Cyhuddo tri o lofruddiaeth wedi ymosodiad Parc Bute

  • Cyhoeddwyd
Dr Gary JenkinsFfynhonnell y llun, Family photo
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Dr Gary Jenkins yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar 5 Awst

Mae dau ddyn a merch 16 oed wedi cael eu cyhuddo o lofruddio dyn 54 oed ym Mharc Bute, Caerdydd.

Bu farw Dr Gary Jenkins yn gynharach yn yr wythnos, 16 diwrnod wedi ymosodiad arno yn y parc.

Roedd wedi bod yn yr ysbyty ers yr ymosodiad yn oriau man 20 Gorffennaf.

Ymddangosodd Jason Edwards, 25 oed o ardal Glan-yr-afon, Caerdydd, Lee William Strickland, 36 oed a heb gyfeiriad parhaol a merch 16 oed na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, gerbron Llys y Goron Casnewydd brynhawn Mercher.

Siaradodd y ddau ddyn i gadarnhau eu henwau yn unig. Ymddangosodd y ferch drwy gyswllt fideo.

Fe fydd gwrandawiad pellach ar 15 Hydref pan mae disgwyl i'r tri bledio i'r cyhuddiad.

Os fydd achos llawn, fe fydd yn cychwyn ar 17 Ionawr, 2022.

Pynciau cysylltiedig