Tri newid i'r Llewod ar gyfer yr ail gêm brawf
- Cyhoeddwyd
Mae Warren Gatland wedi gwneud tri newid i dîm Y Llewod ar gyfer yr ail gêm brawf yn erbyn De Affrica yn Cape Town ddydd Sadwrn.
Bydd y mewnwr Conor Murray, y canolwr Chris Harris a'r prop Mako Vunipola oll yn dechrau.
Mae wythwr Cymru, Taulupe Faletau, ymysg yr eilyddion, ar ôl colli allan yn y gêm brawf gyntaf.
Yn dilyn eu buddugoliaeth o 22-17 yn y gêm honno, Alun Wyn Jones fydd yn arwain y tîm unwaith eto, gan ennill ei 11eg cap i'r Llewod.
Mae Dan Biggar yn cadw ei le fel maswr, er iddo orfod gadael y maes gydag anaf i'w ben y Sadwrn diwethaf.
Yn ôl y disgwyl, nid yw prop Cymru a'r Scarlets, Wyn Jones, wedi dod dros yr anaf i'w ysgwydd a orfododd iddo fethu'r prawf cyntaf.
Ac er iddo ddod ar y cae o'r fainc yn y gêm gyntaf, nid yw Liam Williams wedi ei gynnwys ymhlith yr eilyddion y tro hwn.
Y tîm yn llawn:
15 Stuart Hogg, 14 Anthony Watson, 13 Chris Harris, 12 Robbie Henshaw, 11 Duhan van der Merwe, 10 Dan Biggar, 9 Conor Murray; 8 Jack Conan, 7 Tom Curry, 6 Courtney Lawes, 5 Alun Wyn Jones, 4 Maro Itoje, 3 Tadhg Furlong, 2 Luke Cowan-Dickie, 1 Mako Vunipola.
Eilyddion: 16 Ken Owens, 17 Rory Sutherland, 18 Kyle Sinckler, 19 Tadhg Beirne, 20 Taulupe Faletau, 21 Ali Price, 22 Owen Farrell, 23 Elliot Daly.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2021