'Tair blynedd o broblemau' heb drwsio ffordd gyswllt bwysig
- Cyhoeddwyd
Mae gwleidyddion yn ardal Wrecsam yn galw am arian ar frys i ddechrau atgyweirio ffordd sydd ar gau ers misoedd.
Achosodd tirlithriad ym mis Ionawr ddifrod sylweddol i'r B5605 yn Newbridge, ond doedd y prosiect i'w drwsio ddim yn gymwys am gyllid o'r gronfa gymorth llifogydd gan nad oedd y digwyddiad wedi effeithio ar eiddo.
Rhybuddiodd AS lleol y gallai gymryd "hyd at dair blynedd" i wneud y "ffordd gyswllt bwysig" yn ddiogel eto.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn trafod ffyrdd eraill o ariannu'r gwaith gyda Chyngor Wrecsam.
Gallai'r gwaith gostio tua £1.5m yn ôl amcangyfrif cynnar y cyngor.
'Achosi pryder a phroblemau mawr'
Dywedodd David A Bithell, sy'n gyfrifol am yr amgylchedd a thrafnidiaeth ar gabinet y sir, bod y sefyllfa'n "achosi pryder a phroblemau mawr" yn lleol, yn enwedig gan fod y ffordd yn cael ei defnyddio i ddargyfeirio'r traffig pan fo gwaith neu argyfwng ar briffordd yr A483 gerllaw.
"Dwi ychydig yn siomedig nad oes gan Lywodraeth Cymru £500,000-£700,000 i'w roi i'r cyngor mewn argyfwng, o ystyried eu bod wedi ariannu prosiectau eraill, mwy ar draws Cymru," meddai.
"Dwi'n erfyn ar Lywodraeth Cymru i roi'r arian i ni rŵan… fel bod modd ailagor y ffordd."
Mae'r awdurdod lleol yn deall bod cael cyllid gan y llywodraeth yng Nghaerdydd yn ddibynnol ar adolygiad gwariant Llywodraeth y DU - ond does dim disgwyl y byddan nhw'n gallu gwneud cais tan 2022.
Yn ôl Llyr Gruffydd, Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, gallai hyn olygu anghyfleustra tymor hir i ardaloedd fel Newbridge, Cefn Mawr, Rhosymedre a'r Waun.
"Maen nhw'n dweud bod pres llifogydd ddim yn addas ar gyfer cael ei glustnodi i hwn - ond llifogydd sydd wedi achosi'r difrod, wrth gwrs," meddai.
"'Dan ni'n edrych ar gyfnod o hyd at dair blynedd o anghyfleustra eithriadol i bobl leol sy'n gorfod teithio'n bell iawn i fynd, hyd yn oed, i'r ysgol."
Digwyddodd y tirlithriad yn ystod Storm Christoph ac fe gafodd Cyngor Wrecsam £285,000 gan y llywodraeth i dalu am waith atgyweirio mewn rhannau eraill o'r sir.
Tra'n siopa yn Y Waun, dywedodd Anita Bowers, sy'n byw'n lleol, y dylai'r gwaith o drwsio'r B5605 fod wedi cychwyn bellach.
"Dylen nhw fod wedi ei wneud amser maith yn ôl, a dwi'n credu bod rhan fwyaf pobl ffordd hyn yn teimlo'r un fath," meddai.
Yn ôl Gareth Edwards, sydd hefyd o'r Waun, "allwch chi ddim beio [y llywodraeth] os dydyn nhw methu dod o hyd i'r pres yn syth" achos y gost.
"Ond mae angen ei ddatrys, achos mae'n ffordd sy'n cael llawer o ddefnydd," ychwanegodd.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Roedd cais Cyngor Wrecsam i'r Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd yn aflwyddiannus gan mai ariannu gwaith atgyweirio sydd o fudd i eiddo yn unig mae'r rhaglen.
"Rydym nawr yn gweithio gyda Chyngor Wrecsam i ddod o hyd i ffordd arall o ariannu'r prosiect."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2021