Bro Dinefwr am fod yr ysgol uwchradd garbon-niwtral gyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn gobeithio mai hi fydd yr ysgol uwchradd garbon-niwtral gyntaf yng Nghymru.
Mae Ysgol Bro Dinefwr, ger Llandeilo, wedi bod yn gweithio gyda chwmni ynni a chyflenwyr lleol er mwyn ceisio gostwng a gwrthbwyso eu hallyriadau carbon.
Ond mae un arbenigwr amgylcheddol wedi rhybuddio bod angen 'shifft ddiwylliannol' ledled Cymru os yw pob corff cyhoeddus am gyrraedd y targed o ddod yn ddi-garbon erbyn 2030.
Mae cais wedi cael ei roi i Lywodraeth Cymru am ymateb.
Dywedodd Ian Chriswick, pennaeth cynorthwyol yr ysgol, eu bod wedi bod yn edrych ar drefn caffael bwyd yr ysgol, effeithlonrwydd systemau goleuo yn ogystal â gosod technoleg a fydd yn caniatáu i'r ysgol leihau allyriadau carbon.
"Rydyn ni'n edrych i gynyddu nifer y celloedd solar ar ein to, rydyn ni hefyd yn y dyfodol yn mynd i ailgyfeirio ein prif ffynhonnell ynni o'r tyrbin gwynt lleol," meddai.
"Rydyn ni'n mynd i fod yn gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn ein maes parcio i staff a bydd hawl gan ymwelwyr i'w defnyddio hefyd."
Ychwanegodd eu bod yn gobeithio y gallen nhw fod yn "achos peilot" a'r "gyntaf o lawer" o ysgolion i ddod yn garbon niwtral. Ond cyfaddefodd fod gan yr ysgol fantais gan mai dim ond pump oed yw'r adeilad.
Mae Ysgol Bro Dinefwr, sy'n credu y gallent gyrraedd eu nod o fewn y pedair neu bum mlynedd nesaf wedi cydweithredu â'r cwmni ynni lleol, Ynni Sir Gâr, i ddod o hyd i baneli solar a'u ffitio a defnyddio tyrbinau gwynt lleol.
"Mae'r ysgolion hyn yn rili cael amser caled yn talu biliau ynni a mae llawer o bethau ni'n gallu 'neud. Beth dyle ni wneud yw cael trydan o'r ynni gwynt i ddod yn syth i mewn i'r ysgol a chael y manteision i bobl yn yr ysgol," meddai Dr Neil Lewis, Rheolwr Ynni Syr Gâr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y nod i bob corff cyhoeddus i fod yn niwtral o ran carbon erbyn 2030 - a dim ond naw mlynedd sydd tan hynny.
Er gwaethaf y doreth o dechnoleg ac uchelgais i ddod yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd, mae Dr Lewis yn credu bod angen gweithredu ar frys.
"Rwy'n credu bod angen i newid diwylliannol ddigwydd mewn cyrff cyhoeddus. Mae'n hawdd iawn datgan argyfwng hinsawdd, ond mae'n rhaid i chi weithredu ar hynny gyda synnwyr o frys," meddai.
"O fy safbwynt i ar gyfer rhywun sydd wedi bod yn gwneud y swydd hon ers 10 mlynedd, dwi ddim yn canfod lefel y brys y mae newid yn yr hinsawdd yn gofyn amdani."
Beth mae'r ysgol yn ei wneud?
Mae'r ysgol wedi bod yn gweithio gyda nifer o sefydliadau, cwmnïau ac elusennau ar brosiectau ar y safle - sy'n cynnwys creu ardal ddysgu awyr agored fawr, ardal berfformio awyr agored a gardd heddwch.
Mae un o'r prosiectau mwyaf, mewn cydweithrediad â'r Gymdeithas Frenhinol a Phrifysgol Abertawe, yn cynnwys defnyddio twnnel polythen i ymchwilio i ba blanhigion a allai dyfu orau gan ddefnyddio technoleg hydroponeg.
Mae'r letys maen nhw'n eu tyfu yn cael eu defnyddio yng ngwersi coginio'r ysgol.
Ymhlith prosiectau amgylcheddol eraill mae:
Creu wal gelf yn yr ardal ddysgu awyr agored;
Sefydlu ardal cadw gwenyn;
Adeiladu gwelyau wedi'u codi ar gyfer tyfu planhigion a llysiau;
Adeiladu pwll;
Gardd synhwyraidd ar gyfer uned awtistig yr ysgol;
Gweithio i newid cyflenwad ynni'r ysgol i fod yn 100% adnewyddadwy.
Ymateb staff a disgyblion
Mae'r disgyblion wedi croesawu'r ymdrechion yn yr ysgol i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bioamrywiaeth, yr heriau sy'n wynebu'r hinsawdd a'r nod o ddod yn garbon niwtral.
Dywedodd Angharad, disgybl blwyddyn 13 ei bod yn gobeithio y byddai ysgolion eraill yn gwneud yr un peth.
"Dwi'n credu bod e'n ardderchog a dwi'n falch bod e'n rhywbeth mae disgyblion yn gallu cymryd rhan yn 'neud e. Dwi'n gobeithio bydd lot o ysgolion gwahanol yn gallu gwneud pethe fel hyn er mwyn gwneud mwy o wahaniaeth," meddai.
Ychwanegodd Cerys, disgybl Blwyddyn 12, fod trafod newid yn yr hinsawdd yn hynod bwysig iddi: "Mae'n dod lawr i fater o'n dyfodol ni. Os ni ddim yn helpu'r amgylchedd nawr, bydd e'n wael."
Y tu hwnt i fuddion amgylcheddol y prosiectau ar y safle, dywed yr athrawon eu bod nhw wedi canfod bod y disgyblion wedi ymgysylltu â phynciau yn wahanol wrth weithio yn yr awyr agored.
"Maen nhw wedi cael lot o brofiadau fi'm yn credu bydde nhw byth wedi gael o fod yn y dosbarth.
"Mae'n rhoi cyfle iddyn nhw fod allan yn yr awyr agored a chael profiadau gwahanol yn hytrach na bod yn yr ystafell ddosbarth - yn enwedig ar ôl eleni," meddai Owen Rhys, pennaeth Hanes Ysgol Bro Dinefwr.
"Ma' fe'n brosiect hir dymor, mae hwn yn rhywbeth sydd yn mynd i fod yn para o flwyddyn i flwyddyn. Ni mo'yn bod yn un o'r ysgolion sydd yn flaenllaw o ran carbon-niwtral, o ran dangos bod e'n bosib gwneud rhywbeth sy'n bositif tuag at yr amgylchedd."
Ymateb y llywodraeth
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn "hollol gywir i ddweud ein bod ni angen dull 'Tîm Cymru' i fynd i'r afael â newid hinsawdd, lle mae pawb yn gweithio gyda'n gilydd a chwarae ein rhan.
"Rydyn ni wedi cefnogi Ynni Sir Gâr trwy ein Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ac mae'n enghraifft o ymrwymiad hir dymor y sector cyhoeddus i ddadgarboneiddio ac ynni cymunedol.
"Yn ddiweddar fe gyhoeddon ni ein Canllaw Sector Cyhoeddus ar gyfer adrodd ar garbon sero-net er mwyn amcangyfrif allyriadau llinell sylfaen, adnabod ffynonellau sy'n flaenoriaeth ac i fonitro cynnydd tuag at cyrraedd yr uchelgais ar y cyd o Sector Cyhoeddus garbon-niwtral erbyn 2030."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2020