Pobl ag imiwnedd gwan i gael dos arall o frechlyn Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrechuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd byrddau iechyd yn cysylltu ag unigolion sydd angen cael trydydd dos

Dylid cynnig trydydd dos o frechlyn Covid-19 i unigolion, 12 oed neu hŷn, a oedd yn imiwnoataliedig iawn ar adeg eu dos cyntaf neu ail o'r brechlyn, neu'r ddau, meddai'r Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI).

Mae pobl sy'n imiwnoataliedig ag iminwedd gwan ac yn aml yn cael trafferth delio â heintiau neu glefydau eraill.

Yn aml gall hyn gael ei achosi gan glefydau neu afiechydon penodol fel AIDS, canser, diabetes, diffyg maethiad a rhai anhwylderau genetig.

Dywed y JCVI bod angen amddiffyniad ychwanegol rhag Covid ar rai unigolion bregus.

Dros y DU, mae tua 1% o'r boblogaeth yn perthyn i'r categori yma - rhwng 400,000 a 500,000 o bobl.

Disgrifiad o’r llun,

Yn gynharach dywedodd Eluned Morgan bod byrddau iechyd eisoes wedi cynllunio i roi trydydd dos i bobl

Wrth ymateb dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, ei bod yn croesawu'r penderfyniad, a "bydd y GIG yng Nghymru yn gweithio'n gyflym i nodi unigolion cymwys".

Clinigwyr arbenigol fydd yn penderfynu pa unigolion ddylai gael trydydd dos ac wedi hynny bydd byrddau iechyd yn cysylltu.

Pwysleisir nad oes angen cysylltu â'ch bwrdd iechyd na'ch clinigwyr i wirio os ydych yn gymwys.

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd y bydd y gwaith yn dechrau ar unwaith i nodi a chynllunio pa gleifion a ddylai gael eu brechu.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i nodi hefyd mai brechlyn Covid-19 yw'r ffordd orau o atal salwch difrifol a lledaeniad y feirws ac anogir unrhyw un nad yw wedi cael eu brechu eto i gael y dos sylfaenol.