Saith newid i Gymru i'r ail gêm yn erbyn Ariannin

  • Cyhoeddwyd
Cymru v ArianninFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cyfartal 20-20 oedd hi yn y gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad y penwythnos diwethaf

Mae Cymru wedi gwneud saith newid i'r tîm a gafodd gêm gyfeillgar gydag Ariannin ar gyfer yr ail gêm rhwng y ddwy wlad y penwythnos hwn.

Mae pedwar newid ymysg yr olwyr, gyda Tom Rogers, Nick Tompkins, Jarrod Evans a Tomos Williams yn cymryd llefydd Jonah Holmes, Willis Halaholo, Callum Sheedy a Kieran Hardy.

Yn y blaenwyr bydd prop y Gweilch, Gareth Thomas yn dechrau ei gêm gyntaf ar lefel rhyngwladol, tra bod Leon Brown a Josh Turnbull yn dod i mewn i'r tîm hefyd.

Maen nhw'n cymryd llefydd Nicky Smith a Dillon Lewis, tra bod Aaron Wainwright wedi'i anafu.

Bydd Turnbull yn dechrau fel blaenasgellwr a Ross Moriarty yn symud i safle'r wythwr, ac mae'n bosib y bydd Matthew Screech yn ennill ei gap cyntaf oddi ar y fainc.

Dyma fydd gêm olaf Cymru yng Nghyfres yr Haf, sydd wedi'u gweld yn rhoi cweir i Ganada a chael gêm gyfartal gydag Ariannin hyd yma.

Tîm Cymru

Hallam Amos; Owen Lane, Nick Tompkins, Jonathan Davies (c), Tom Rogers; Jarrod Evans, Tomos Williams; Gareth Thomas, Elliot Dee, Leon Brown, Ben Carter, Will Rowlands, Josh Turnbull, James Botham, Ross Moriarty.

Eilyddion: Sam Parry, Rhodri Jones, Dillon Lewis, Matthew Screech, Taine Basham, Kieran Hardy, Callum Sheedy, Willis Halaholo.

Pynciau cysylltiedig