Pum munud gyda'r artist Camilla Jane Gittins
- Cyhoeddwyd
Mae Camilla Jane Gittins yn artist sy'n arbenigo mewn tirluniau. Yn wreiddiol o Meifod, mae hi bellach yn byw yn Amsterdam gyda'i phartner a'i merch.
Bu'n siarad gyda Cymru Fyw am ei bywyd a'i gyrfa.
Ydy dy gefndir Cymreig yn ysbrydoli dy gelf?
Ces i fy magu ar fferm yn agos at Meifod, rhan hardd iawn o'r wlad. Dwi'n falch iawn o 'ngwreiddiau Cymreig a dwi o hyd wedi caru tirweddau Cymru, sy'n un peth dwi wedi colli'n fawr ers mod i'n byw yn yr Iseldiroedd gan nad oes mynydd mewn golwg!
Mae tir, môr ac awyr yn ysbrydoliaeth cyson ar gyfer fy ngwaith. Dwi'n cael fy swyno gan liwiau a gwead natur, a'r haenau sy'n eu cysylltu.
Beth arweiniodd ti i fod yn artist llawn-amser yn byw yn Amsterdam?
Dwi wedi bod yn greadigol mor hir â dwi'n gallu cofio. Dwi'n cofio gwnïo gyda llaw gwisg dawnsio disgo i fy hun yn bump oed.
Fy hoff ddosbarthiadau yn yr ysgol oedd celf, tecstilau a serameg, dim ond creu dwi wedi eisiau gwneud erioed.
Ar ôl graddio, do'n i ddim wir yn gwybod beth ro'n i eisiau gwneud, roedd bod yn arlunydd yn yr oedran a'r amser hwnnw'n teimlo'n anodd ac yn unig.
Ro'n i eisiau gweithio fel rhan o dîm creadigol felly symudais i Lundain a gweithio i Jack Wills fel dylunydd am dair mlynedd.
Arweiniodd hynny at fy ngyrfa yn Amsterdam. Am chwe blynedd ro'n i'n gweithio i Tommy Hilfiger ac erbyn y diwedd o'n i'n Rheolwr Dylunio Creadigol. Tua chwe mlynedd yn ôl, dechreuais fethu fy mhrosiectau creadigol personol a dechrau paentio o fwrdd y gegin.
Cafodd rhai o'r lluniau eu defnyddio fel rhan o ddyluniad mewnol ar gyfer Tommy Hilfiger ac yn raddol dechreuais leihau fy oriau er mwyn cael mwy o amser ar gyfer paentio, nes i fi ddod yn arlunydd llawn amser ym mis Mai 2019 yn 31 oed.
Roedd gadael swydd mor dda yn frawychus ac yn llawn risg ond ro'n i'n barod ar gyfer y cam mawr nesaf 'ma ac yn barod am fywyd gwaith gwahanol.
Ro'n i wedi datblygu a thyfu fel person ac hefyd wedi cwrdd â'm partner Seb, sy'n gefnogol iawn felly roedd fy mywyd personol yn gyflawn.
Erbyn hyn, ro'n i hefyd wedi arbrofi a meistroli fy steil unigryw, wedi adeiladu fy nilynwyr ar Instagram ac roedd gen i gasgliad o gelf yn barod ar gyfer fy arddangosfa gyntaf.
Diolch byth doedd e ddim yn fflop ac es i 'mlaen i gael tri arddangosfa llwyddiannus cyn i'r pandemig daro!
Mae Instagram wedi bod yn llwyfan mor anhygoel i'm busnes, byddwn i ddim wedi goroesi hebddo. Mae'n anhygoel gallu arddangos dy waith i gynulleidfa na fyddai erioed wedi dod ar draws dy waith fel arall.
Hefyd o ddiddordeb
Sut effeithiodd y pandemig ar dy fywyd yn Amsterdam?
Ym mis Mawrth 2020 cafodd pob arddangosfa ei chanslo neu ei gohirio. Ro'n i'n poeni am fy musnes ac yn meddwl mai celf fyddai'r peth olaf y byddai pobl yn ei brynu.
Ond digwyddodd y gwrthwyneb - tyfodd fy musnes dros y cyfnod. Roedd pawb gartref ac roedd pobl eisiau i'w cartrefi edrych yn braf. Roedd yna fudiad anhygoel hefyd ar Instagram yn ystod y pandemig o'r enw'r Artist support pledge lle gallai artistiaid hyrwyddo a gwerthu eu gwaith a phrynu gan artistiaid eraill. Roedd yn llwyddiant mawr.
Do'n i ddim yn gallu mynd mewn i fy stiwdio i yn y cyfnod yma felly 'naethon ni droi ein lolfa fach yn stiwdio lle ro'n i'n paentio bob dydd yn ystod y cyfnod clo.
Ro'n i'n ddiolchgar iawn am fy nghelf - helpodd i 'nghadw i'n gall yn ystod yr amseroedd ansicr iawn hynny.
Beth arall sy'n dy ysbrydoli?
Dw i a Seb wrth ein boddau yn teithio yn y fan, yn arbennig o amgylch Sgandinafia. Pan ni'n mynd, dw i'n mynd â rholyn mawr o gynfas gyda fi, paent a brwsys. Dwi wrth fy modd yn paentio yng nghanol natur ac yn ymgolli yn llwyr yng nghanol y llun.
Sut mae rhoi genedigaeth i ferch fach yn ystod y cyfnod clo wedi newid dy fywyd?
Fel rheol, dwi'n ymweld â Chymru tua pump gwaith y flwyddyn ond pan darodd y pandemig, aeth 18 mis heibio cyn o'n i'n gallu ymweld. Yn y cyfnod yma, fe wnes i syrthio'n feichiog a dod yn fam.
Roedd yn anodd peidio rhannu'r foment anhygoel yna gyda fy nheulu ond dwi'n ddiolchgar bod popeth wedi mynd yn iawn gyda genedigaeth fy merch hardd, Peggy.
Cymerais chwe mis i ffwrdd o'r gwaith, gan baentio lluniau mini o fwrdd y gegin tua'r diwedd. Dwi bellach wedi dechrau gweithio eto ond Peggy yw fy mlaenoriaeth; dwi am iddi fod yn hapus. Mae hi mewn meithrinfa da lle bydd hi'n dysgu siarad Iseldireg yn ogystal â Saesneg a Chymraeg gartref.
Beth nesaf?
Dwi wir yn mwynhau bod yn ôl yn y gwaith, yn caru paentio darnau mwy o faint eto. Byddwn i ddim yn dweud bod fy steil wedi newid ers dod yn fam ond mae fy lluniau cyntaf yn teimlo'n heddychlon ac yn fwy tawel.
Dwi ddim yn cynllunio'n rhy bell i'r dyfodol, am y tro ni'n hapus iawn yn Amsterdam ac mae gen i lawer o gomisiynau i fy nghadw'n brysur tan haf nesaf. Yna dwi'n gobeithio cael arddangosfa go iawn rhyw adeg y flwyddyn nesaf.