Clybiau ieuenctid: Ofnau bod plant yn troi at droseddu
- Cyhoeddwyd
Mae pryder fod cyfyngiadau Covid ar glybiau ieuenctid wedi ysgogi rhai pobl ifanc i ddefnyddio cyffuriau a niweidio'u hunain yn ystod y pandemig.
Dywedodd gweithwyr ieuenctid wrth y BBC fod plant mor ifanc ag 11 oed wedi siarad am hunan-niweidio a defnyddio alcohol a chyffuriau yn ystod y cyfnod clo.
Nawr maen nhw'n poeni y gallai pobl ifanc droi at droseddu a datblygu problemau iechyd meddwl os na fydd help ar gael i'w denu'n ôl at y clybiau ieuenctid.
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod wedi gweithio gyda'r sector ers dechrau'r pandemig.
'Amddifadu pobl ifanc'
Cyn i coronafeirws daro roedd nifer o glybiau ieuenctid wedi gorfod cau oherwydd toriadau neu ailstrwythuro, gyda 163 o glybiau cynghorau sir yng Nghymru yn cau rhwng 2014-2019.
Ond yn ystod y cyfnodau clo, bu'n rhaid cau pob un o'r clybiau, gan olygu nad oedd aelodau'n gallu cwrdd wyneb yn wyneb â'u gweithwyr ieuenctid.
Tra bod y rheolau yn Lloegr wedi newid i ganiatáu i bobl ifanc gwrdd dan do mewn clybiau, mae plant a phobl ifanc Cymru yn dal i orfod cadw pellter cymdeithasol ac mae cyfyngiadau ar y nifer sy'n gallu mynd i glybiau ieuenctid yn dibynnu ar faint yr ystafell neu'r adeilad.
Dywed gweithwyr ieuenctid fod y cyfyngiadau'n amddifadu pobl ifanc rhag cael lle diogel i gyfarfod tu allan i'w cartrefi ac oddi ar y strydoedd.
Ym Merthyr Tudful - un o'r ardaloedd gafodd ei tharo waethaf gan Covid-19 - dywedodd y gweithiwr ieuenctid, Paula Mohoney, bod y cyfnodau clo, un ar ôl y llall, wedi gorfodi nifer o blant "i dyfu i fyny'n rhy gyflym".
Cyn y cyfnod clo roedd 30-40 o blant a phobl ifanc yn mynd i glwb ieuenctid canolfan gymdeithasol Twyn yn Nhwynyrodyn, Merthyr Tudful bob wythnos.
Dywedodd Paula Mohoney fod y clwb wedi bod yn darparu gweithgareddau rhithiol ac anfon pecynnau gweithgaredd allan, ond bod nifer o'r aelodau wedi cael eu colli "i'r strydoedd".
I rai, y clwb oedd eu hunig le diogel, meddai, a bod rhai wedi dechrau dilyn gangiau neu wedi dechrau yfed alcohol neu ddefnyddio cyffuriau.
'Rhedeg reiat o gwmpas y dref'
"Mae 'na rai 11 oed yn mynd o gwmpas gyda dynion yn eu hoed a'u hamser nawr, ac maen nhw'n rhedeg reiat o gwmpas y dref, yn dwyn o siopau, ac yn taflu wyau at siopau," meddai.
"Rwy' wedi'u gweld nhw yn eistedd mewn cae gyferbyn â ni yn cymryd cyffuriau yn 15 oed. Fyddwn i erioed wedi breuddwydio'r fath beth."
Cyn y cyfnod clo roedd plant mor ifanc ag 11 oed wedi sôn wrthi am hunan-niweidio, ac er ei bod wedi ceisio cadw golwg ar eu llesiant trwy alwadau ffôn, roedd methu eu gweld wyneb yn wyneb yn ddychrynllyd, meddai Paula Mohoney.
Fel yr unig weithiwr ieuenctid yn y ganolfan, ac yn gweithio 12 awr yr wythnos, mae hi'n pryderu y bydd nifer yn mynd i drwbl os na fydd arian ar gael i'w galluogi hi i wneud gwaith allanol.
"Mae'r gwyliau'n dod yn fuan, ac mae'n mynd i fod yn rhemp," meddai.
"Y boen fwyaf nawr yw'r plant sydd ar y strydoedd, yn gwneud pob math o bethau - ymladd, gangiau - mae angen i ni ganfod ffordd o'u hannog yn ôl neu i ailadeiladu perthynas gyda nhw."
Dechreuodd Bailey fynd i'r clwb i gymdeithasu gyda'i ffrindiau pan oedd yn 12 oed, ond yna fe darodd Covid-19.
"Oll ro'n i'n gwneud oedd eistedd gartre'n gwylio'r teledu - doedd dim byd arall i'w wneud," meddai.
Nawr, mae'r bachgen 15 oed yn gwirfoddoli yn y ganolfan bob dydd, yn helpu yn yr ardd a gyda phlant ifanc, ac mae'n dweud bod y profiad wedi'i helpu.
"Roeddwn i'n arfer bod yn swil iawn, ond gobeithio mai fi yw'r person mwyaf bywiog yn yr ystafell nawr," meddai.
'Rhoi ein gwaith yn ôl 10 mlynedd'
I aelodau clwb ieuenctid Senghennydd (SYDIC) yng Nghaerffili, roedd treulio amser yn y clwb cyn y cyfnod clo fel treulio amser gyda'r teulu.
Ond yn ôl Dave Brenton, sy'n rheoli'r clwb di-elw, mae'r holl gyfnodau clo wedi taflu gwaith y clwb yn ôl 10 mlynedd.
"Mae dwy flynedd yn amharu arnom ni [fel oedolion], ond i blant mae hynny'n oes," meddai.
Mae materion iechyd meddwl wedi dod i'r amlwg yn ystod y pandemig, meddai, a thra bod y clwb yn gwneud popeth yn ei allu, mae'r rheolau'n ei gwneud hi'n "amhosibl" i gynnal sesiynau dan do, er bod plant yn gallu cymdeithasu gyda'i gilydd yn yr ysgol.
'Dydyn ni ddim yna i'w helpu nhw'
"Roedden ni'n deulu, ac mae'n rhaid i ni ailadeiladu hynna rhywsut, mae'n rhaid i ni adeiladu'r berthynas yna eto," meddai.
"Dwi ddim yn meddwl y byddwn ni'n cael rhai ohonyn nhw'n ôl, ac mae hynny'n drychineb oherwydd maen nhw'n mynd i gael eu colli i gyffuriau a throseddu a phob math o bethau.
"Hyd yn oed os ydyn nhw'n dewis peidio dod i mewn, rydym isio gadael iddyn nhw wybod bod lle diogel yn dal ar gael iddyn nhw yma, ond ar y foment fedran ni ddim gwneud hynny."
Dywedodd Ali, sy'n weithiwr ieuenctid, fod pobl ifanc wastad wedi cwrdd ar y stryd, ond eu bod hefyd yn galw i mewn i'r clwb ieuenctid i gymdeithasu a chael bwyd a sgwrs.
"Rydym wedi colli'r cysylltiad yna. Maen nhw'n dal allan yna, ond dydyn ni ddim, felly dydyn ni ddim yna i'w helpu nhw mewn unrhyw ffordd," meddai.
Yn ôl Esme-Jade Davies, 19, sy'n fyfyrwraig ac yn gwirfoddoli yn y clwb, mae methu mynd yno wedi bod yn rhwystredig.
Mae hi'n pryderu na fydd rhai aelodau'n dod yn ôl ac y byddan nhw'n dal i fod wedi'u hynysu.
Mae adroddiad diweddar yn dangos bod materion emosiynol ac iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd wedi cynyddu'n sylweddol ers i ysgolion ailagor wedi cyfnod clo dros y Nadolig.
Dywedodd swyddogion o gyngor y ddinas bod nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant wedi cynyddu 253 i 458, 81%, yn y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'r cyngor yn bwriadu darparu nosweithiau ychwanegol i glybiau ieuenctid dros yr haf mewn ymgais i ailgysylltu gyda phobl ifanc.
Dywedodd y Comisiynydd Plant, Sally Holland, bod gweithwyr ieuenctid wedi gweithio'n galed i gadw pobl ifanc yn ddiogel, ac wedi wynebu "heriau sylweddol" yn ystod y pandemig.
"Mae'n pryderu rhywun i glywed gweithwyr ieuenctid yn siarad am golli cysylltiad efo pobl ifanc yn ystod y pandemig, a'u hofnau am fethu darparu cefnogaeth," meddai.
"Mae'n bwysig bod y llywodraeth yn gwrando ar y pryderon hyn wrth i ni symud ymlaen, fel bod eu hymateb tymor hir i effeithiau'r pandemig yn gallu bod mor effeithiol â phosib."
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi gweithio gyda'r sector ieuenctid drwy gydol y pandemig, ac wedi helpu gwasanaethu i sicrhau £21m mewn grantiau, ynghyd ag arian ychwanegol er mwyn hwyluso'r ymateb i "anghenion brys y bobl ifanc y maent yn eu cefnogi".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2020
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd3 Mai 2018