Deddf Marchnad Fewnol: Hawl i'r llywodraeth apelio
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael caniatâd i apelio yn erbyn penderfyniad yr Uchel Lys i wrthod yr hawl iddi gynnal her gyfreithiol yn erbyn Llywodraeth y DU dros y Ddeddf Marchnad Fewnol.
Yn ei benderfyniad fis Ebrill fe wnaeth yr Uchel Lys wrthod yr achos gan ddweud bod y cais am arolwg barnwrol wedi'i wneud yn "rhy gynnar".
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi cael caniatâd i apelio yn erbyn hynny wedi i lys benderfynu bod yr achos yn codi "materion pwysig am egwyddor" y berthynas rhwng y Senedd a San Steffan.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart bod Llywodraeth Cymru yn "ceisio atal Llywodraeth y DU rhag buddsoddi yng Nghymru."
Beth ydy'r ddeddf?
Mae'r ddeddf - gafodd ei gwneud yn gyfraith ym mis Rhagfyr 2020 - yn dweud, os yw hi'n gyfreithiol gwerthu rhywbeth mewn un rhan o'r DU, y byddai modd ei werthu yn holl wledydd y DU.
Nod y mesur - ddaeth yn sgil ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd - ydy helpu busnesau i osgoi rheolau sy'n ei gwneud yn anoddach i fasnachu ar draws ffiniau pedair gwlad y DU.
Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei fod yn tanseilio gallu'r Senedd i reoleiddio nwyddau a gwasanaethau.
Roedd seneddau datganoledig Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi penderfynu peidio â chymeradwyo'r mesur cyn iddo gael ei basio yn San Steffan.
Fe wnaeth Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru ar y pryd, Jeremy Miles geisio herio'r ddeddf yn yr Uchel Lys gan ddweud ei bod yn "tanseilio datganoli", ac y gallai atal y Senedd rhag deddfu ar fwyd a rhai safonau amgylcheddol.
Ychwanegodd fod y ddeddf yn "ymosodiad" ar bwerau'r Senedd.
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol presennol, Mick Antoniw, ddydd Mawrth fod y Llys Apêl wedi "nodi bod rhesymau cryf dros wrando ar yr apêl hon yn y Llys Apêl".
"Nodwyd hefyd fod yr achos yn codi materion pwysig o ran egwyddor ynglŷn â'r berthynas gyfansoddiadol rhwng y Senedd a Senedd y DU," meddai.
'Plentynnaidd'
Ond mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o "geisio atal Llywodraeth y DU rhag buddsoddi yng Nghymru a chael swyddi i mewn i Gymru."
"Mae am ein bod ni yn gwneud rhywbeth maen nhw'n credu mai nhw ddylai ei wneud," meddai.
Ychwanegodd bod y sefyllfa yn "blentynnaidd iawn" a'i fod "ag embaras ein bod ni'n cael y drafodaeth yma o gwbl".
"Oll rydyn ni'n ei wneud gyda Deddf Marchnad Fewnol y DU... ydy sicrhau ein bod yn gallu gwario arian, denu buddsoddwyr a chreu swyddi - dyna maen nhw'n ceisio ei atal.
"Os ydyn nhw'n llwyddo gyda'r apêl, dyma fydden nhw'n ei atal. Dydw i ddim yn deall y peth."
Mae Llywodraeth Cymru'n disgwyl dyddiad ar gyfer y gwrandawiad apêl maes o law.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2020