Dyn gafodd ei daro ger tafarn 'yn falch i fod yn fyw'

  • Cyhoeddwyd
Darren GeorgeFfynhonnell y llun, Darren George
Disgrifiad o’r llun,

Mae Darren George yn disgwyl llawdriniaeth bellach yn y dyddiau nesaf

Mae dyn gafodd ei daro pan aeth car i ganol criw o bobl yng ngardd tafarn yn dweud ei fod yn "falch i fod yn fyw".

Mae Darren George, 30 oed, yn dal yn yr ysbyty gyda thoriadau i'w goes a'i ffer wedi digwyddiad ger tafarn y Windsor ym Mhontyclun, Rhondda Cynon Taf ddydd Iau.

Roedd yn un o bump o bobl gafodd eu cludo i'r ysbyty wedi i yrrwr 79 oed ddiodde' "pennod feddygol" wrth y llyw.

"Rwy'n falch mod i'n fyw, ac yn falch fod fy nghoes yn dal gen i," meddai Mr George, sef yr unig un o'r cirw ger y dafarn sy'n dal yn yr ysbyty.

Mae'r heddlu'n dal i ymchwilio i'r digwyddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd dydd Iau yn un o ddiwrnodau cynhesaf y flwyddyn

Dywedodd Mr George ei fod wedi ymuno gyda ffrindiau am ddiod yn y tywydd poeth gan ei fod ar fin mynd i weithio i Gaerwŷsg am rai wythnosau.

Roedd un o'i ffrindiau newydd brynu ail ddiod iddo pan welodd y car.

"Edrychais i fyny a gweld car yn dod dros y bont ar ochr anghywir y ffordd, ac yna'n methu car arall ar y pafin o drwch blewyn," meddai.

"Fe wnes i droi at fy ffrind a dweud 'drycha'r ffwl yma fan hyn'."

Pan drodd ei olwg yn ôl at y ffordd, roedd y car yn dod "troed i lawr yn syth amdana ni".

"Wrth i mi geisio mynd at y car, fe wnes i deimlo poen yn fy nghoes a gweld cyhyr yn hongian allan o fy nghoes!"

Roedd yn teimlo'n flin i ddechrau, ond ers hynny mae wedi canfod fod y gyrrwr wedi mynd yn sal wrth y llyw.

Diolchodd i'r bobl ddaeth i gynorthwyo wedi'r digwyddiad, gan ddweud: "Roedd un yn gyn filwr oedd wedi bod yn Afghanistan. Fe gadwodd fi'n dawel a gwneud beth oedd angen ei wneud i achubu fy nghoes. Roedd e'n wych."

Dywedodd Mr George ei fod yn disgwyl bod yn yr ysbyty am o leiaf gweddill yr wythnos, ac y bydd yn cael llawdriniaeth bellach yn y dyddiau nesaf, ond mae'n teimlo'n bositif am wella.

Pynciau cysylltiedig