Dyn wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn y môr ym Mhen Llŷn

  • Cyhoeddwyd
Porth Neigwl
Disgrifiad o’r llun,

Mae traeth Porth Neigwl ger Abersoch yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr yn ystod yr haf

Mae dyn wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn y môr ar draeth Porth Neigwl ym Mhen Llŷn ddydd Gwener.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad am 14:45 yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei dynnu o'r dŵr.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, gan gynnwys gwylwyr y glannau a'r gwasanaeth ambiwlans, bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.

Yn dilyn y digwyddiad mae cynghorydd o blwyf Llanengan yn galw am gael achubwyr bywyd ar draeth Porth Neigwl.

'Angen achubwyr bywyd'

Dywedodd yr heddlu bod swyddogion yn rhoi cefnogaeth i deulu'r dyn fu farw, a'u bod y meddwl am y teulu "ar gyfnod eithriadol o anodd".

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru mewn datganiad: "Cawsom ein galw i adroddiadau o argyfwng meddygol ar draeth Porth Neigwl am 14:35 ddydd Gwener, 6 Awst.

"Cafodd Ambiwlans Awyr Cymru, dau gerbyd ymateb cyflym a dau ambiwlans eu gyrru i'r safle."

Ffynhonnell y llun, Anthony Robinson
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Anthony Robinson bod ymateb y gwasanaethau brys wedi bod yn anhygoel

Roedd Anthony Robinson o Bradford ar wyliau ym Mhen Llŷn gyda'i deulu yr wythnos ddiwethaf, ac roedd ar y traeth pan gafodd y dyn ei dynnu o'r dŵr ddydd Gwener.

Dywedodd nad oedd yn agos at y digwyddiad ond daeth rhywun draw ato i ofyn a oedd modd defnyddio ei fwrdd syrffio i atal y gwynt rhag amharu ar yr ymdrechion i achub y dyn.

Ychwanegodd bod y llanw yn dod i mewn yn sydyn felly bod y criw fu'n helpu i gadw'r gwynt draw wedi tynnu'r dyn oddi ar y traeth ac i mewn i ambiwlans.

Dywedodd Mr Robinson bod ymateb y gwasanaethau brys wedi bod yn "anhygoel".

"Mae gen i barch enfawr atyn nhw," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

John Brynmor Hughes, cynghorydd Plwyf Llanengan ym Mhen Llŷn

Yn dilyn y digwyddiad mae'r cynghorydd John Brynmor Hughes yn galw am achubwyr bywyd ar draeth Porth Neigwl.

"Mae angen lifeguards yno ond mae hefyd angen cyfleusterau yno, ac mae hynny'n golygu gwario a phwy sydd am dalu?" meddai Mr Hughes.

"Mae'n drist bod 'na fywyd 'di cael ei golli... lle mae'n bosib fysa lifeguard wedi gwneud gwahaniaeth."

Ychwanegodd fod yna "lawer mwy o ymwelwyr" yn ymweld â'r traeth eleni yn sgil y pandemig.

"Mae'n draeth poblogaidd iawn efo'r syrffyrs ond erbyn heddiw mae 'na paddleboarding, bodyboarding... Mae'n draeth mawr felly mae 'na ddigon o le yno, ond mae'n draeth peryg efo riptide hegar yno," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Fel cyngor rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu'r unigolyn a fu farw ddydd Gwener.

"Er ei fod yn syfrdanol o hardd gall arfordir Gwynedd fod yn beryglus iawn, a gall traethau fod yn anrhagweladwy iawn o ran effaith a phŵer tonnau a cheryntau.

"Rydym yn annog pob aelod o'r cyhoedd i gofio am beryglon o'r fath, i fod yn ofalus iawn a chymryd sylw o wybodaeth, arweiniad ac arwyddion rhybuddio penodol.

"Mae'r traeth ym Mhorth Neigwl yn anghysbell, yn cynnig cyfleusterau cyfyngedig iawn ac yn gorchuddio ardal sylweddol o'r Rhiw i Drwyn Cilan. Mae'n draeth deinamig iawn gyda llawer o donnau, yn enwedig yn ystod gwyntoedd cryfion o'r gorllewin ac ar adegau pan mae'r llanw'n uchel.

"Mae arwyddion rhybuddio ar waith sy'n cyfeirio at beryglon penodol yn y lleoliad hwn gan gynnwys ceryntau cryf a thonnau mawr sy'n torri. Mae'r arwyddion hefyd yn hysbysu'r cyhoedd nad yw'r traeth yn cael ei oruchwylio."