Bachgen 'wedi'i fwlio yn ofnadwy' cyn ei farwolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae cwest yn Llanelli wedi clywed bod bachgen 14 oed gydag ADHD wedi cael ei fwlio yn "ofnadwy" cyn ei farwolaeth.
Cafodd Bradley John ei ganfod wedi'i grogi yn nhoiledau Ysgol Uwchradd Gatholig St John Lloyd yn y dref ar 12 Medi 2018.
Dywedodd swyddog y crwner, Malcolm Thompson wrth y cwest bod Bradley yn "farchog hynod dalentog".
Cafodd ddiagnosis o ADHD (attention deficit hyperactivity disorder) tra'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Tycroes a bu'n cymryd meddyginiaeth i helpu gyda'r cyflwr.
Dywedodd ei dad, Byron John, wrth y cwest bod ei fab yn "fywiog ac yn hapus yn gyffredinol" yn ei ysgol gynradd.
Ond dywedodd nad oedd Bradley wedi ymdopi'n dda wrth symud i'r ysgol uwchradd.
I ddechrau aeth i Ysgol Dyffryn Aman ble dywedodd Mr John bod ei fab wedi mynd yn fwy swil, a bod disgyblion hŷn wedi bod yn ei bryfocio.
Clywodd y cwest fod Bradley wedi gadael yr ysgol ar ôl un digwyddiad ble cafodd ei ddillad eu taflu o amgylch tir yr ysgol, ac enghreifftiau eraill o fwlio.
'Torri ei ffôn symudol'
Symudodd i Ysgol Uwchradd Gatholig St John Lloyd yn Llanelli yn 2016 ond dywedodd Mr John bod y bwlio wedi parhau.
Dywedodd wrth y cwest fod disgyblion eraill wedi dwyn dillad Bradley a'i guro, a bod ei ffôn symudol wedi'i ddwyn a'i dorri ar un achlysur.
Yn ôl Mr John fe gafodd nifer o gyfarfodydd gyda'r ysgol, a'r bwriad cyn ei farwolaeth oedd tynnu Bradley o'r ysgol a'i symud i goleg marchogaeth.
Dywedodd Mr John wrth y cwest bod ei fab yn ymddangos yn fwy hyderus yn y cyfnod cyn ei farwolaeth, a'i fod yn "edrych ymlaen at fynd i'r coleg".
Clywodd y cwest hefyd gan rai o ffrindiau agos i'r teulu.
Dywedodd Stephanie Bonwell wrth y cwest fod Bradley wedi dweud ei fod yn cael ei fwlio yn yr ysgol "oherwydd ei farchogaeth".
Ychwanegodd Ms Bonwell fod Bradley'n teimlo "nad oedd athrawon yn poeni ac nad oedden nhw'n gwneud unrhyw beth" am y bwlio ac nad oedd pwynt cwyno.
Dywedodd Fiona McCulloch y byddai Bradley yn aml yn mynd i ystafell ymolchi'r ysgol i ffonio ei dad pan oedd yn cael ei fwlio.
Ar fore 12 Medi 2018 dywedodd Mr John bod ei fab wedi gofyn iddo gael petrol ar gyfer ei feic cwad, a dyma'r tro diwethaf iddyn nhw siarad gyda'i gilydd.
Eglurodd wrth y cwest ei fod wedi cael neges destun gan ei ferch ar ddiwedd y bore yn dweud bod Bradley yn absennol o'i wers wyddoniaeth.
Ychwanegodd ei fod wedi ceisio ffonio'r ysgol a'u bod hwythau wedi dweud y byddan nhw'n ei alw yn ôl.
'Ddim yn teimlo'n real'
Dywedodd Mr John ei fod yna wedi cael galwad gan y prifathro, Ashley Howells, yn dweud bod Bradley "wedi ceisio cymryd ei fywyd ei hun ac mae'r parafeddygon gydag ef".
"Fe aethon ni yn syth i'r ysgol. Roedd 'na lawer o feddygon a heddlu yno," meddai Mr John wrth y cwest.
Aeth Mr John yna i Ysbyty Treforys ble roedd ei fab yn cael ei drin.
Dywedodd bod y staff yn ceisio achub Bradley a'i fod yntau wedi dweud wrthyn nhw i "beidio rhoi'r gorau iddi".
"Doeddwn i ddim yn gallu anadlu ac fe es i 'nôl i ddweud wrth Kate [ei bartner]. Dyw e dal ddim yn teimlo'n real," meddai.
Mae'r cwest yn parhau ac mae disgwyl iddo bara am bedwar diwrnod.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2018
- Cyhoeddwyd21 Medi 2018
- Cyhoeddwyd14 Medi 2018