Cerddoriaeth gyfoes Gymraeg 'mor gryf ag erioed' er Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Osian Williams CandelasFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Osian Williams yn chwarae gyda Candelas yn yr Eisteddfod Gudd nos Sadwrn

Mae'r diwydiant cerddoriaeth gyfoes Gymraeg mor gryf ag erioed er gwaethaf y pandemig, yn ôl un o ffigyrau amlycaf y sîn.

Yn chwarae gyda bandiau fel Candelas, Blodau Papur a Siddi, mae Osian Williams yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd a ffigyrau prysuraf y sîn gerddoriaeth yng Nghymru.

Dywedodd ei bod yn wych gweld cymaint o fandiau yn rhyddhau cerddoriaeth er gwaethaf effeithiau'r pandemig sydd wedi atal gigs am gyfnodau helaeth dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf.

Ond er bod y cyfyngiadau'n llacio, mae'n gweld bod trefnwyr gigs efallai yn amharod i gymryd y risg o drefnu digwyddiadau ar hyn o bryd.

Mae hyn, meddai, yn pwysleisio pwysigrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol i gerddoriaeth gyfoes Gymraeg.

'Sylwi faint wyt ti'n colli gigs'

"Rhaid i fi gyfadde', yr haf diwethaf mi oedd cael haf off yn dipyn o treat i ddechrau achos ein bod ni wedi bod yn gigio ers cymaint o amser," meddai Osian, sydd hefyd yn gynhyrchydd ac yn recordio bandiau o stiwdio Sain.

"Ond wedyn wrth i amser fynd yn ei flaen ti'n sylwi faint wyt ti'n colli gigs a chwarae'n fyw.

"Ti'n sylwi wrth 'neud gigs faint o bobl ti'n eu gweld - ffrindiau cerddorol ti'n eu gweld bob ha' wrth gigio.

"'Da ni 'di colli dwy flynedd o hynny. Mae o'n drist ac wedi bod yn od ofnadwy."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae llu o ddigwyddiadau wedi'u trefnu trwy gydol yr wythnos, gan gynnwys yr Eisteddfod Gudd y penwythnos diwethaf

Er bod cyfyngiadau'n llacio, mae Osian yn gweld bod ychydig o amharodrwydd i drefnu gigs hyd yma oherwydd yr ansicrwydd am beth yn union fydd y rheolau erbyn i'r noson gyrraedd.

"Rhaid i fi ddeud, sgenna ni ddim lot [o gigs] wedi'u trefnu - ambell un yma ac acw," meddai.

"Dydy o ddim fel bod y gigs bach yn fodlon risgio hi. Mae'n siŵr bod o'n dal yn ormod o risg - a chadw at y rheolau i gyd.

"Ma' petha'n pigo fyny - ti'n gweld bod pethau'n cychwyn, sy'n braf gweld - jyst gobeithio y bydd hynny'n cario 'mlaen ac y bydd hi'n mynd 'nôl i normal o ran gigs."

Pwysigrwydd yr Eisteddfod

Yn enwedig gyda chymaint o drefnwyr gigs yn amharod i gymryd y risg o drefnu digwyddiadau ar hyn o bryd, mae canwr Candelas yn credu bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn bwysicach nag erioed i'r diwydiant cerddoriaeth gyfoes.

Mae llu o ddigwyddiadau wedi'u trefnu trwy gydol yr wythnos, o'r Eisteddfod Gudd ar y penwythnos cyntaf, Brwydr y Bandiau a Gig y Pafiliwn yn ystod yr wythnos, a Maes B: Merched yn Gwneud Miwsig ar y penwythnos.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Er bod cyfyngiadau'n llacio yng Nghymru, mae Osian yn gweld ychydig o amharodrwydd i drefnu gigs

"Mae o yn ofnadwy o bwysig - yn bendant," meddai Osian.

"Fel o'n i'n sôn, dydy gigs bach 'wrach methu fforddio risgio rhywbeth fel'na, felly chwarae teg i'r Steddfod - maen nhw wedi mynd all out.

"Duw a ŵyr sawl gig maen nhw wedi ffilmio dros yr wythnos - maen nhw wedi g'neud gwaith andros o dda.

"Naethon ni [Candelas] chwarae nos Sadwrn [yn yr Eisteddfod Gudd], ac er bod dim cymaint o bobl yn cael bod yn y gigs, oedd o union fel Llwyfan y Maes - o flaen pobl ac oedd o'n amlwg bod y crowd wedi ecseitio yn wirion jyst yn cael clywed miwsig byw eto."

'Gymaint o fandiau yn cynhyrchu llwyth'

Er bod y cyfnodau clo wedi cael effaith ar gerddoriaeth fyw, mae nifer o fandiau wedi bod yn brysur ers dechrau'r pandemig yn rhyddhau cerddoriaeth.

Yn ôl Osian mae hynny'n dangos bod y sîn mor gryf ag erioed, er gwaetha'r cyfnod anodd.

"Mae 'na gymaint o fandiau yn cynhyrchu llwyth, sy'n braf gweld," meddai.

"Yn bersonol i fi, do'n i ddim yn gallu cynhyrchu dim byd dros y cyfnod clo - o'n i'n gweld o'n anodd achos bo' fi ddim yn cyfathrebu efo pobl.

"Mae 'na fandiau wedi bod yn recordio albyms, ac mae hynny'n codi eu safon nhw lle maen nhw'n mynd i gyrraedd lefel headlinio llefydd fel Maes B.

"Erbyn y flwyddyn nesa' dwi'n meddwl fydd safon y gigs yn ofnadwy o uchel."

'Mwy o dân ym moliau bandiau'

Mae Osian yn credu y bydd y cyfnod distaw o ran gigs yn ysgogi bandiau i fynd amdani yn fwy nag erioed pan y bydd pethau yn dychwelyd i'r arfer.

"Dio'm wedi stopio'r un band rhag cynhyrchu dim byd - mae 'na dal albyms yn dod allan, ac mae o'n mynd i roi mwy o dân ym moliau bandiau," meddai.

"O ran Candelas a fi yn bersonol, alla i ddim aros i fynd 'nôl i neud gig llawn, a dwi'n siŵr bod bob band arall yr un peth."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gig y Pafiliwn eleni yn dathlu 10 mlynedd o label recordiau I KA CHING

Bydd Osian yn chwarae gyda thri o'r 10 band fydd yn chwarae yn Gig y Pafiliwn nos Iau - Candelas, Blodau Papur a Siddi - ac mae wedi bod yn rhan o gynhyrchu'r cyfan hefyd.

Mae'r gig eleni yn dathlu 10 mlynedd o label recordiau I KA CHING - label sy'n cyhoeddi cerddoriaeth artistiaid fel Sŵnami, Griff Lynch, Mared a'r Eira, yn ogystal â'r bandiau mae Osian yn rhan ohonyn nhw.

Yn ôl Osian mae'r cwmni wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i gerddoriaeth gyfoes Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf.

"Jyst yn cael bod yn rhan o'r gig, oedd o'n sioc - 10 artist yn canu un o'u caneuon mwya' poblogaidd, a ti'n sylwi, 'waw, nhw sy' wedi creu hyn i gyd', heb sôn am yr holl artistiaid eraill," meddai.

"Mae'r cynnyrch maen nhw wedi'i greu yn ofnadwy o safonol, a fysa'r sîn lot tlotach hebddan nhw."