Cerdded tri chopa i gael canolfan MND yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Wil, Bob a Lowri
Disgrifiad o’r llun,

Wil, Bob a Lowri yn ystod her tri chopa Cymru

Mae teulu gŵr o orllewin Cymru sy'n byw â Chlefyd Motor Niwron (MND) yn galw am ganolfan ymchwil glinigol i Gymru er mwyn sicrhau tegwch i gleifion.

Ar hyn o bryd does gan Gymru ddim canolfan ymchwil bwrpasol i gynnal treialon - mae canolfannau o'r fath yn Lloegr a'r Alban.

Mae Bob Gledhill, a gafodd ddiagnosis ym mis Hydref 2020, bellach wrthi'n cwblhau'r her tri chopa Cymru gyda'i deulu a chefnogwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth a phres dros yr achos.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod "nifer o dreialon i MND yn digwydd" a'u bod yn "gweithio mewn partneriaeth" gydag asiantaethau i gefnogi unigolion sy'n byw â'r cyflwr.

'Rhoi chwarae teg'

Mae Clefyd Motor Niwron yn effeithio ar yr ymennydd a'r cyhyrau, ac yn ôl y gymdeithas MND yng Nghymru, mae traean o bobl yn marw o fewn blwyddyn o ddiagnosis.

Mae gan Bob, sy'n 52 ac yn dod o Gaerfyrddin, fath o MND sydd ddim ymhlith y mwyaf ffyrnig a'r gred yw y bydd ei ddirywiad yn digwydd yn raddol yn hytrach na'n gyflym.

Er hynny mae o a'i deulu yn dweud bod angen mwy o waith ymchwil clinigol yng Nghymru i roi "chwarae teg" i unigolion sy'n byw â'r cyflwr.

Disgrifiad,

Mae Bob Gledhill bellach wrthi'n cwblhau'r her tri chopa Cymru gyda'i deulu a chefnogwyr

Fe ddechreuodd Bob amau fod rhywbeth o'i le rhyw flwyddyn cyn ei ddiagnosis.

"O'n i'n sylwi fy mod i'n gweld hi'n anodd defnyddio fy mraich chwith," meddai.

"O'dd e'n wael pan oedd hi'n dywydd oer ond wrth ddod i'r gaeaf canlynol mi oedd e'n waeth a nes i feddwl - dylwn i gael rhywun i edrych ar hyn."

Ar ôl gweld ei feddyg teulu a chael ei gyfeirio at arbenigwyr fe gafodd y diagnosis, ac mae'n disgrifio derbyn y newyddion fel profiad "trychinebus" iddo fo a'i deulu.

Wrth dderbyn ei newyddion mae Bob a'i deulu'n dweud eu bod nhw wedi cael braw o weld cyn lleied o wybodaeth oedd ar gael.

"Oll cawson oedd y diagnosis ac wedyn cyngor ar ofal diwedd oes, doedd dim byd yn y canol.

"Doedd dim triniaeth na dim cyngor ar sut allai wneud yr amser sydd gen i'n weddill yn well," meddai.

"Mae angen ymchwil, treialon clinigol a chanolfan yng Nghymru," meddai gwraig Bob, Dr Lowri Davies.

"Mae angen un fel bod cleifion yng Nghymru yn cael yr un ddarpariaeth ag sydd yn Lloegr a'r Alban ar hyn o bryd.

"Ymchwil clinigol, dim ymchwil ar lygod ond ymchwil lle maen nhw yn addasu cyffuriau neu yn trio ail bwrpasu cyffuriau sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y clefyd i weld os oes un rhywbeth yn mynd i helpu. Dyna sydd ei angen yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Teulu Bob Gledhill a degau o ffrindiau yn cerdded dros y penwythnos er mwyn codi arian i gael canolfan MND

Dydd Gwener ddiwethaf fe ddechreuodd Bob, Lowri, eu mab Wil a degau o ffrindiau eraill her tri chopa Cymru i godi arian ac ymwybyddiaeth o'r salwch.

"Mi oedd yn bwysig cadw'n ffit a chario 'mlaen mynd," meddai Bob.

"Dwi 'di bod yn 'neud lot o ymarfer corff a dwi 'di bod yn gwneud defnydd o gyfleusterau yn Abertawe i bobl sydd â chyflyrau tebyg ond pan ofynnodd ffrindiau beth allwn wneud - doedd dim byd, felly dyma ni'n penderfynu gwneud hyn."

Hyd yn hyn mae'r teulu wedi codi dros £21,000 i'r achos.

'Cefnogi a chynyddu ymchwil ar draws Cymru'

Wrth ymateb i'r galw am ganolfan ymchwil fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n cydnabod bod "treialon clinigol yn chwarae rôl bwysig yn y driniaeth i bobl sydd ag MND".

"Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu'r isadeiledd i gefnogi a chynyddu ymchwil ar draws Cymru gan gynnwys £15m i adrannau GIG yng Nghymru i helpu nhw gynnal treialon mewn nifer o feysydd gan gynnwys MND."

Ychwanegodd llefarydd fod "nifer o dreialon ar y gweill yng Nghymru a bod cyfleodd i rai unigolion gael treialon y tu hwnt i Gymru a'u bod yn parhau i gydweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pobl sydd â chyflyrau niwrolegol yn cael y gefnogaeth maen nhw angen".

Er yn cydnabod felly bod ymchwil ar y gweill ym Myrddau Iechyd Bae Abertawe a Chaerdydd a'r Fro, mae Bob a'i deulu yn parhau i alw am un ganolfan bwrpasol i Gymru i helpu teuluoedd, sydd â salwch fel un o, gael y gefnogaeth a'r cyfle maen nhw ei angen.