Disgwyl clywed am gais Treftadaeth Byd ardal lechi Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
chwarel Dinorwig ger LlanberisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae chwareli fel yr un yn Dinorwig ger Llanberis yn ran drawiadol o dirlun Eryri o hyd

Mae disgwyl penderfyniad yn y dyddiau nesaf am gais ardal chwareli llechi Gwynedd i gael ei rhestru fel safle treftadaeth byd UNESCO.

Os yw'r cais yn llwyddiannus fe fydd yr ardal yn ymuno â rhestr o thua 900 o lefydd sydd yn cynnwys Côr y Cewri, Wal Fawr China a'r Taj Mahal.

Bydd pwyllgor UNESCO yn cyfarfod dros y dyddiau nesaf i benderfynu ar safleoedd treftadaeth byd newydd.

Mae'r cais yn cynnwys sawl ardal o Wynedd gan gynnwys hen chwareli, adeiladau a rheilffyrdd oedd yn arfer eu gwasanaethu.

Cyfraniad i'r byd

Mae'r archeolegydd diwydiannol Dr David Gwyn yn rhan o dîm sydd wedi bod yn gweithio ar y cais ers dros ddegawd.

"Mae'r diwydiant llechi yn nodwedd eiconig yng ngogledd Cymru, ac o genedl Cymru gyfan, ac wedi bod yn hanfodol bwysig wrth siapio ein tirwedd gymdeithasol ac economaidd," meddai.

"Llechi Cymreig yw un o'r deunyddiau adeiladu sydd wedi teithio bellaf ar draws y byd, ac roedd toeau adeiladau'r 19eg Ganrif yn dibynnu arno.

Ffynhonnell y llun, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth chwarel Penrhyn ger Bethesda gynhyrchu cyfoeth enfawr i'w pherchnogion - nid cymaint i'w gweithwyr

"Ond nid dim ond llechi gafodd ei allforio. Fe wnaeth chwareli llechi Gwynedd hefyd anfon pobl, sgiliau a thechnoleg ar draws y byd, ac o hynny, fe ddysgon nhw o hynny a'u diwydiannau.

"Roedd y rheilffyrdd cul yn rhan hanfodol o'r diwydiant llechi, ac fe gafodd eu dyluniad a'u peirianneg eu copïo ledled y byd."

Fe gyrhaeddodd y diwydiant ei anterth yn yr 1890au, gan gyflogi tua 17,000 o bobl a chynhyrchu 485,000 tunnell o lechi y flwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Os yw'r cais yn llwyddiannus byddai gan ardal llechi Gwynedd yr un statws treftadaeth â Wal Fawr China

Cafodd ei ddefnyddio ar adeiladau ar draws y byd gan gynnwys Neuadd Westminster yn Llundain, Adeilad y Royal Exhibition yn Melbourne Awstralia a Neuadd y Ddinas yn Copenhagen, Denmarc.

Mae'r tîm sydd wedi paratoi'r cais yn dweud fod y cais treftadaeth hefyd wedi'i selio ar y bobl oedd yn gefn i'r diwydiant - y chwarelwyr a'u teuluoedd.

"Fe wnaeth y chwarelwyr siapio'r dirwedd ble roedden nhw'n byw," meddai David Gwyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y diwydiant ar ei anterth o gwmpas troad y ganrif ddiwethaf

"Cafodd y chwareli a'u tipiau cerrig eu creu gyda'u sgil a'u gwaith caled nhw mewn amgylchedd anodd. Fe wnaethon nhw a'u teuluoedd siapio diwylliant Eryri.

"Roedd eu capeli, eglwysi, llyfrgelloedd a chyfarfodydd yn adrodd stori o ffydd, cariad at ddysg, llenyddiaeth a cherddoriaeth.

"Mae tai a gerddi crand perchnogion y chwareli yn dangos cymaint o gyfoeth ddaeth ohonynt.

"Mae'r dirwedd yn fyw ac yn hanesyddol, rhywle ble mae'r gorffennol yn cwrdd â'r presennol.

"Mae diwylliant cadarn ac iaith hynafol dal ar waith yn chwareli llechi Eryri."

'Haeddu cydnabyddiaeth'

Petai'r cais yn llwyddiannus dyma fyddai'r pedwerydd Safle Treftadaeth Byd yng Nghymru, ochr yn ochr â chestyll Edward I yng Nghaernarfon, Conwy, Biwmares a Harlech, tirlun diwydiannol Blaenafon, a thraphont ddŵr a chamlas Pontcysyllte.

"Bwriad yr enwebiad am statws Treftadaeth Byd ydi dathlu a rhannu'r gorau sydd gan ein hardal llechi i'w gynnig i'r byd, yn hanesyddol a hyd heddiw," meddai'r cynghorydd Gareth Thomas, aelod cabinet Cyngor Gwynedd dros Yr Economi a Chymuned.

"Rydyn ni wrth ein boddau fod yr holl waith caled yn y cais wedi cyrraedd y pwynt yma, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at y penderfyniad terfynol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ymhlith safleoedd treftadaeth byd eraill Cymru mae traphont ddŵr Pontcysyllte

"Fel rhan o'r cais, ein bwriadu ydi helpu i gynnig gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd diwydiant llechi Cymru a'i rôl nid yn unig wrth siapio'n cymunedau, iaith a diwylliant ond hefyd o ran rhoi to i'r byd ac allforio technolegau a phobl i bedwar ban.

"Mae'n rhan annatod o'n hanes a'n treftadaeth ac mae'n haeddu cydnabyddiaeth ryngwladol.

"Mae'r cais yn gyfle pwysig i ni ddathlu a chydnabod diwylliant, treftadaeth ac iaith unigryw ardaloedd y chwareli, ac ymfalchïo yn ein cyfraniad i ddynoliaeth a'r byd."