Cannoedd yn talu teyrnged i Bradley John
- Cyhoeddwyd
Roedd cannoedd o bobl yn bresennol mewn digwyddiad i dalu teyrnged i fachgen ifanc 14 oed a fu farw yn yr ysbyty ar ôl i'r gwasanethau brys gael eu galw i Ysgol Uwchradd Gatholig St John Lloyd yn Llanelli.
Fe gafodd Bradley John ei ddarganfod gan ei chwaer yn Ysgol Uwchradd Gatholig St John Lloyd a'r gred yw ei fod wedi lladd ei hun.
Mae ei dad Byron John, yn honni fod y bachgen 14 oed wedi cael ei fwlio. Mae'r ysgol wedi ymateb drwy ddweud nad ydyn nhw eisiau damcaniaethu ynglŷn â'r honiadau.
Fe ymunodd yna 300 o bobl gydag aelodau o'r teulu yng Nghanolfan David Broome yng Nghil-y-coed, ble roedd Bradley John yn ymarfer marchogaeth.
Fe gyflwynwyd mainc arbennig gan staff y ganolfan er cof amdano.
Dywedodd trefnwyr y digwyddiad eu bod yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o fwlio.
"Mae angen i bobl siarad ynglŷn â bwlio gan ei fod yn cael effaith enfawr ar deuluoedd," meddai Jason Broome sy'n rhedeg y ganolfan farchogaeth.
Dywedodd Dr Glyn Jones a oedd ymhlith y 300 o bobl fod y digwyddiad yn un "emosiynol ac urddasol. Roedd hi'n anhygoel gweld cymaint o bobl yno," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2018
- Cyhoeddwyd21 Medi 2018
- Cyhoeddwyd13 Medi 2018