'Colli swyddi Fali am arwain at fwy o bobl i adael Môn'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae'r peiriannydd Gwilym Owen yn gweithio ar yr awyrennau Hawk yn Y Fali ers 12 mlynedd

Fe allai swyddi sydd mewn perygl o ddiflannu o faes awyr yr Awyrlu yn Y Fali arwain at ragor o bobl ifanc i adael Ynys Môn er mwyn canfod gwaith, yn ôl cynghorydd lleol.

Fe gyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gynharach eleni y byddai defnydd o'r awyren Hawk T1 yn dod i ben ym mis Mawrth 2022, gydag undeb Unite yn rhybuddio y gallai hyd at 70 o swyddi gael eu colli.

Ymwelodd yr AS Llafur Nia Griffith ag Ynys Môn ddydd Iau i drafod gydag undebau a gwleidyddion eraill.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn y bydd y newidiadau yn sicrhau arbedion fydd yn cael eu "hail-fuddsoddi" yn y maes amddiffyn.

Mae'r awyren Hawk T1 wedi cael ei ddefnyddio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ers 1976.

Does dim disgwyl i awyrennau enwog y Red Arrows gael eu heffeithio gan y swyddi fydd yn cael eu colli, ac mae disgwyl iddyn nhw barhau i hedfan tan o leiaf 2030.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed undeb Unite fod y penderfyniad yn ergyd fawr i'r economi leol

Ond yn ôl y Cynghorydd Gwilym O Jones o Gyngor Môn mae 'na bryder y bydd y swyddi fydd yn diflannu yn arwain at ragor i adael yr ardal.

"Yn sicr mae'n peri pryder, nid yn unig i'r cyfeillion sy'n colli swyddi ond hefyd gan ei fod o am effeithio ar yr economi leol ar yr ynys," meddai.

"Mae colli 70 yn andros o slap. 'Dan ni'n sôn am bobl sydd wedi eu heffeithio i safon uchel iawn.

"Mae 'na rai o'r bechgyn wnaeth golli gwaith [yn safle Wylfa] wedi cael cyflogaeth ar y maes awyr yma ond mae clywed am bobl fel'na yn colli swyddi yn peri pryder i rywun.

"'Da chi'n gwybod fod 'na gwmnïau yn ardal Amlwch wedi ein gadael ni. Mi oedd 'na obeithion mawr am orsaf Wylfa Newydd wrth gwrs, ac mi oedd 'na gynlluniau manwl yn eu lle."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y defnydd o'r awyren Hawk T1 sy'n hedfan o'r Fali yn dod i ben ym mis Mawrth 2022

Mae'r Cynghorydd Jones, a weithiodd am nifer o flynyddoedd yn Wylfa, wedi gweld nifer o bobl leol yn gadael yr ardal am swyddi sgil uchel ac mae 'na bryder y gallai hynny ddigwydd eto.

"Roedd rhai ifanc wedi cael eu cyflogi mewn swyddi o safon uchel dros ben a rhai o'r hogiau rheiny wedi mynd i Wlad yr Haf - mae'n slap," meddai.

Dywedodd y Cynghorydd Jones fod rhywfaint o obaith, gydag awgrym o bosib y bydd 'na gartref newydd i awyrennau y Red Arrows, er nad oes cadarnhad o hyd.

Disgrifiad o’r llun,

Pryder y Cynghorydd Gwilym O Jones yw y bydd colli'r swyddi yn arwain at bobl ifanc i adael yr ardal

"Yr unig gysur ydy bod 'na bosib y bydd y Red Arrows yn dod yma i gael gwaith cynnal a chadw," dywedodd.

"Does dim cadarn hyd yn hyn ond mae 'na sôn y byddai swyddi yn y fan yna ac y byddai hynny yn lliniaru'r sefyllfa.

"Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud y bydd yr Hawk T1 yn gadael flwyddyn nesa ac mae'n bwysig i ni gael deall a chael gwybodaeth yn fuan am beth sy'n digwydd yng nghyd-destun y Red Arrows."

Mae undeb Unite eisoes wedi disgrifio'r newyddion fel "ergyd enfawr i'r gweithlu", gan ddweud fod yr amserlen o ddadgomisynu yn "sioc".

Bu cynrychiolwyr yn cwrdd â gwleidyddion ddydd Iau i drafod ymhellach.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nia Griffith ym Môn ddydd Iau i drafod y sefyllfa gyda gwleidyddion a chynrychiolwyr undeb lleol

Dywedodd llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur - AS Llanelli, Nia Griffith - y bydd yn "dal ati" i bwyso ar weinidogion am atebion gan ddadlau'r achos pan fydd ASau'n dychwelyd i San Steffan ym mis Medi.

"Beth sydd eisie nawr ydy trio deall beth yw'r broses, beth fydd yr adran amddiffyn yn neud a sut fydden nhw'n neud e," meddai.

"Y ffaith yw mae yna werth am arian yma [ym Môn] achos mae yna bobol profiadol iawn, maen nhw'n gwneud gwaith arbennig o dda a'r ffaith yw mae'r RAF yma hefyd."

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud ar leoliad ar gyfer gwaith cynnal a chadw awyrennau Hawk, ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau presenoldeb hir-dymor a sylweddol yn Y Fali."