Ombwdsmon: 'Claf wedi marw heb ofal diwedd oes addas'
- Cyhoeddwyd
Ni chafodd claf canser ym Mwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg "ofal lliniarol addas ar ddiwedd ei oes" yn 2018, medd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ei adroddiad ar yr achos.
Fe wnaeth yr ombwdsmon Nick Bennett ymchwilio i'r mater wedi cwyn gan ei weddw Mrs W, sydd ddim yn cael ei henwi.
Mae Mrs W yn dweud na wnaeth ei gŵr, Mr W - sydd hefyd yn ddienw yn yr adroddiad - wella yn dilyn ei lawdriniaeth canser yr oesoffagws ym mis Chwefror 2018.
Roedd yn cael trafferth bwyta, meddai, ac aeth yn denau. Roedd e'n methu symud ac roedd e'n teimlo'n isel.
'Teimlo'n ofnus ac yn ddiymadferth'
Mae adroddiad yr ombwdsmon yn nodi mai dim ond pythefnos o ofal lliniarol a gafodd Mr W cyn iddo farw ym mis Medi 2018 ac felly "ni chafodd fudd o gymhorthion fel comôd a gwely ysbyty".
Dywedodd Mrs W fod gweld dirywiad araf a marwolaeth ei gŵr fel ei unig ofalwr a hynny "heb gyngor na chefnogaeth" wedi ei gadael gyda "theimladau o ofn a diymadferthedd pur a fydd yn aros gyda hi am byth".
Ychwanegodd nad oedd hi'n gallu deall pam na chafodd ei gŵr y cymorth a'r gefnogaeth a oedd yn eu haeddu, ac a oedd eu hangen arno.
Roedd Mr W yn byw yn sir Pen-y-bont ar Ogwr - ardal a gafodd ei throsglwyddo yn ddiweddarach o gyn-Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg (bellach wedi'i ailenwi'n Fwrdd Iechyd Bae Abertawe) i gyn-Fwrdd Iechyd Cwm Taf (Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg bellach).
'Anghyfiawnder difrifol'
Mae byrddau iechyd Bae Abertawe a Chwm Taf Morgannwg wedi cytuno i weithredu nifer o argymhellion yn sgil yr achos.
Yn adroddiad yr ombwdsmon, nodir bod "methiannau cyfathrebu wrth esbonio'r diagnosis, y prognosis a'r canlyniadau tebygol i'r claf, ynghyd â methiannau wrth ddarparu cymorth seicogymdeithasol a chymorth dietegol arbenigol cyn, yn ystod ac ar ôl ei lawdriniaeth".
Dywed hefyd nad oes "unrhyw dystiolaeth bod y bwrdd iechyd wedi darparu gofal a chymorth lliniarol digonol a phriodol i'r claf a'i deulu yn dilyn ei lawdriniaeth aflwyddiannus, a bod y bwrdd iechyd wedi methu ag ymdrin yn brydlon â cheisiadau gan deulu'r claf am gyswllt a chymorth".
"Mae'r achos hwn yn un hynod frawychus. Yn anffodus, credaf fod hawliau dynol Mr a Mrs W yn debygol o fod wedi'u cyfaddawdu," meddai Mr Bennett.
"Ni roddwyd amser i Mr a Mrs W baratoi am ei ganlyniad terfynol, yn feddyliol a gyda chymhorthion a chefnogaeth gofal lliniarol addas.
"Effeithiodd hyn ar hawliau Mr W fel unigolyn, ac ar ei hawliau ef a Mrs W fel rhan o fywyd teuluol ehangach.
"Mae'r methiannau a nodwyd yn cynrychioli anghyfiawnder difrifol i Mr a Mrs W. Mae'r diffyg cefnogaeth a roddwyd i Mrs W wedi'i gadael â phoen emosiynol annychmygol ac ni allaf ond gobeithio y bydd fy ymchwiliad yn dod â rhywfaint o gysur iddi."
Ymateb y byrddau iechyd
Mae byrddau iechyd Bae Abertawe a Chwm Taf Morgannwg wedi ymddiheuro ar y cyd i Mrs W a'i theulu gan gydymdeimlo â hi wedi ei cholled drist.
Dywedon nhw eu bod yn cytuno gyda chanfyddiadau'r ombwdsmon a'u bod yn bwriadu eu gweithredu yn llawn - yn eu plith rhoi cefnogaeth lawn i gleifion sy'n dioddef o ganser gastroberfeddol a darparu hyfforddiant pwrpasol i weithwyr iechyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd17 Awst 2018
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2016