Dioddefwyr trais 'ofn' mynd at yr heddlu oherwydd oedi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Roxy Freebury
Disgrifiad o’r llun,

Mae Roxy Freebury o Gasnewydd wedi dioddef o drais yn y cartref ddwywaith

Dyw pobl ddim yn sôn am achosion o drais yn y cartref wrth yr heddlu am bod rhaid aros yn hir cyn cael cyfiawnder, yn ôl un sydd wedi dioddef.

Mae 57,000 o achosion yn disgwyl gwrandawiad yn llysoedd y goron ar draws Cymru a Lloegr oherwydd oedi.

Mae yna ofnau bod y pandemig wedi gwneud y sefyllfa yn waeth er gwaethaf buddsoddiad gan Lywodraeth y DU.

Mae un heddlu wedi sefydlu uned arbennig i helpu'r niferoedd cynyddol o bobl sy'n aros am gyfiawnder, ac er mwyn gostwng y pwysau ar linell ffôn 101.

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud eu bod yn buddsoddi mewn llysoedd.

Mae Roxy Freebury, 24, o Gasnewydd, wedi dioddef o achosion o drais yn y cartref ddwywaith, a dywed bod derbyn gwybodaeth gyson yn bwysig i'w diogelwch.

"Roedd yn rhaid i fi ffonio'r heddlu fy hun a mynd i orsaf yr heddlu gyda ffrind er mwyn gweld be' oedd yn digwydd," gan egluro bod y swyddog oedd yn delio gyda'i hachos ar wyliau.

"Ro'n i newydd sôn wrth Cymorth i Fenywod am rywun oedd yn beryglus ac felly yn credu y byddai'r heddlu yn cadw llygad mwy manwl arnaf.

"Doeddwn i ddim yn gwybod a oedd y person yma wedi'i ryddhau neu ei gadw yn y ddalfa pan es i at yr heddlu - ac yna ro'n i'n teimlo fel niwsans."

'Mae'n gallu cymryd amser hir'

Ers hynny mae Ms Freebury wedi bod yn cydweithio gyda'r heddlu er mwyn eu cynghori ar sut mae gwella gwasanaethau.

"Fi'n credu bydd e'n 'neud gwahaniaeth mawr - mae rhai yn credu na fydd yr heddlu yn gwneud dim am fod y cyfan yn cymryd gormod o amser ond nawr mae nhw'n gwybod bod uned arbennig sy'n rhoi cefnogaeth i ddioddefwyr - hyd yn oed os yw'r achos yn cymryd mwy o amser."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly, yn credu bod yr uned yn gweithredu er lles pawb

Dywed Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly, bod cael 19 o swyddogion arbenigol sy'n rhoi gwybodaeth gyson i ddioddefwyr yn golygu y gallai y galwadau i wasanaeth 101 ostwng 12%.

"Mae pawb ar eu hennill wrth i wasanaeth 101 weithredu'n gynt ond yn fwy pwysig mae'n golygu ein bod yn gallu darparu y gwasanaeth priodol i ddioddefwyr ar yr adeg iawn", meddai.

"Yn aml y dioddefwyr sydd fwyf bregus ond yn wir nhw sy'n fwyaf allweddol i'r system gyfiawnder - hebddyn nhw fydd dim posib erlyn troseddwyr."

Yn gynharach eleni fe wnaeth y comisiynydd troseddwyr, Vera Baird, rybuddio y Pwyllgor Dethol ar Gyfiawnder ei bod hi'n bosib na fydd dioddefwyr yn rhan o'r broses gyfiawnder gan bod oedi yn y llysoedd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae nifer o heriau yn parhau a dyna pam ry'n ni'n buddsoddi cannoedd o filiynau o bunnau er mwyn cynyddu capasiti - gan gynnwys agor llys dros dro yn Abertawe i sicrhau cyfiawnder cyflymach a chymorth i ddioddefwyr."

Os ydych wedi dioddef o drais yn y cartref mae cymorth a chefnogaeth ar gael yma.