Cwest Bradley John: Marwolaeth trwy anffawd

  • Cyhoeddwyd
Bradley JohnFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Bradley John ei ganfod wedi'i grogi yn nhoiledau Ysgol Uwchradd Gatholig St John Lloyd

Mae crwner wedi cofnodi rheithfarn o farwolaeth trwy anffawd yn achos bachgen 14 oed gydag ADHD gafodd ei ganfod wedi'i grogi yn ei ysgol yn Llanelli.

Cafodd Bradley John ei ganfod wedi'i grogi yn nhoiledau Ysgol Uwchradd Gatholig St John Lloyd ar 12 Medi 2018.

Roedd y cwest yn Llanelli wedi clywed bod Bradley wedi cael ei fwlio yn "ofnadwy" cyn ei farwolaeth.

Dywedodd y crwner Paul Bennett nad oedd yn gallu bod un sicr fod Bradley wedi bwriadu lladd ei hun.

Ychwanegodd, er bod Bradley wedi cael ei fwlio yn y gorffennol, nad oedd enghraifft o hynny wedi bod yn y cyfnod cyn ei farwolaeth.

Yn siarad gyda BBC Cymru yn dilyn y cwest dywedodd tad Bradley, Byron John, bod penderfyniad y crwner yn destun siom i unrhyw blentyn sydd wedi cael eu bwlio.

'Bywiog a hapus'

Cafodd Bradley ddiagnosis o ADHD (attention deficit hyperactivity disorder) tra'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Tycroes a bu'n cymryd meddyginiaeth i helpu gyda'r cyflwr.

Roedd ei dad wedi dweud wrth y cwest bod ei fab yn "fywiog ac yn hapus yn gyffredinol" yn ei ysgol gynradd.

Ond dywedodd nad oedd Bradley wedi ymdopi'n dda wrth symud i'r ysgol uwchradd.

I ddechrau aeth i Ysgol Dyffryn Aman ble dywedodd Mr John bod ei fab wedi mynd yn fwy swil, a bod disgyblion hŷn wedi bod yn ei bryfocio.

Clywodd y cwest fod Bradley wedi gadael yr ysgol ar ôl un digwyddiad ble cafodd ei ddillad eu taflu o amgylch tir yr ysgol, ac enghreifftiau eraill o fwlio.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Bradley John symud i Ysgol Gatholig St John Lloyd o Ysgol Dyffryn Aman

Symudodd i Ysgol Uwchradd Gatholig St John Lloyd yn Llanelli yn 2016 ond dywedodd Mr John bod y bwlio wedi parhau.

Dywedodd wrth y cwest fod disgyblion eraill wedi dwyn dillad Bradley a'i guro, a bod ei ffôn symudol wedi'i ddwyn a'i dorri ar un achlysur.

Yn ôl Mr John fe gafodd nifer o gyfarfodydd gyda'r ysgol, a'r bwriad cyn ei farwolaeth oedd tynnu Bradley o'r ysgol a'i symud i goleg marchogaeth.

Dywedodd Mr John wrth y cwest bod ei fab yn ymddangos yn fwy hyderus yn y cyfnod cyn ei farwolaeth, a'i fod yn "edrych ymlaen at fynd i'r coleg".

'Dyw e ddim yn teimlo'n real'

Ar fore 12 Medi 2018 dywedodd Mr John bod ei fab wedi gofyn iddo gael petrol ar gyfer ei feic cwad, a dyma'r tro diwethaf iddyn nhw siarad gyda'i gilydd.

Eglurodd wrth y cwest ei fod wedi cael neges destun gan ei ferch ar ddiwedd y bore yn dweud bod Bradley yn absennol o'i wers wyddoniaeth.

Ychwanegodd ei fod wedi ceisio ffonio'r ysgol a'u bod hwythau wedi dweud y byddan nhw'n ei alw yn ôl.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Byron John wrth y cwest bod ei fab wedi cael ei fwlio mewn dwy ysgol uwchradd wahanol

Dywedodd Mr John ei fod yna wedi cael galwad gan y prifathro, Ashley Howells, yn dweud bod Bradley "wedi ceisio cymryd ei fywyd ei hun ac mae'r parafeddygon gydag ef".

"Fe aethon ni yn syth i'r ysgol. Roedd 'na lawer o feddygon a heddlu yno," meddai Mr John wrth y cwest.

Aeth Mr John yna i Ysbyty Treforys ble roedd ei fab yn cael ei drin.

Dywedodd bod y staff yn ceisio achub Bradley a'i fod yntau wedi dweud wrthyn nhw i "beidio rhoi'r gorau iddi".

"Doeddwn i ddim yn gallu anadlu ac fe es i 'nôl i ddweud wrth Kate [ei bartner]. Dyw e dal ddim yn teimlo'n real," meddai.

'Colli cyfle'

Wedi penderfyniad y crwner ddydd Mawrth dywedodd Mr John bod y crwner "wedi colli cyfle i newid bywydau'r rheiny sy'n dioddef gyda bwlio".

Dywedodd aelod cabinet Cyngor Sir Gâr ar gyfer addysg a gwasanaethau plant, y Cynghorydd Glynog Davies y bydd canfyddiadau'r crwner yn cael ei ystyried fel rhan o adolygiad sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd.

"Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu a ffrindiau Bradley, a phawb sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad trasig yma," meddai.

Pynciau cysylltiedig