Y dramodydd a'r llenor Emyr Edwards wedi marw yn 90 oed
- Cyhoeddwyd
Mae'r dramodydd a'r llenor Emyr Edwards wedi marw yn 90 oed.
Yn sylfaenydd Cwmni Theatr yr Urdd, roedd yn awdur toreithiog, gan gyhoeddi sawl llyfr ar theori'r actor, ynghyd â chyfansoddi dramâu a dramâu cerdd.
Bu'n brif arholwr arholiad Drama Safon Uwch i Gyd-bwyllgor Addysg Cymru am 25 mlynedd.
Tra'n ddramodydd ifanc, sylwodd Emyr Edwards bod diffyg cyfleoedd ar gael i bobl ifanc ymddiddori mewn actio trwy gyfrwng y Gymraeg, a dyna sut y daeth y syniad o greu Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd.
Fe aeth y cwmni ymlaen i sbarduno gyrfaoedd nifer o actorion a dramodwyr eraill fel Sian James, Stifyn Parri a Cefin Roberts.
'Cwymp ac Adferiad Dyn' gan John Bowen oedd cynhyrchiad cyntaf y cwmni yn 1974 - drama a gafodd ei chyfieithu i'r Gymraeg gan JM Edwards, tad Emyr Edwards.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd Urdd Gobaith Cymru: "Gwnaeth Emyr gyfraniad mawr yn rhoi cyfleon unigryw a bythgofiadwy i rai cannoedd o bobl ifanc Cymru oedd â diddordeb yn y theatr drwy'r Urdd.
"Roedd yn un o'r bobl brin hynny oedd nid yn unig â gweledigaeth ond â'r penderfyniad i droi'r weledigaeth honno'n ffaith, a braint a phleser oedd cael ei anrhydeddu yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019. Bydd colled fawr ar ei ôl.
"Mae'r Urdd fel mudiad yn anfon cydymdeimlad diffuant at ei deulu, ac yn edrych i ailgydio yng Nghwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd i'r dyfodol."
Yn ogystal â chyhoeddi nifer o lyfrau canllaw ar gyfer actorion a chynhyrchwyr, fe gyhoeddodd Emyr Edwards gyfresi o ddramâu byrion, gan gynnwys Y Fodrwy.
Bu hefyd yn gyfrifol am drosi dramâu i'r Gymraeg, gan gynnwys drama enwog Tennessee Williams 'A Streetcar Named Desire'.
Enillodd gystadleuaeth y ddrama fer dair gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Fe enillodd ei dad, JM Edwards, goron yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith yn 1937, 1941 ac 1944, ac roedd Emyr Edwards yn barddoni hefyd.
Fe gyhoeddodd ddwy gyfrol, Guernika a Cherddi Eraill ac yn addas iawn - Cerddi'r Theatr.
Treuliodd Emyr Edwards ei yrfa fel pennaeth yr Adran Ddrama yng Ngholeg Hyfforddi Morgannwg yn Y Barri ac yna ym Mholytechnig Cymru, Pontypridd.
Bu'n gynhyrchydd am bedair blynedd yn nyddiau cynnar datblygiad S4C.
Am gyfnod bu'n ddarlithydd ar gwrs Theatr Cerdd a'r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.
Yn gynharach eleni bu farw ei wraig, Cath, wedi salwch hir. Mae'n gadael mab, Seth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2019