'Es i o fenthyg £150 ar-lein i fod mewn £6,000 o ddyled'
- Cyhoeddwyd
Pan oedd Tom mewn gŵyl gerddorol ac angen ychydig o arian ychwanegol, fe wnaeth o gais am fenthyciad diwrnod cyflog o'i ffôn yn ei babell.
O fewn munudau roedd ganddo £150 yn ei gyfrif banc - ond o fewn misoedd, roedd hynny wedi arwain at ddyledion o £6,000 gyda 10 cwmni gwahanol.
"Ro'n i'n 18, yn ifanc ac yn wirion," meddai Tom, oedd yn dweud ei fod yn teimlo gormod o "embaras" i ddweud wrth ei deulu.
Daw hynny wrth i ymchwil ddangos fod bron i ddau draean o'r rheiny oedd yn benthyg gan un cwmni ar-lein oedd heb drwydded yn bobl dan 30.
'Chwalu fy nerfau i'
Mae adroddiad gan Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru hefyd wedi canfod bod traean o fenthycwyr i bobl o Gymru ar y cyfryngau cymdeithasol un ai heb fenthyg o'r blaen, neu wedi cael eu gwahardd yn ddiweddarach o blatfformau fel Reddit am dorri rheolau.
Fe wnaethon nhw hefyd ganfod bod risg o gamdriniaeth i'r bobl hynny sy'n defnyddio benthycwyr didrwydded, neu 'siarcod benthyg'.
Fe gafodd y profiad effaith fawr ar iechyd meddwl Tom - nid ei enw iawn.
"Doeddwn i methu byw yn iawn a ro'n i'n poeni am y peth lot," meddai. "Fe wnaeth o chwalu fy nerfau i, o'n i wastad yn panicio."
Dechreuodd y cyfan pan oedd yn brin o arian yn yr ŵyl gerddorol, ac mae'n dweud mai'r "peth hawsaf yn y byd" oedd mynd ar ap y cwmni benthyca a dewis faint o arian oedd ei angen arno.
Fis yn ddiweddarach fe dalodd Tom y ddyled, ond roedd hynny wedyn yn golygu ei fod yn brin o arian eto ac felly fe gymerodd fenthyciad arall, ac yna un arall.
Byddai wedyn yn cael negeseuon ac e-byst bob dydd gan y gwahanol gwmnïau yn mynnu ei fod yn talu'r symiau yn ôl gyda chyfraddau llog uchel.
"Ar gyfer £200 byddai'n rhaid i fi dalu £500 yn ôl i un ohonyn nhw, achos roedd fy nghredyd mor wael roedd o'n gwneud y gyfradd llog yn uchel iawn," meddai.
"O'n i'n teimlo fel bod nunlle arall i fi fynd."
'Doedd dim ots ganddyn nhw'
Daeth trobwynt pan fu'n rhaid i Tom fynd i'r ysbyty yn dilyn damwain car ddifrifol.
Pan ddaeth ei fam draw, fe welodd ei ffôn symudol a llwyth o negeseuon gan y benthycwyr, ac fe ddywedodd Tom bopeth wrthi.
Roedd Joanne - eto, nid ei henw iawn - yn dweud ei bod hi wedi "dychryn yn llwyr" gyda faint o ddyled roedd ei mab wedi gallu ei bentyrru mewn cyn lleied o amser.
"Iddyn nhw allu mynd a gwasgu ar ap a chael arian, a chadw'r peth yn ddirgelwch oddi wrthoch chi, mae'n ddychrynllyd," meddai.
"Mae hwnna'n rhy ifanc i adael iddyn nhw allu cael cymaint â hynny o arian mor hawdd, heb gamau mewn lle i gyfyngu a rheoli hynny."
Hyd yn oed pan oedd Tom yn gwella yn yr ysbyty, roedd y cwmnïau yn ei "haslo i dalu'r arian yn ôl".
"Nes i siarad gyda rhai ohonyn nhw ac esbonio ei fod wedi bod mewn damwain ac nad oedd o mewn lle da iawn oherwydd beth ddigwyddodd, a doedd dim ots ganddyn nhw," meddai.
Mae Joanne nawr eisiau gweld rheolau llymach ar y diwydiant, gydag ysgolion hefyd yn cynnig mwy o addysg ar arian a chyllidebau personol.
Ychwanegodd Tom - sydd dal mewn tua £4,000 o ddyled - y dylai'r oedran ar gyfer benthyg arian ar-lein godi i 21.
"Maen nhw'n dwyn gan bobl fregus achos maen nhw'n gwybod gyda chyfraddau llog uwch eu bod nhw'n mynd i gael y bobl fwyaf despret," meddai.
Perygl o gamdriniaeth
Dywedodd Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru (UBAAC) fod y rhan fwyaf o geisiadau benthyg arian ar gyfer symiau bach, ond bod y rheiny yn aml yn mynd tuag at gostau sylfaenol fel bwyd a rhent.
Roedd y mwyafrif o geisiadau hefyd yn dod gan fyfyrwyr a phobl ar fudd-daliadau, gydag Undebau Credyd Cymru'n dweud bod pobl ifanc yn arbennig o fregus pan ddaw at y perygl o fynd i dwll o ddyled.
Ychwanegodd UBAAC fod tystiolaeth fod rhai cwmnïau benthyg sydd ddim yn cael eu trwyddedu yn defnyddio tactegau eraill allai arwain at gamdriniaeth.
Roedd hyn yn cynnwys gofyn i bobl dalu yn ôl mewn ffordd wahanol, fel rhoi gwybodaeth breifat neu gyfrineiriau allai gael eu defnyddio ar gyfer twyll, neu mewn achosion eithafol, lluniau noeth.
"Rydyn ni'n poeni bod dim rheoleiddio o gwbl ar y math yma o fenthyca, ac y gall hyn arwain at gamdriniaeth," meddai rheolwr UBAAC, Sarah Smith.
"Mae rhai ceisiadau benthyg o Gymru am gyn lleied â £7. Gall pobl sy'n ei chael hi'n anodd dal dau ben llinyn ynghyd ddisgyn i dwll y siarcod benthyg a thwyllwyr yn hawdd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2021