'Bwlch ariannol' yn rhwystro datblygiadau ynni gwyrdd
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid mynd i'r afael ar frys â'r heriau niferus sy'n wynebu datblygiadau ynni gwyrdd yng Nghymru os oes gobaith cyrraedd targedau newid hinsawdd, yn ôl aelodau seneddol blaenllaw.
Ymhlith yr heriau mae diffyg cyllid, gweithlu addas a hyd yn oed y gallu i gysylltu â llinellau pŵer.
Mae Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin bellach am weld cynllun gweithredu penodol i Gymru gan weinidogion yn San Steffan.
Dywedodd Llywodraeth y DU ei bod wedi clustnodi £40m ar dri phrosiect ynni gwyrdd yng Nghymru yn ddiweddar.
Ond dywedodd Llywodraeth Cymru bod angen i Lywodraeth y DU gefnogi eu huchelgeisiau er mwyn mynd i'r afael â'r rhwystrau a chynyddu cyfleoedd ynni gwyrdd yng Nghymru.
27% o ynni Cymru
Gyda digonedd o wynt, glaw a'r môr, gallai Cymru arwain wrth gynhyrchu ynni glân tra bod y gorsafoedd glo a nwy sy'n cynhesu'r blaned yn dod i ddiwedd eu hoes, yn ôl y pwyllgor.
Yn 2019 roedd yna 72,834 o gynlluniau ynni adnewyddadwy ar waith yng Nghymru - 3,841 yn fwy na 2018.
Ond maen nhw'n cyfrif am 26.9% yn unig o gyfanswm y trydan mae Cymru yn ei gynhyrchu.
Mae hynny'n cymharu â 61.1% o ynni'r Alban, 44.6% yng Ngogledd Iwerddon a 33% yn Lloegr, sy'n deillio o ffynonellau adnewyddadwy.
Mae'r ASau'n bryderus y bydd datblygwyr ynni yn troi eu cefnau ar Gymru os nad yw'r rhwystrau sy'n eu hwynebu yn cael eu taclo.
Mae capasiti'r grid trydan yn her sylweddol, yn enwedig mewn ardaloedd fel canolbarth Cymru ble mae datblygiadau'n cael eu hatal neu eu lleihau oherwydd y costau uchel o orfod uwchraddio llinellau pŵer lleol.
Mae Awel Aman Tawe yn brosiect cymunedol sydd eisoes wedi gosod dau dyrbin gwynt ar Fynydd y Gwrhyd yn Abertawe. Mae'r tyrbinau'n darparu digon o bŵer glân ar gyfer dros 2,500 o gartrefi.
Ond dywedodd y rheolwr Dan McCallum fod cynlluniau i godi tri thyrbin arall wedi eu gohirio oherwydd y "gost anhyfyw" o'u cysylltu i'r grid.
"Rydyn ni wedi cael gwybod y byddai'n costio tua £3m," meddai.
"Rydyn ni i gyd eisiau bwrw ymlaen ond ni allwn symud ymlaen 'efo'r prosiect nes ein bod ni'n gallu gweld bod cost y grid yn rhesymol."
Ychwanegodd ei fod yn hynod rwystredig oherwydd nod y prosiect yw mynd i'r afael â newid hinsawdd.
Yn ôl y pwyllgor, mae angen i Lywodraeth y DU weithio gyda'r rheoleiddiwr ynni Ofgem i gynllunio mwy o fuddsoddiad yn y rhwydwaith drwy Gymru.
Mae angen sylw hefyd ar isadeiledd porthladdoedd er mwyn helpu datblygu ffermydd gwynt mawr oddi ar y tir a chynlluniau ynni morol arloesol.
Mae 'na alw am adolygu'r ffordd mae mynediad i wely'r môr yn cael ei reoli i alluogi mwy o gyfle i gwmnïau gynnig am brydlesi, er bod hyn yn siŵr o brofi'n ddadleuol gyda grwpiau natur ac amgylcheddol.
'Bwlch ariannol'
Mae gan Gymru botensial fawr o ran cynhyrchu trydan o'r môr gyda pharthau arbrofi wedi'u sefydlu oddi ar arfordir Sir Benfro ac Ynys Môn.
Ond mae'r adroddiad yn dweud bod bwlch yn y cymorthdaliadau sydd ar gael yn dal prosiectau ynni llanw a thonnau yn ôl.
Os na fydd y "bwlch ariannol" yma'n cael ei ddatrys yna mae 'na risg o niweidio sector allai fod yn cynhyrchu gwerth £4bn i economi'r DU, rhybuddia'r ASau.
Dywedodd Rhys Wyn Jones, cyfarwyddwr Renewable UK Cymru: "Y peth pwysig i'w gofio yw dy'n ni ddim yn mynd i gyrraedd net zero, datgarboneiddio ein cymdeithas a datgelu'r holl sgiliau a swyddi allai wir gyrru'r economi Gymreig yn y dyfodol oni bai ein bod ni'n gwneud y buddsoddiadau allweddol yma nawr."
Tra bod adnoddau naturiol Cymru'n cynnig eu hunain at brosiectau ynni glân does 'na ddim gwarantu y bydd y sawl sy'n gweithio arnyn nhw wedi'u lleoli yng Nghymru neu'n dod o 'ma, meddai'r pwyllgor.
Maen nhw am weld mwy o ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan y gweithlu yng Nghymru.
Gallai hyn gynnwys dysgu sut i osod, rheoli a chynnal paneli solar, ac mae awgrymiad y gallai hyd at 1.5m o swyddi gael eu creu yn gwneud y math yma o waith ar draws Ewrop erbyn 2030.
'Dim prinder o uchelgais'
Yn y cyfamser, mae 'na le i gredu y gallai 3,000 o swyddi a thros £682m o gyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi gael eu cynnig gan ddatblygiadau ynni gwynt yn y môr Celtaidd erbyn diwedd y ganrif.
Mae'r ASau'n galw ar Lywodraeth y DU i sefydlu "panel lefel-uchel o randdeiliaid" i ddechrau ar strategaeth sgiliau i Gymru, cyn y gynhadledd hinsawdd fawr COP26 yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Stephen Crabb AS, cadeirydd y pwyllgor, gan fod y DU yn cynnal y cyfarfod rhyngwladol ym mis Rhagfyr, nad oedd "moment bwysicach erioed i gydnabod y potensial sy'n bodoli yng Nghymru am lawer mwy o ynni adnewyddadwy".
Ychwanegodd: "Mae'n glir nad oes 'na brinder o uchelgais o fewn i Gymru ond ry'n ni angen strategaeth gliriach gan Lywodraeth y DU yng Nghymru os ydym ni i gymryd mantais o'r cyfleoedd sy'n ymddangos."
Beth yw'r ymateb?
Mae'r adroddiad yn galw ar y ddwy lywodraeth yng Nghaerdydd a Llundain i weithio'n agosach gyda'i gilydd er mwyn taclo'r heriau sy'n wynebu datblygiadau ynni adnewyddadwy.
Mae'n faes cymhleth gan fod grymoedd dros ynni wedi'u rhannu rhwng San Steffan a Llywodraeth Cymru, tra bod sefydliadau fel Ofgem, y Grid Cenedlaethol a Stad y Goron hefyd â chyfrifoldebau.
Dywedodd Llywodraeth y DU ei bod wedi cyhoeddi cynllun 10 pwynt y llynedd sy'n weithredol yn y DU gyfan, a'u bod wedi ymrwymo £20m yn ddiweddar i gynllun datgarboneiddio yn ne Cymru, £15m i ddatblygu lorïau trydan yng Nghwmbrân a £5m ar ganolfan hydrogen yng Nghaergybi.
"Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar ein cynlluniau beiddgar ar ynni adnewyddadwy," meddai llefarydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu'r adroddiad hwn sy'n cydnabod y potensial enfawr i gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru a'r buddion y gall hyn ei gynnig i'n cymunedau a'r economi.
"Rydym eisoes wedi ymrwymo i ddod yn genedl sero net erbyn 2050 ond mae angen i Lywodraeth y DU gefnogi ein huchelgeisiau.
"Mae angen i Lywodraeth y DU weithio gyda ni, gyda'n partneriaid a gyda diwydiant Cymru fel y gallwn nodi a mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n ein wynebu a chynyddu cyfleoedd yng Nghymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Stad y Goron: "Mae gan Gymru rai o'r adnoddau gorau yn y byd ar gyfer ynni morol ac rydym wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda'r farchnad a rhanddeiliaid i fanteisio ar botensial gwely'r môr fel ffynhonnell ynni cost-effeithiol a gwyrdd.
"Dros y 12 mis diwethaf, rydyn ni wedi bod yn gweithio tuag at gynnydd deirgwaith yn fwy ym mhib-linell gwynt alltraeth Cymru, gan gynnwys prosiect 1.5GW oddi ar arfordir Ynys Môn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020