Ydy hi'n amser i chi wneud ewyllys?

  • Cyhoeddwyd
ysgrifennauFfynhonnell y llun, Westend61

Mae sawl camsyniad ynghylch ysgrifennu ewyllys, a rheiny'n medru achosi poen meddwl, penbleth a phroblemau.

Ar Gwneud Bywyd yn Haws ar BBC Radio Cymru, bu'r gyfreithwraig Awel Mai Hughes, sy'n bartner gyda'r cwmni Agri Advisor, yn rhannu ei harbenigedd â Hanna Hopwood.

Ac yma ar BBC Cymru Fyw, rydyn ni'n herio rhai o'r mythau mwyaf sy'n ymwneud â'r ddogfen sy'n cael ei hystyried fel yr un bwysicaf erioed…

1. Dim ond hen bobl sydd angen gwneud ewyllys!

ANGHYWIR!

Dyma'r myth mwyaf un pan mae hi'n dod at ewyllysau. Dylai unrhywun dros 18 oed gael ewyllys. Mae'n arbennig o bwysig i'r rheiny sydd yn berchen ar eiddo, sydd â phlant neu sy'n rhedeg busnes.

Gall peidio â chael ewyllys arwain at broblemau lu i'r rhai sydd ar ôl.

2. Ond bydd fy nheulu yn sortio popeth ar ôl i fi farw…

ANGHYWIR!

Heb ewyllys dilys, y gyfraith fydd yn penderfynu pwy sy'n etifeddu eich ystâd yn unol â rheolau marwolaeth heb ewyllys. Gall hyn olygu na fyddai rhai aelodau o'ch teulu yn derbyn unrhywbeth o gwbl. Gall hefyd olygu costau cyfreithiol a gweinyddol uchel.

Ffynhonnell y llun, Thanasis Zovoilis
Disgrifiad o’r llun,

Pwy fydd yn edrych ar ôl y plant? Rhaid rhoi cyfarwyddiadau pendant mewn lle yn eich ewyllys

3. Iawn, ond bydd fy nheulu'n gofalu am fy mhlant o leiaf…

ANGHYWIR!

Mae nifer o rieni yn meddwl y bydd eu dewis nhw o berthnasau - brodyr neu chwiorydd, rhieni-cu ac ati - yn gofalu am eu plant petai rhywbeth yn digwydd iddyn nhw. Ond dydy hyn ddim yn wir. Y gwasanaethau plant a'r llys fydd yn penderfynu pwy sy'n addas i ddod yn warchodwyr cyfreithiol i unrhyw blant o dan 18 oed.

Er mwyn sicrhau bod pobl yr ydych chi'n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw am fod yn gofalu am eich plant, yna mae'n hollbwysig penodi gwarchodwyr yn eich ewyllys sy'n rhoi arweiniad cadarn i'r rhai fydd yn gwneud y penderfyniad yn y Llys o'ch dymuniadau chi.

Gallwch hefyd sicrhau yn yr ewyllys bod darpariaeth ariannol digonol i'ch plant a phenodi Ysgutorion cyfrifol all hefyd fod yn Ymddiriedolwyr i'r plant nes byddant yn 18 oed.

GETTY
O ysgutor i fuddiolwr... egluro’r termau cymhleth

  • YsgutorionY person/pobl sy'n gyfrifol am ddosrannu eich ystâd yn unol â'ch ewyllys wedi i chi farw.

  • BuddiolwyrY bobl sy'n derbyn asedau o'r ewyllys – hawl i weld dim ond y darn yn yr ewyllys sy'n eu henwi.

  • YmddiriedolwyrRheoli arian neu asedau i fuddiolwyr tan eu bod yn ddigon hen neu gymwys i dderbyn yr ased.

  • YstâdYr holl bethau rydych chi'n eu gadael ar ôl wedi eich marwolaeth - yn cynnwys eich dyledion.

  • AsedauY pethau yn eich ystâd; fel tŷ neu adeiladau, ceir, gemwaith, cynilion, dodrefn neu unrhywbeth sydd â gwerth personol.

Awel Mai Hughes

4. Dwi wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil, felly bydd fy nghymar yn etifeddu popeth yn awtomatig…

ANGHYWIR!

Dyw hi ddim yn wir y bydd eich cymar o reidrwydd yn etifeddu eich ystâd ar ôl i chi farw. Mae pethau fel gwerth eich ystâd, ac os oes 'na blant ynghlwm, yn mynd i effeithio ar sut y bydd eich asedau yn cael eu dosrannu.

5. Mae gen i gymar cydnabyddedig - 'common law partner' - ac felly byddan nhw'n cael popeth os nad oes ewyllys gen i…

ANGHYWIR!

Does dim y fath beth â chymar cydnabyddedig yn llygad y gyfraith. Os ydych yn cyd-fyw â'ch partner neu mewn perthynas sydd heb ei gofrestru'n gyfreithiol, yna heb ewyllys, ni fydd eich partner yn derbyn unrhywbeth oddi wrth eich ystâd.

Bydd plant, rhieni neu frodyr a chwiorydd y partner (ble nad oes cofrestriad cyfreithiol o'r berthynas) ag hawliau i'r asedau o dan Rheolau Diffyg Ewyllys. Yr unig ffordd i warchod hyn ydy drwy nodi eich dymuniadau yn eich ewyllys.

6. Mae fy ewyllys cyntaf yn addas am weddill fy oes…

ANGHYWIR!

Mae unrhyw briodas yn diddymu unrhyw ewyllys blaenorol yn awtomatig.

7. Dwi'n medru sgwennu ewyllys adref…

Er nad yw hyn yn gwbl anghywir, mae ysgrifennu ewyllys eich hunan yn gallu bod yn broblematig tu hwnt.

Mae rhaid fod yr ewyllys yn gwbl ddilys yn unol â gofynion y gyfraith. Nid yw ysgrifennu llythyr neu debyg yn nodi eich dymuniadau yn ddigonol. Mae rhaid iddo gael ei ddyddio, ei arwyddo a'i dystio a gall geirfa o fewn ewyllys newid ystyr cymal yn llwyr.

Mae angen cymryd gofal mawr wrth ddefnyddio pecynnau sy'n eich harwain drwy'r cyfan. Er mwyn osgoi unrhyw ddryswch, sicrhewch eich bod yn cael arweiniad gan bobl broffesiynol fel cyfreithwyr neu rheiny sydd wedi eu cymhwyso i ysgrifennu ewyllysau.

Disgrifiad o’r llun,

Hanna Hopwood fu'n ceisio dod i ddeall ewyllysau ar raglen Gwneud Bywyd yn Haws gyda'r gyfreithwraig Awel Mai Hughes

8. Mae ysgrifennu ewyllys yn morbid…

Mae meddwl a siarad am farwolaeth yn gallu bod yn bwnc anodd, ond drwy ganolbwyntio ar y ffaith eich bod yn gwarchod eich anwyliaid ac yn rhoi arweiniad iddynt drwy nodi eich dymuniadau pwysicaf, yna'r gobaith yw bod modd ystyried ewyllys fel dogfen bositif.

Er yr holl gamsyniadau, does dim rhaid iddo fod yn broses gymhleth a chostus. Un peth sy'n sicr - gall peidio â chael ewyllys dilys olygu tipyn mwy o gymhlethdod a thipyn fwy o gost i'r rhai sydd ar ôl.

Pynciau cysylltiedig