gofynion y boblogaeth wrth edrych tua'r dyfodol".