Lauren Price i ymladd am fedal aur yn y Gemau Olympaidd
- Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Bydd y bocsiwr Lauren Price yn ymladd i ennill medal aur ar ddiwrnod olaf Gemau Olympaidd Tokyo 2020 ddydd Sul ar ôl wedi sicrhau lle yn rownd derfynol cystadleuaeth pwysau canol y merched.
Fe gurodd y Gymraes 27 oed o Gaerffili ei gwrthwynebydd o'r Iseldiroedd, Nouchka Fontijn yn y rownd gynderfynol ddydd Gwener er nad oedd penderfyniad y beirniaid yn unfrydol.
Collodd Price bwynt am ddal ei gwrthwynebydd yn ormodol yn ail rownd yr ornest, ond fe darodd yn ôl yn gryf yn y rownd olaf i sicrhau'r fuddugoliaeth.
Bydd yn wynebu Li Qian o China yn y rownd derfynol.
Dywedodd ei bod ar ben ei digon wedi gornest "anodd".
Ychwanegodd: "Breuddwyd pawb yw cyrraedd y ffeinal ac rwyf am wneud popeth posib i ddod â'r fedal aur adref."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2019