Dyn yn pledio'n euog i lofruddio'i fam yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Judith RheadFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Judith Rhead, 68, ei ganfod mewn eiddo ar Stryd y Farchnad yn Noc Penfro

Mae dyn wedi pledio'n euog i lofruddio'i fam yn Sir Benfro.

Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth, cyfaddefodd Dale Morgan, 43, iddo lofruddio Judith Rhead, 68.

Cafwyd hyd i'w chorff mewn eiddo ar Stryd y Farchnad yn Noc Penfro ar 20 Chwefror eleni.

Yn ymddangos trwy gyswllt fideo o garchar Abertawe, siaradodd Morgan, o Neyland, i gadarnhau ei enw ac i nodi ei ble.

Cyfaddefodd Morgan iddo ladd ei fam rywbryd rhwng 10 Rhagfyr 2020 a 20 Chwefror 2021.

Dywedodd y barnwr Paul Thomas QC wrth Morgan y bydd yn cael ei ddedfrydu ar 4 Hydref ac y gall ddisgwyl dim ond un ddedfryd, sef carchar am oes.

Pynciau cysylltiedig