Llygad-dyst i farwolaeth Porth Neigwl am weld mwy o arwyddion
- Cyhoeddwyd
Mae dyn oedd yn llygad-dyst i ymdrechion i achub dyn ar ôl iddo fynd i drafferthion yn y môr ym Mhen Llŷn wedi gofyn i bobl gefnogi'r gwasanaethau brys er cof am y dyn fu farw.
Roed Bryn Dando o Lanfair Caereinion ym Mhowys ar draeth Porth Neigwl ger Abersoch ddydd Gwener, 6 Awst pan ddigwyddodd y drasiedi.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, gan gynnwys gwylwyr y glannau a'r gwasanaeth ambiwlans, bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod dyn, nad yw wedi cael ei enwi'n gyhoeddus, wedi marw ar ôl cael ei dynnu o'r môr.
Dywedodd Bryn Dando y byddai'n hoff o weld achubwyr bywyd ar ddyletswydd yn llawn amser ar y traeth, yn ogystal â chael cyfarwyddiadau diogelwch manylach i bobl sy'n dod ar draws gwrth-gerhyntau.
'Traeth hynod o beryglus'
"Mae'r traeth yn mynd yn brysurach ac mae'n draeth hynod o beryglus. Hoffwn weld mwy o arwyddion disgrifiadol o'r peryglon, a fyddai'n dweud wrth bobl beth i edrych allan amdano, neu rhywbeth fel 'na," meddai.
"Hoffwn i bobl ariannu beth bynnag y gallant, hyd yn oed os yw'n ychydig o bunnoedd y mis trwy ddebyd uniongyrchol, ar gyfer gwylwyr y glannau, achubwyr bywyd neu'r ambiwlans awyr."
Mae Mr Dando hefyd yn credu y dylid cael cofeb i'r dyn fu farw i helpu i gyfeirio pobl at y rhybuddion diogelwch.
Ychwanegodd y gall gwybodaeth leol fod yn bwysig hefyd: "Unrhyw ddiwrnod pan fydd y syrffio yn dda, bydd yr ysgol syrffio leol yno.
"Felly os ydych chi'n syrffio lle maen nhw, maen nhw'n gwybod beth i edrych allan amdano, ac rydych chi'n agos at bobl eraill ac yn fwy tebygol o gael cymorth."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Fel cyngor rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu'r unigolyn a fu farw ddydd Gwener.
"Er ei fod yn syfrdanol o hardd gall arfordir Gwynedd fod yn beryglus iawn, a gall traethau fod yn anrhagweladwy iawn o ran effaith a phŵer tonnau a cheryntau.
"Rydym yn annog pob aelod o'r cyhoedd i gofio am beryglon o'r fath, i fod yn ofalus iawn a chymryd sylw o wybodaeth, arweiniad ac arwyddion rhybuddio penodol.
"Mae'r traeth ym Mhorth Neigwl yn anghysbell, yn cynnig cyfleusterau cyfyngedig iawn ac yn gorchuddio ardal sylweddol o'r Rhiw i Drwyn Cilan. Mae'n draeth deinamig iawn gyda llawer o donnau, yn enwedig yn ystod gwyntoedd cryfion o'r gorllewin ac ar adegau pan mae'r llanw'n uchel.
"Mae arwyddion rhybuddio ar waith sy'n cyfeirio at beryglon penodol yn y lleoliad hwn gan gynnwys ceryntau cryf a thonnau mawr sy'n torri. Mae'r arwyddion hefyd yn hysbysu'r cyhoedd nad yw'r traeth yn cael ei oruchwylio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2021
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2021