Y dyn sy'n gofalu am 'faes chwarae prysuraf Prydain'

  • Cyhoeddwyd
jonFfynhonnell y llun, Gareth Everett

Mae maes Rodney Parade wedi bod â rôl bwysig yn hanes dinas Casnewydd ers 1877. Mae'n gartref i ranbarth y Dreigiau, Clwb Rygbi Casnewydd a Chlwb Pêl-droed Casnewydd, yn ogystal â rhai o dimau cenedlaethol rygbi a phêl-droed menywod a ieuenctid Cymru.

Sut mae cadw gofal ar gae sy'n cael gymaint o ddefnydd? Y gŵr sydd â'r union dasg yna yw Jon Raymond, Rheolwr Cyfleusterau'r Dreigiau.

Felly, sut wnaeth Jon ddechrau yn ei swydd?

"Nôl yn 2011 o'n i'n ball-boy, ac yn gwirfoddoli gyda'r adran gymunedol yma," eglurodd.

"O'n i'n gwneud cwrs hyfforddi chwaraeon a dal yn gwirfoddoli ar Rodney Parade. Blwyddyn i fewn i'r cwrs daeth cyfle am swydd pan 'nath yna staff adael. Ges i gynnig swydd fel gofalwr maes dan hyfforddiant gan Mark Jones, sydd bellach yn rheolwr-gyfarwyddwr gyda'r Dreigiau.

"Yna wedi imi gael y cymwysterau angenrheidiol nes i weithio fy ffordd lan a fi bellach yw'r rheolwr adnoddau yma."

Ffynhonnell y llun, Gareth Everett
Disgrifiad o’r llun,

Maes Rodney Parade yn edrych ar ei orau

Mae Jon yn cael ei gyflogi gan Undeb Rygbi Cymru, ond nid gofalu am y cae ar gyfer gemau rygbi yn unig mae'n ei wneud.

"Dwi yn fy 10fed tymor yma ac dwi 'di gweld lot o newidiadau dros y cyfnod yna. Pan ddes i yma gynta', dim ond rhanbarth y Dreigiau a Chasnewydd oedd yn chwarae yma, gyda chwpl o gemau eraill efallai yn y tymor."

Ffynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Arwchilio'r cae; Jon (ar y chwith), James Stewart (canol) a David Pengelley (ar y dde)

"Ond bellach mae 'na rhyw 70 gêm yn cael eu chwarae yma, gyda'r Dreigiau, Casnewydd, Clwb Pêl-droed Casnewydd, Merched Cymru ac weithiau tîm pêl-droed dan 21 Cymru yn chwarae yma. Byswn i'n meddwl mai dyma'r maes chwarae proffesiynol prysuraf ym Mhrydain.

"Mae yna lot o dimau yn Ail Adran Lloegr (lle mae Casnewydd) sy'n dweud bod ganddyn nhw dimau rygbi'r gynghrair sy'n rhannu maes gyda nhw. Ond gan fod tymor rygbi'r gynghrair yn dechrau yn Chwefror mae nhw wedi gorffen eu tymor erbyn i'r tîm pêl-droed ddechrau ym mis Awst. Mae ein holl gemau ni yn cychwyn ddechrau mis Awst ac yn mynd mlaen tan ddiwedd mis Mai. Weithiau mae gennym ni dair gêm yma mewn wythnos."

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Merched Cymru'n chwarae yn erbyn yr Ynysoedd Ffaröe ar Rodney Parade, 22 Hydref 2020

Yn 27 oed, mae Jon yn ddyn ifanc i fod yn y proffesiwn, ond mae'n mwynhau'r ffaith ei fod yn dysgu mwy am ei swydd gyda bob tymor.

"Yn y proffesiwn yma mae pobl yn dysgu drwy'r adeg, mae'r datblygiadau yn aruthrol. Pan ddes i yma gynta' roedd ganddon ni faes a oedd yn laswellt naturiol yn llwyr, ac roedd e yno ers blynyddoedd.

"Ond ry'n ni ar fin gorffen gwaith o osod maes cymysg, sef y maes mwyaf modern mae'n bosib ei gael heddiw."

Hefyd o ddiddordeb:

"Er hyn mae'n rhaid i ni dal baratoi'r cae fel yr arfer, does dim gwair ar y funud ond unwaith fydd yr hadau'n dechrau tyfu bydd rhaid i ni ei dorri'n rheolaidd a defnyddio gwrtaith tua dwywaith y mis.

"Yna pryd mae'r tymor chwarae yn dechrau mae'n eitha' intense - ar ôl pob gêm mae rhaid trin y gwair a'i dorri, ac yna rhaid edrych drosto er mwyn ystyried rhoi gwrtaith lawr. Ac mae'r tywydd yn gallu effeithio ar y maes - os ydi hi'n glawio ar benwythnos ble mae gemau rygbi wedi bod, gall y gwahaniaeth fod yn syfrdanol rhwng nos Wener a bore dydd Llun."

Ffynhonnell y llun, Chris Fairweather/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Y gwaith o osod cae cwbl newydd sydd yn digwydd ar Rodney Parade ar hyn o bryd

"Mae'r dyddiau o chwarae rygbi mewn mwd ar y lefel uchaf wedi mynd bellach. Beth sy'n helpu gyda hyn ydy bod y caeau wedi eu pwytho, felly mae ffibr yn pwytho'r cae'n fwy compact at ei gilydd, ac felly mae'n gwisgo'n well ac yn fwy tough.

"Mae rhai timau rygbi'n defnyddio caeau 3G neu 4G, fel sydd ar Barc yr Arfau yng Nghaerdydd. Ond gan fod y Dreigiau'n rhannu maes gyda chlwb pêl-droed Casnewydd doedd hyn ddim yn opsiwn - dydy clybiau pêl-droed yn Adrannau Lloegr ddim yn cael defnyddio caeau 3G neu 4G, ac mae rhai timau wedi ennill dyrchafiad i'r Ail Adran ac yna newid eu maes oherwydd y rheol yma."

Ffynhonnell y llun, Huw Fairclough
Disgrifiad o’r llun,

Y Dreigiau yn chwarae yn erbyn Northampton, 3 Ebrill 2021

"Yn fy marn i does 'na ddim byd gwell na gwair go iawn, ac mae'n saffach hefyd yn fy marn i, gyda llawer o chwaraewyr wedi llosgi'n ddifrifol tra'n chwarae ar gaeau 4G - dwi'n falch bod gennym ni ddim hyn ar Rodney Parade.

"Mae'r gwaith yn eitha' gwyddonol bellach, gan gymryd lefelau y cywasgu a lleithder y gwair, a phenderfynu os oes angen ei rolio neu ei agor rhywfaint i gael aer, faint o ddŵr mae angen ei roi a pha rannau o'r cae i'w drin.

"Gyda'r cae newydd dwi'n eitha' hyderus y bydd 'na ddim llifogydd ar y cae eto - y peryg mwyaf bellach ydy'r rhew dros y gaeaf."

Ffynhonnell y llun, Chris Fairweather/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cae newydd ymysg y gorau ellir ei gael ar gyfer rygbi a phêl-droed proffesiynol

Diwrnod cyn gêm mae Jon a'i gydweithwyr yn Rodney Parade yn gynnar i rolio'r cae a'i wneud i edrych yn neis gyda llinellau taclus, paentio'r llinellau a rhoi'r pyst pêl-droed neu rygbi i fyny. Esboniai Jon bod hyn yn ddigon braf i'w wneud pan fydd y gamp yn newid bob yn ail penwythnos achos mae digon o amser rhwng y gemau. Ond fe all calendr lawr ei wneud yn her, meddai Jon.

"Mae'n anodd achos gall y Dreigiau chwarae ar nos Wener, gyda'r gêm yn gorffen 21.30, ac yna mae Casnewydd yn chwarae pêl-droed adref y diwrnod wedyn. Rhaid cael y pyst a'r llinellau a'r gwair yn barod erbyn hanner dydd ar y dydd Sadwrn, felly mae'n gallu bod yn sialens, yn enwedig wrth ystyried y gall ambell sgrym ar y nos Wener wneud difrod mawr i'r cae.

"Felly fe all fod gennym ni dri neu bedwar diwrnod i baratoi, neu fe all fod llai na wyth awr, ac os ydi hi'n bwrw glaw yn y cyfnod hynny mae'r gwaith yn anoddach fyth.

Ffynhonnell y llun, Gareth Everett
Disgrifiad o’r llun,

Gyda'r glaw daw'r her i'r gweithwyr sy'n gofalu am y cae chwarae

"Dwi'n cymryd balchder mawr pan mae pobl yn cymryd lluniau o'r cae ac mae'n edrych yn hyfryd. Ond dwi'n cael mwy o falchder ym mis Rhagfyr pan fydden ni'n gallu cynnal gêm ar nos Wener, Sadwrn a nos Fawrth.

"Llwyfannu tair gêm mewn llai na phum diwrnod yn ystod y misoedd gwlypaf, hynny yw'r peth anoddaf am y swydd. Ym mis Awst mae'r gwair yn adfywio ac yn gwella'i hun yn naturiol, ond mae'n anoddach pan fo'r tymheredd ddim yna i dyfu'r gwair."

Gan ei fod yn arbenigwr, mae rhaid gofyn felly, sut mae gwair Jon gartref?

"I fod yn onest, 'sgen i ddim gwair adref, mae'n haws cadw'r ardd gefn yn daclus fel 'na!"

Efallai bod beth maen nhw'n ddweud yn wir, dydi rhywun ddim yn hoffi dod â waith adref gyda nhw.

Ffynhonnell y llun, Darren Griffiths/Huw Evans Agency