Ennill y frwydr am gronfa i gael gwell offer prosthetig

  • Cyhoeddwyd
David Bradley
Disgrifiad o’r llun,

Roedd David Bradley yn "ddig" bod y sefyllfa yng Nghymru'n llai manteisiol nag yng ngwledydd eraill y DU

Mae chwaraewr rygbi cadair olwyn wedi ennill brwydr i sicrhau gwell offer prosthetig yng Nghymru, a hynny ar ôl blino ar "esgusodion gweinidogion".

Fe ymgyrchodd David Bradley yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r un coesau a breichiau electroneg ag oedd ar gael trwy'r GIG yng ngwledydd eraill y DU.

Mae cronfa gwerth £700,000 yn ganlyniad i'r ddeiseb y trefnodd, a bydd yn sicrhau darpariaeth mewn tair canolfan arbenigol yng Nghaerdydd, Abertawe a Wrecsam.

Dywed Mr Bradley bod y cam yn fuddugoliaeth i "rym y bobl".

Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn defnyddio'i ymgyrch fel astudiaeth achos o sut gall pobl Cymru ddylanwadu ar yr hyn sy'n digwydd yn y Senedd.

Newid byd

Fe newidiodd bywyd Mr Bradley, cyn-swyddog iechyd a diogelwch o'r Fenni, yn llwyr o fewn 24 awr un ddydd Gwener yn 2018.

Cafodd boen tra wrth ei waith gan feddwl mai clunwst (sciatica) oedd arno. Ymlediad (aneurism) oedd arno yn hytrach, ac erbyn y bore canlynol roedd yn cael llawdriniaeth frys.

Wythnos yn ddiweddarach, bu'n rhaid torri'i goes dde, uwchben y pen-glin.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth David Bradley ei wybod wedi ei driniaeth bod cymalau prosthetig gwell i'w cael

"Roedd y staff yn Ysbyty Rookwood yn ffantastig ac fe wnaethon nhw roi'r prosthetig gorau oedd ar gael yng Nghymru," meddai.

"Ond wnes i sylweddoli'n fuan wedi hynny, pe taswn i wedi bod yn Lloegr neu'r Alban neu Ogledd Iwerddon, byswn i wedi cael cymal electroneg sy'n llawer gwell.

"Roedd gweinidogion Cymru wedi dweud ers 2016 eu bod am adolygu'r polisi ond heb wneud, felly roedd Cymru ar ôl gweddill y DU am bron i ddegawd.

"Ro'n i mor ddig. Pam dylai'r fath anghysondeb fod o fewn y DU? Ro'n i'n teimlo bod yna anghyfiawnder a bod e ddim yn iawn.

"Roedd yr ymateb cyntaf a ges i yn teimlo fel bod y gweinidog iechyd a gwasanaethau'n rhoi'r cyfrifoldeb am y mater i'w gilydd felly wnes i ddechrau deiseb i gael adolygiad."

'Mae'n bosib newid pethau

Fe ddenodd y ddeiseb gefnogaeth dros 550 o bobl. Roedd yn galw am gyllid fel bod pobl yng Nghymru'n gallu cael yr un fath o gymalau prosthetig ag yn y tair gwlad arall.

Ym mis Mawrth, ymatebodd y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Vaughan Gething i bwyllgor deisebau'r Senedd a chadarnhau manylion cronfa a fyddai'n cael ei gweithredu trwy dair Canolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar ar draws Cymru, dolen allanol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae David Bradley'n aelod o dîm rygbi cadair olwyn y Dreigiau, sy'n chwarae yn Stadiwm Cwmbrân

"Ro'n i wrth fy modd oherwydd ro'n i'n gwybod gymaint fyddai hyn yn ei olygu i unrhyw un yng Nghymru gyda phrosthetig," meddai Mr Bradley.

"Mae'n esiampl wych o'r hyn allwch chi ei wneud os rydych chi'n canolbwyntio, cyflwyno dadl gref a denu cefnogaeth. Mae'n wir bosib i newid pethau.

"Trwy beidio derbyn esgusodion a dadleuon gwan a herio ymatebion gweinidogion mae gyda ni nawr ganlyniad fydd yn trawsnewid bywydau llawer o bobl yng Nghymru."

Mae gwleidyddion wedi disgrifio ymgyrch Mr Bradley fel esiampl o sut gall pobl Cymru ddylanwadu ar bolisi'r llywodraeth.

Yn ystod cyfarfod y pwyllgor deisebau ddydd Gwener, dywedodd Luke Fletcher AS y dylid defnyddio'r ddeiseb fel astudiaeth achos ar gyfer ymgyrchwyr eraill.

Dywedodd: "Rwy'n poeni'n aml fod pobl yn meddwl nad yw eu lleisiau'n cael eu clywed. Ond dyma esiampl ble mae eu lleisiau wedi cael eu clywed a chael effaith ar y Senedd a'r hyn mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud."

Mae canlyniad ymgyrch Mr Bradley wedi ei groesawu gan arweinydd clinigol y maes prostheteg yn Ysbyty Rookwood.

Dywedodd Ian Massey y bydd y cyfarpar gwell "yn gwella'n sylweddol ansawdd bywyd llawer o gleifion" sy'n elwa o wasanaethau'r canolfannau arbenigol "ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu'r gwasanaeth hwn".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cymal newydd wedi gwneud gwahaniaeth "anferthol", medd David Bradley

Pam bod cymalau trydanol yn rhagori?

Mae cymalau mecanyddol yn gweithio fel "piston" yn y goes ac yn gwrthsefyll pwysau wrth i'r defnyddiwr gerdded ond mae'n llai hyblyg, medd David Bradley.

Mae'r microbrosesyddion mewn cymal trydanol yn ymateb yn llawer gwell o ran synhwyro unrhyw bwysau.

"Mae yna wahaniaeth anferthol, yn newid eich bywyd bron," meddai Mr Bradley.

"Byddai'r hen gymal yn achosi gymaint o broblemau nes eich cyfyngu o ran ble gallwch chi fynd. Ro'n i'n arfer osgoi cerdded i lawr llethrau - sy'n anodd i rywun sy'n byw ar fryn!"

Mae adroddiad ar ran GIG Lloegr wedi amlygu astudiaethau yn Yr Eidal a'r Iseldiroedd sydd wedi canfod gostyngiad hirdymor yng nghostau meddygol a gofal pobl sy'n defnyddio penliniau prosthetig wedi'u rheoli gan ficrobrosesydd.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn annog unrhyw un sy'n gymwys i holi am gymorth y gronfa newydd yn eu hapwyntiad nesaf gyda chlinigwr prostheteg.