Twrnament golff Cwpan Curtis yn rhoi 'Conwy ar y map'

  • Cyhoeddwyd
Cwrs
Disgrifiad o’r llun,

Clwb Golff Conwy yw'r cyntaf yn y gogledd i ddenu Cwpan Curtis

Am y tro cyntaf mewn dros 40 mlynedd mae un o gystadlaethau golff mwya'r byd yn cael ei lwyfannu yng Nghymru.

Clwb Golff Conwy yw'r cyntaf yn y gogledd i ddenu Cwpan Curtis, sy'n ornest rhwng merched amatur Prydain ac Iwerddon, a'r goreuon o'r Unol Daleithiau.

Yn ôl Guto Lewis, cadeirydd y pwyllgor a lwyddodd i ddenu'r bencampwriaeth i Gonwy, maen nhw "mor falch" fod y gystadleuaeth yma o'r diwedd.

Bu'n rhaid gohirio y llynedd oherwydd y pandemig.

'Gêm y bobl gyffredin'

"Mae Conwy wedi bod yn ardal golff erioed," meddai.

"Mae 'na lwyth o glybiau, ac mae o bron iawn fel Yr Alban. Gêm y bobl gyffredin ydy hi yma.

"Mae denu'r Cwpan Curtis yn brawf faint o frwdfrydedd sydd yna tuag at y gêm yn lleol."

Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Guto Lewis ydy denu mwy o gystadlaethau mawr yn y dyfodol

Ychwanegodd: "Mae gynnoch chi'r Cwpan Ryder a'r Cwpan Solheim - mae'r rheiny i chwaraewyr proffesiynol. I'r dynion a'r merched amatur, mae gynnoch chi'r Cwpan Walker a'r Cwpan Curtis.

"Yma yng Nghonwy 'da ni'n mynd i weld y merched fydd yn ennill y cystadlaethau mwyaf yn y byd golff yn y pump i 10 mlynedd nesaf. Fe fydd y safon yn uchel iawn."

Mae'r Cwpan Curtis yn dyddio'n ôl i 1932 ac yn cael ei chwarae fel arfer bob dwy flynedd. Yr Americanwyr sydd ar y blaen o 29-8 gyda thair gornest gyfartal.

Daeth dwy o fuddugoliaethau'r Unol Daleithiau ar dir Cymru. Fe enillon nhw ar gwrs St Pierre yng Nghas-gwent yn 1980, ac ym Mhorthcawl cyn hynny yn 1964.

Yng Nghonwy mae tîm Prydain ac Iwerddon yn gobeithio taro'n ôl ar ôl colli'i gafael ar y tlws yn Efrog Newydd yn 2018.

Does yna ddim chwaraewr o Gymru yn y tîm o wyth eleni, dan gapteiniaeth Elaine Ratcliffe.

Mae denu'r Cwpan Curtis ynddo'i hun er hynny yn hwb sylweddol i'r gamp yng Nghymru, ac yn gyfle o bosib i ennyn diddordeb rhagor o ferched.

Mae'n bluen arall hefyd yn het Cyngor Sir Conwy, sy'n hen gyfarwydd erbyn hyn gyda denu cystadlaethau chwaraeon o bwys i'r ardal.

Ar ôl y golff dros y tridiau nesaf fe fydd beicwyr y Tour of Britain yn yr ardal ddechrau Medi.

'Conwy ar y map'

Mae angen canmol y tîm sy'n denu'r digwyddiadau yma yn ôl y Cynghorydd Goronwy Edwards.

"Nid yn unig fod hyn yn rhoi Conwy ar y map, mae'n rhoi gogledd Cymru ar y map," meddai.

"Mae'r Cwpan Curtis wedi'i gyfyngu i 4,000 o bobl yn gwylio oherwydd y cyfyngiadau.

"Fysa llawer iawn mwy o bobl wedi dod fel arall oherwydd safon y golff, ond fe fydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu ar draws y byd."

I Glwb Golff Conwy y gobaith, yn ôl Guto Lewis, yw i greu argraff dros y tridiau nesaf er mwyn denu rhagor o gystadlaethau mawr i'r Morfa.

"Unwaith 'da ni wedi dangos i'r R&A [Royal and Ancient] pa mor gyfeillgar a phroffesiynol ydyn ni fel clwb efallai y daw cystadlaethau eraill yma hefyd."

Pynciau cysylltiedig