Lauren Price yn saff o fedal yn y bocsio pwysau canol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Lauren PriceFfynhonnell y llun, Reuters

Mae Lauren Price yn saff o ennill medal efydd o leiaf yn y bocsio pwysau canol ar ôl buddugoliaeth gyfforddus yn rownd yr wyth olaf.

Fe enillodd y Gymraes 27 oed, sy'n cystadlu yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf eleni, o 5-0 yn erbyn Atheyna Bylon o Banama yn yr ornest fore Sadwrn.

Bydd Price yn wynebu Nouchka Fontijn o'r Iseldiroedd yn rownd gynderfynol y pwysau canol ddydd Gwener.

Hi yw'r prif ddetholyn ar ôl ennill medal aur ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2019 ac yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2018.

Dywedodd Price wrth y BBC bod cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn "gwireddu breuddwyd" a'i bod hi'n "methu egluro faint mae'r cyfan yn ei olygu iddi hi".

Pynciau cysylltiedig