Troi Cadeirlan Bangor yn ganolfan frechu torfol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cadeirlan
Disgrifiad o’r llun,

Bydd staff y GIG yn brechu cleifion yn yr adeilad bum niwrnod yr wythnos

Cadeirlan Bangor yw canolfan frechu torfol newydd Gwynedd ac Ynys Môn - y gadeirlan gyntaf yng Nghymru i gael ei defnyddio fel un o leoliadau'r rhaglen frechu rhag Covid-19.

O ddydd Mawrth tan ddiwedd Medi, fe fydd staff y GIG yn brechu cleifion yn yr adeilad bum niwrnod yr wythnos a bydd gwasanaethau'r Eglwys yng Nghymru'n cael eu cynnal ar y ddau ddiwrnod arall.

Un o adeiladau Prifysgol Bangor - Canolfan Brailsford - oedd canolfan frechu torfol y gogledd-orllewin tan ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd dros 85,000 o frechiadau eu rhoi yno cyn addasu'r adeilad fel modd i'w ddefnyddio unwaith yn rhagor fel canolfan ffitrwydd a champfa'r brifysgol.

Cafodd y ganolfan hefyd ei throi'n ysbyty maes ym misoedd cynnar y pandemig, er na fu angen i'r un claf orfod cael triniaeth yno yn y pen draw.

Disgrifiad o’r llun,

Gwaith sefydlu un o dair Ysbyty'r Enfys y gogledd yng Nghanolfan Brailsford, Bangor y llynedd

Dan y trefniant diweddaraf, bydd seddau'r gadeirlan yn cael eu symud i un ochr er mwyn creu lle ar gyfer byrddau a sgriniau.

Bydd gwasanaethau'n cael eu cynnal yn y gadeirlan restredig Gradd I ar ddyddiau Mercher a Sul.

"Bydd yn rhaid i ni weithio'n wirioneddol galed oherwydd byddan ni'n cael gwasanaethau Sul yn ogystal â'r clinigau brechu yn ystod yr wythnos," meddai Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andy John.

"Mae'r gadeirlan yng nghanol y ddinas ac mae defnyddio'r adeilad yn y ffordd yma'n fodd o wasanaethu ein cymuned."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cleifion cyntaf eu brechu yn y gadeirlan ddydd Mawrth

Ychwanegodd: "Mae Cristnogion â diddordeb ymhob agwedd ar fywyd, ac mae defnyddio'r adeilad mewn ffordd all fod o fudd i bobl yn cyd-fynd yn llwyr â'r ffordd rydym yn addoli Duw yma.

"Mae cadeirlannau wedi bod yn ganolfannau croeso erioed - nid clwb sanctaidd mohono. Maen nhw'n perthyn i bawb, ac edrychwn ymlaen at groesawu pawb yn yr wythnosau nesaf."

Cyfraddau'n cynyddu

Dywedodd cyfarwyddwr rhanbarth gorllewin Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Ffion Johnstone: "Mae cyfraddau cymunedol Covid-19 yn cynyddu'n gyflym ar draws Gwynedd ac Ynys Môn felly mae'n bwysig iawn bod pawb yn cael brechiad. Bydd hynny'n helpu i ddiogelu chi eich hun ac eich anwyliaid.

"Mae'r pandemig yma wedi achos nifer fawr o farwolaethau ac er llwyddiant y rhaglen frechu, mae angen i ni sicrhau ein bod yn dilyn y cyfyngiadau sy'n dal mewn grym.

"Mae'n hanfodol bod ein cymunedau lleol yn parhau i ddilyn y canllawiau cenedlaethol sy'n cynnwys cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo a gorchuddio'r wyneb."