Argyfwng natur: Angen ariannu 'ar raddfa eithriadol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Brith y GorsFfynhonnell y llun, Vaughn Matthews
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r gloÿnnod byw mwyaf prin ym Mhrydain - Brith y Gors

Bydd yn rhaid i ymdrechion i ddiogelu bwyd gwyllt a'u cynefin gael eu hariannu ar "raddfa sydd erioed wedi ei weld o'r blaen" yn ôl elusennau amgylcheddol.

Daw eu sylw ar ôl i'r Senedd ddatgan fod yna "argyfwng natur".

Mae nawr yn debygol y bydd targedau cyfreithiol yn cael eu gosod - yn debyg i'r rhai ar gyfer allyriadau carbon.

Dywed Llywodraeth Cymru "eu bod yn cydnabod yn llwyr" nad oedd digon wedi ei wneud yn y gorffennol i daclo'r broblem.

Mae nifer o bryderon wedi eu mynegi yn y blynyddoedd diweddar am ddirywiad bywyd gwyllt yng Nghymru.

Roedd un ym mhob chwech o ffyngau planhigion neu fywyd gwyllt oedd yn rhan o waith ymchwil yn 2019 i'w gweld mewn peryg o ddiflannu yn gyfan gwbl yn y degawdau nesa.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r anifeiliaid sydd wedi eu colli yng Nghymru: Elc, blaidd, baedd, lyncs, arth lwyd a'r ychen wyllt

Dywedodd Katie Jo-Luxton cyfarwyddwr RSPB Cymru fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ac eraill mewn awdurdod weithredu "gyda'r un brwdfrydedd a chadernid ac rydym wedi ei weld gyda coronafeirws".

Ar ôl cefnogi cynnig gan Blaid Cymru yn y Senedd yn galw am weithredu mwy cadarn yn y maes, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei fwriad i sefydlu corff annibynnol i oruchwylio'r sefyllfa yng Nghymru.

Bydd y corff yn ymchwilio i gwynion gan y cyhoedd pe bai cyrff cyhoeddus yn gweithredu mewn modd sy'n niweidio'r amgylchedd neu'n achosi llygredd.

Dywedodd Alex Phillips o WWF Cymru fod angen "amserlen glir o ran cyrraedd targedau"

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd y llywodraeth yn ymrwymo i ddeddfu o fewn y 12 mis nesa.

Yn ôl y llywodraeth mae cynlluniau i blannu coedwig genedlaethol, diwygio taliadau i ffermwyr ynghyd â gwaith i wella ansawdd yr aer a dŵr yn dystiolaeth eu bod yn cymryd y mater o ddifri.

Dywedodd y Ceidwadwr James Evans, AS Brycheiniog a Maesyfed, tra ei fod yn cefnogi camau i ddiogelu'r amgylchedd byddai'n ei chael hi'n anodd i gefnogi targedau newydd pe bai hynny ar "draul yr economi wledig a swyddi pobl yn ei etholaeth".

"Rwyf eisoes yn gweld deddfwriaeth ffosffad gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael effaith enfawr ar godi tai yng nghefn gwlad, ac mae'n rhaid bod yn ofalus iawn i gael y cydbwysedd cywir."

Dywedodd Delyth Jewell o Blaid Cymru y byddai buddsoddi mewn byd natur yn "ein galluogi i roi hwb i'r economi a chreu miloedd o swyddi".

"Pe bai ni eisiau go iawn i sicrhau Adferiad Gwyrdd mae'n rhaid buddsoddi i adfer cynefin a rhywogaethau, a chreu gweithlu fydd yn caniatáu i hynny i ddigwydd."