Dim esgob wedi'i benodi i Abertawe ac Aberhonddu

  • Cyhoeddwyd
Coleg EtholiadolFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Coleg Etholiadol wedi'u cloi yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe er mwyn dod i benderfyniad

Mae Coleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru wedi methu ag ethol esgob ar gyfer Abertawe ac Aberhonddu.

Ers ddydd Mercher roedd aelodau o'r coleg etholiadol wedi'u cloi yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe er mwyn dod i benderfyniad.

Roedd gan y coleg dridiau i wneud eu dewis a'r disgwyl yw y byddai enw'r esgob newydd yn gael ei gyhoeddi yn ffurfiol y tu allan i ddrws gorllewinol yr eglwys.

Ond mewn neges ar eu cyfrif Twitter brynhawn Gwener nododd yr Eglwys yng Nghymru nad oes esgob wedi'i ethol.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan The Church in Wales

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan The Church in Wales

Fe ddaeth y swydd yn wag wedi i Archesgob Cymru, John Davies, oedd hefyd yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu, ymddeol ym mis Mai.

Yr esgob newydd fyddai degfed Esgob Abertawe ac Aberhonddu.

Wedi'r cyfarfod, dywedodd Andy John, Esgob Bangor a Llywydd y Coleg Etholiadol: "Yn anffodus ni ddim wedi gwneud penodiad eto. Dyw e ddim wedi bod yn bosib i ni gyrraedd un barn, un feddwl - felly mae'r penderfyniad nawr yn mynd i Fainc yr Esgobion.

"Bydd yn flaenoriaeth i ni ymgysylltu ag Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu a dwi'n siŵr y bydd yn bosib i ni ffindio rhywun i arwain yr esgobaeth i'r cam nesaf o'i fywyd."

Roedd y Coleg Etholiadol yn cynnwys 47 o bobl sy'n cynrychioli pob un o chwech esgobaeth Cymru - cynrychiolwyd yr esgobaeth "gartref" gan chwech o leygwyr a chwech o glerigwyr, a'r pump esgobaeth arall gan dri o leygwyr a thri o glerigwyr yr un, ynghyd â'r pump esgob arall.

Gan bod y Coleg wedi methu ethol, y Fainc Esgobion fydd yn ethol yr esgob newydd maes o law.

Ar ôl i hynny ddigwydd bydd trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer ethol Archesgob Cymru.

Pynciau cysylltiedig