Pryder dyn am ei deulu sydd methu â gadael Afghanistan

  • Cyhoeddwyd
KabulFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae miloedd ar filoedd o bobl yn disgwyl tu allan i faes awyr Kabul yn y gobaith o adael y wlad

Mae dyn o Afghanistan sydd bellach yn byw yng Nghymru yn poeni am ei deulu wedi iddyn nhw fethu â dianc rhag y Taliban.

Mae miloedd o bobl wedi bod yn cael eu hedfan o faes awyr Kabul ers i'r Taliban gymryd rheolaeth o'r brifddinas yn gynharach yn y mis.

Yn y pythefnos diwethaf y gred yw bod dros 100,000 o bobl wedi cael eu hedfan o'r wlad.

Ond dywedodd Max Zabih Amiri, lwyddodd i ffoi o'r wlad yn 2002, yn dweud bod rhai aelodau o'i deulu wedi treulio tridiau yn y maes awyr ond wedi methu â gadael.

'Pawb yn teimlo'n ddiobaith'

"Roedd hi'n orlawn yno. Fe wnaeth fy nith lewygu ac roedd yn rhaid iddyn nhw fynd adref," meddai.

"Gyda gweddill y teulu, dydy rhai ohonyn nhw ddim yn gallu teithio i unrhyw le gan fod y ffin ynghau. Mae pawb yn teimlo'n ddiobaith ac yn aros adref.

"Ry'n ni'n gobeithio y bydd y sefyllfa yn newid er mwyn iddyn nhw allu mynd i rywle, neu ddod â nhw yma os yn bosib - unrhyw le yn y byd dim ond bod heddwch yno.

Mae Mr Amiri, 44, wedi byw yn Wrecsam ers iddo ffoi o Afghanistan yn 2002, ac mae wedi gweithio fel cyfieithydd a gyrrwr tacsi, yn ogystal â helpu eraill sydd wedi ffoi rhag rhyfeloedd neu galedi eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Max Zabih Amiri bellach yn byw yn Wrecsam wedi iddo ffoi o Afghanistan yn 2002

Mae cwestiynau yn codi nawr ynglŷn â sut y bydd y Taliban yn llywodraethu, a beth fydd hynny'n ei olygu i fenywod, hawliau dynol a rhyddid gwleidyddol.

"Does 'na neb yn teimlo'n ddiogel. Mae gan bawb ofn - maen nhw i gyd mewn panig," meddai Mr Amiri.

"Y peth gwaethaf ydy'r tlodi. Ers i'r Taliban ddod i rym mae pawb yn aros adref, dim busnes, dim banciau, a dim mewnforio nac allforio."

Mae hynny wedi arwain at alwadau am ragor o gymorth i'r rheiny sydd methu â gadael Afghanistan.

Sefyllfa 'enbyd'

Dywedodd Sam Mort o elusen Unicef yn Kabul fod y sefyllfa yn "enbyd ac yn gwaethygu".

"Mae gennym ni hanner miliwn o bobl sydd wedi gadael eu cartrefi ac mae 'na ansicrwydd enfawr am beth fydd yn digwydd nesaf," meddai.

"Mae tua hanner y wlad angen cymorth dyngarol ac mae bron i hanner y rheiny yn blant."

Pynciau cysylltiedig